Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 10 Mawrth 2021.
Mae fy uchelgais ers dechrau'r pandemig hwn wedi bod yn ddeublyg: yn gyntaf, cefnogi busnesau fel eu bod yn goroesi ac yn cadw gweithwyr, er gwaethaf y sefyllfa ddifrifol y maent yn ei hwynebu; ac yna'n ail, cefnogi'r rhai sydd, yn anffodus, yn colli eu gwaith neu sy'n ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, os oedd gennych fusnes da yn 2019, y bydd gennych fusnes da yn 2021, a dyna'n union yw fy uchelgais o hyd, a dyna pam y mae'n rhaid inni gryfhau'r economi sylfaenol, fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, a chydnabod pwysigrwydd hanfodol gweithwyr allweddol a'r rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae yn ein llesiant ac ym mhob sector o'n heconomi.
Nawr, ym mis Ionawr cyhoeddwyd £3 miliwn pellach gennym ar gyfer cronfa her yr economi sylfaenol a'r prosiectau y mae'n eu cynnal. Mae'n gwella'r modd y darperir nwyddau a gwasanaethau bob dydd rydym i gyd yn eu defnyddio a'u hangen—gwella rhagolygon cyflogaeth o fewn yr economi sylfaenol a sicrhau arferion gorau y gallwn i gyd ddysgu oddi wrthynt. Yn gyffredinol, mae ein pecyn cymorth i fusnesau yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn fwy na £2 biliwn. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael o hyd yn y Deyrnas Unedig. Erbyn y mis diwethaf, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi diogelu bron i 150,000 o swyddi. Mae hynny'n fwy na 10 y cant o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru. Credaf fod adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol yr angen i fanteisio ar y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac annog busnesau newydd. Y nod yw i economi ôl-bandemig Cymru ysgogi ffyniant yn gyfartal a helpu pawb i wireddu eu potensial; felly mae harneisio diwylliant entrepreneuraidd bywiog yn hanfodol bwysig.
Rydym wedi helpu busnesau newydd yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu mwy na £4 miliwn i fusnesau newydd sy'n wynebu methiant, ac mae hynny wedi diogelu tua 1,600 o fusnesau. Bwriadwn helpu i ailadeiladu, tyfu a chryfhau'r sector mentrau cymdeithasol fel ei fod yn fodel busnes naturiol o ddewis i entrepreneuriaid sy'n darparu atebion i'r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n ein hwynebu, ac ymhellach, mae ein cronfa rwystrau, ar gyfer unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth, yn targedu pobl ifanc a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 yn benodol. Cafwyd mwy na 330 o geisiadau erbyn diwedd mis Ionawr, a phob un yn cael hyd at £2,000 i gael y cyfle gorau posibl i wneud i'w menter newydd lwyddo, ac mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad COVID gwerth £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor a chymorth i bobl dros 16 oed i ddod o hyd i waith, i fynd ar drywydd hunangyflogaeth, i ddod o hyd i le mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac mae hyn yn cynnwys cymhellion cyflogi i gyflogwyr: pobl ifanc 16 i 24 oed, pobl anabl; pobl o gymunedau du, lleiafrifoedd ethnig ac Asiaidd; menywod. Bydd y rhai y mae COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt yn cael blaenoriaeth o fewn y cynllun hwnnw. Ar ôl cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn defnyddio £16.4 miliwn i ysgogi busnesau i gyflogi dechreuwyr newydd a pharhau i gyflogi 5,000 o brentisiaid. Bydd £3 miliwn hefyd i gefnogi prentisiaid lefel gradd mewn TGCh ddigidol a gweithgynhyrchu uwch, er mwyn darparu llwybr amgen i unigolion gaffael sgiliau lefel uwch.
Nawr, mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gyllid ymchwil a datblygu, mae cynyddu cyllid ymchwil a datblygu a sylfaen arloesi Cymru yn parhau i ddibynnu, wrth gwrs, ar weld Llywodraeth y DU yn cyflawni'r agenda codi'r gwastad, a byddwn yn parhau â'n cymorth ariannol drwy SMART Cymru i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau.
At hynny, yn unol â'n huchelgais i greu economi fwy gwyrdd, byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau carbon isel a phrosiectau seilwaith i wrthsefyll newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, ac mae hyn yn cynnwys moderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a pharhau â'n cynlluniau presennol ar gyfer metros yng ngogledd Cymru, de Cymru a gorllewin Cymru. Mae ein gwasanaeth rheilffyrdd yn ased hollbwysig, fel y nodwyd heddiw, ac yn un y mae'n rhaid inni ei ddiogelu. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i gadw trenau i redeg. Rwy'n credu bod yr angen am fwy o reolaeth gyhoeddus yn adlewyrchiad o bwysau parhaus coronafeirws a'r heriau sy'n cael eu hwynebu ar draws y diwydiant rheilffyrdd wrth i'r galw gan deithwyr barhau'n eithriadol o isel. A hefyd, drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu gwasanaethau bysiau hynod bwysig ledled Cymru, gan gadw rhwydwaith sgerbwd i gefnogi teithiau hanfodol, a chynyddu gwasanaethau wedyn i gefnogi ailagor ysgolion a'r economi ehangach. Yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion brys tymor byr, bwriad ein cytundeb newydd gyda gweithredwyr gwasanaethau bysiau yw nodi dechrau partneriaeth barhaol gyda gweithredwyr a chyrff cyhoeddus er mwyn gallu ail-lunio rhwydwaith bysiau Cymru, cefnogi'r gwaith o reoli a rhyngweithio dulliau teithio ledled Cymru, a chynnwys datblygu tocynnau clyfar, llwybro unedig ac amserlennu integredig wrth gwrs.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais becyn ariannu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd i sicrhau ei hyfywedd yn y tymor canolig i'r tymor hir ac i ddiogelu miloedd o swyddi yn yr economi ranbarthol. Rwy'n benderfynol o'n gweld yn dod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar y sylfeini yr oeddem wedi'u dechrau cyn iddo daro a thrwy leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth yn decach, a llesiant yn wir, ar draws Cymru gyfan.