– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 10 Mawrth 2021.
Felly, y datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Eleni mae’n ddwy ganrif a hanner ers geni'r arloeswr a’r diwygiwr cymdeithasol Robert Owen. O dras werinol yn y Drenewydd yng Nghymru, daeth yn hyrwyddwr hawliau'r dosbarthiadau gweithiol, deddfau llafur plant, a hyrwyddodd safonau byw gwâr i bawb. Hyd heddiw, mae'r gwaith sylfaenol a wnaeth yn ein helpu i adeiladu cymdeithas decach y mae pob un ohonom yn rhanddeiliaid ynddi.
Ac yntau’n un o sefydlwyr y mudiad cydweithredol, darparodd weledigaeth amgen yn lle realiti llwm y Brydain ddiwydiannol, ac arweiniodd ei waith diflino mewn sawl maes at ddatblygu golwg newydd ar gymdeithas, un lle caiff cenedl gydweithredol hunangynhaliol ei dal at ei gilydd gan bileri addysg i bawb, gofal iechyd am ddim ac ymgorffori hawliau gweithwyr. Arweiniodd ei weithredoedd at gadwyn o ddigwyddiadau y gellir olrhain llawer o newidiadau deddfwriaethol blaengar a sefydliadau blaengar yn ôl atynt.
Yma yng Nghymru, nodweddir ein gwaith yn adeiladu’r genedl gan egwyddorion cydweithredu a chyfunoliaeth, gyda nodau a gwerthoedd a rennir, partneriaethau cymdeithasol rhwng busnesau a gweithwyr, hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol gweithwyr a chymaint mwy eto. Felly, wrth inni nodi a dathlu dwy ganrif a hanner ers geni Robert Owen, brodor o'r Drenewydd a Chymru a'r byd, rydym yn nodi bod ei waddol yn parhau, yn dal i fyw yn ein plith ac yn ein helpu i lunio'r Gymru a'r byd a welwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y nesaf gan Russell George.
Diolch yn fawr. Hoffwn longyfarch Ambiwlans Awyr Cymru ar eu hugeinfed pen-blwydd ar 1 Mawrth. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwasanaeth achub bywyd hwn dros y blynyddoedd am eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u hymroddiad i bobl Cymru.
Sylfaenydd yr elusen a chadeirydd cyntaf yr ymddiriedolwyr oedd y diweddar Robert Palmer, ac o'i weledigaeth ef, mae Ambiwlans Awyr Cymru bellach wedi tyfu o un hofrennydd wedi’i leoli yn Abertawe i fod yn weithgarwch ambiwlans mwyaf y DU, gyda phedwar hofrennydd, gan gynnwys un yn y Trallwng, yn fy etholaeth i. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae wedi esblygu o fod yn wasanaeth a arweinir gan barafeddygon i wasanaeth a arweinir gan feddygon ymgynghorol, sy'n mynd â'r adran achosion brys at y claf. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyflawni dros 38,000 o deithiau, ac mae angen £8 miliwn arnynt bob blwyddyn. Felly, diolch i bobl Cymru, erbyn hyn mae gan ein gwlad y gweithgarwch ambiwlans awyr mwyaf yn y DU ac un o'r rhai mwyaf datblygedig yn feddygol yn Ewrop, ac yn gweithredu bob awr o bob dydd.
Felly, i nodi eu pen-blwydd, mae'r elusen ar hyn o bryd yn cynnal digwyddiad codi arian o'r enw My20, a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael cefnogaeth dda gan drigolion ledled Cymru. Felly, ymunwch â mi i ddymuno'r gorau i’r ambiwlans awyr ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ymwneud â'r elusen, ddoe a heddiw.