Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 10 Mawrth 2021.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone am ddod â'r mater hwn i'r Senedd heddiw? Credaf ei fod yn dangos pwysigrwydd y mater yn glir ac yn ailddatgan bod diabetes math 2 yn broblem ddifrifol iawn ledled Cymru. Gwyddom fod diabetes math 2 yn effeithio ar nifer syfrdanol o deuluoedd yma yng Nghymru. Yn ôl data a gyhoeddwyd yn 2019 gan Diabetes UK, mae dros 8 y cant o bobl 17 oed a hŷn yn byw gyda diabetes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n gwasanaethu fy etholaeth. Mae’r rhan helaethaf o’r achosion hyn yn ddiabetes math 2. Mewn termau real, golyga hyn fod bron i 40,000 o deuluoedd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol, ac mae'r nifer wirioneddol yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch.
Mae diabetes yn cael effaith sy'n newid bywydau pobl, ac fel y mae Jenny Rathbone wedi’i nodi'n glir, gwyddom fod trin diabetes math 2 yn rhoi straen aruthrol ar y GIG yng Nghymru, yn enwedig ar hyn o bryd. Nid yn unig fod y rheini sy'n dioddef o ddiabetes math 2 mewn mwy o berygl o salwch difrifol os ydynt yn cael eu heintio â COVID, maent hefyd mewn perygl o ddioddef yn sgil problemau iechyd difrifol eraill, gan gynnwys clefyd y galon, strôc, clefyd yr arennau a cholli eu golwg. Ni ellir gorbwysleisio pa mor anodd yw ymdrin â'r problemau cymhleth hyn i gleifion ac ymarferwyr fel ei gilydd.
Ond gwyddom hefyd fod pethau y gallwn eu gwneud i leddfu'r baich. Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir atal diabetes math 2. Annog pobl i wneud dewisiadau iachach yw'r cam cyntaf amlwg, ond gellir gwneud mwy ac mae'n rhaid gwneud mwy. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes a'r gwaith y mae'r grŵp trawsbleidiol wedi'i gyflawni drwy gydol tymor y Senedd hon. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod olaf ar sut y mae diabetes yn effeithio ar iechyd meddwl yr wythnos nesaf. Yn y rôl hon, rwyf wedi bod yn falch o glywed am lwyddiant cynllun peilot cwm Afan, ac rwy’n awyddus i weld sut y gellir ailadrodd y llwyddiannau hyn ledled Cymru. Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i sicrhau bod llai o bobl yn dioddef o'r salwch hwn am weddill eu hoes yn allweddol. Mae annog pobl i ddeall eu risg bersonol yn un cam y gall pob un ohonom ei gymryd yn awr. Yn 2018, roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad yn y Senedd i bobl ddeall eu risg o ddal diabetes math 2. Yn anffodus, ni fu modd cynnal digwyddiad tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, ond byddwn yn annog unrhyw un sy’n dymuno gwybod mwy am eu lefel risg i ymweld â gwefan Diabetes UK, lle mae amryw o adnoddau ar gael.
Hoffwn orffen drwy ddyfynnu un o fy etholwyr, Sarah Gibbs, sy'n byw gyda diabetes math 2. Mae wedi disgrifio'r afiechyd fel un ‘didrugaredd. Gall effeithio ar bob agwedd ar eich bywyd. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle a chymorth i'w atal.’ Ddirprwy Lywydd, mae angen inni wneud mwy i gynnig y cyfle hwn i bobl yng Nghymru. Diolch.