Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig yn ei nodi, Cymru sydd â'r nifer uchaf o bobl yn dioddef o ddiabetes yng ngorllewin Ewrop. Ar hyn o bryd, mae'n llowcio 10 y cant o gyllideb ein GIG—mae hynny’n £950 miliwn o gyllideb iechyd y flwyddyn nesaf.
Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â diabetes math 1, cyflwr meddygol cymhleth sydd fel arfer yn taro pobl ifanc yn eu glasoed, ac mae’r hyn sy’n ei achosi’n gymhleth a heb fod yn gysylltiedig â deiet. Mae cyfraddau diabetes math 1 yn aros yr un fath i raddau helaeth o flwyddyn i flwyddyn. Mae diabetes math 2 yn fater gwahanol. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r epidemig go iawn o ddiabetes math 2: mae dros 200,000 o bobl eisoes wedi cael diagnosis ohono, a llawer mwy heb gael diagnosis, a rhagwelir y bydd hyd yn oed nifer y rheini sydd wedi cael diagnosis yn codi i dros 300,000 o bobl erbyn 2030, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Mae gan Gymru dros 0.5 miliwn o bobl sydd dros bwysau neu'n ordew, ac sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. A gadewch inni wynebu’r peth, ni all y broblem honno fod ond wedi gwaethygu o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, gan fod pob un ohonom wedi bod yn bwyta mwy nag y dylem. Ond y ffaith fwyaf sobreiddiol yw bod traean o'r holl bobl sydd wedi marw o COVID hefyd yn dioddef o ddiabetes. Felly, beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hyn, a beth y gallwn ei wneud i atal pobl rhag cael diabetes yn y lle cyntaf?
Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain heb raglen atal diabetes genedlaethol. Mae gan Loegr un, mae gan yr Alban un, ond nid Cymru. Ac fel y wlad fwyaf gordew yn Ewrop, ymddengys i mi fod hynny’n ddiofal, yn annoeth, ac mae angen i hynny newid ar frys, yn enwedig gan fod gennym ateb costeffeithiol, sydd wedi ennill sawl gwobr, a wnaed yng Nghymru ar garreg ein drws. Mae ymyrraeth fer a dreialwyd yng nghwm Afan gan glwstwr o naw practis meddyg teulu, mewn cydweithrediad â maethegwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi bod ar waith ers mwy na thair blynedd ac wedi cael ei dadansoddi’n drylwyr gan Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau bod y ffigurau’n gwneud synnwyr.
Mae'n gosteffeithiol am fod y practisau meddygon teulu yn nodi pa gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ac nid oes angen iddynt fynd yn agos at ysbyty er mwyn cael yr ymyrraeth hon, ac yng nghyd-destun yr holl broblemau y byddwn yn eu cael gyda rhestrau aros i bobl sydd angen triniaeth mewn ysbyty, mae honno'n ffaith bwysig iawn. Mae hefyd yn effeithiol iawn, gan ei bod yn cael ei darparu gan staff anfeddygol practisau sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gan ddeietegwyr mewn sgiliau maetheg, ac mae hynny'n ei gwneud yn hawdd i’w chyflwyno ledled y wlad. Mae'n gosteffeithiol am fod yr ymyrraeth fer yn cynnwys ymarfer corff, cyngor deietegol a thaflenni gwybodaeth, ac yn costio £44 y claf yn unig. Os cymharwch hynny ag ymyrraeth yn Lloegr, sy'n cael ei gyflawni gan arbenigwyr, mae honno'n costio rhwng £240 a £290 y claf. Mae hefyd yn gwbl gosteffeithiol am nad aeth bron i ddwy ran o dair o'r bobl a gymerodd ran yn y rhaglen hon ymlaen i gael diabetes yn ddiweddarach. Felly, mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrifo y byddai cyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol yn arbed dros £6 miliwn y flwyddyn i bob bwrdd iechyd, ac nid yw hynny'n cynnwys y buddion personol i'r claf yn sgil peidio â chael diabetes a pheidio â bod mewn perygl o golli eu golwg, colli eu coesau a marw'n gynamserol
Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod rhaglen ymyrraeth fer cwm Afan wedi ennill gwobr Ansawdd mewn Gofal diabetes y DU gyfan y llynedd. Mae hon yn enghraifft wirioneddol o ofal iechyd darbodus ar waith. Beth sy'n ein rhwystro rhag ei chyflwyno'n ehangach? Mae’n defnyddio'r dull amlddisgyblaethol o ymdrin â chlefyd cronig lle rydym ar frig y tablau cynghrair yn Ewrop gyfan yn anffodus. Sut y gallwn fforddio peidio â gwneud hyn? Rwy'n gobeithio clywed felly fod hon yn flaenoriaeth bwysig iawn i'r Gweinidog, o gofio’r niferoedd uchel iawn o bobl sydd mewn perygl o gael diabetes math 2, a'r goblygiadau difrifol sy'n deillio o'r clefyd.