– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 10 Mawrth 2021.
Eitem 6 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Russell George.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf ei bod yn amserol iawn ein bod yn trafod yr adroddiad hwn heddiw, oherwydd flwyddyn yn ôl y cawsom yr wythnos 'normal' ddiwethaf—dywedaf 'normal' mewn dyfynodau—i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru. Dri chant a chwe deg pum diwrnod yn ôl, disgrifiodd Sefydliad Iechyd y Byd COVID-19 fel pandemig yn swyddogol, ac yn y pythefnos canlynol, gorfodwyd rhai busnesau fel tafarndai a bwytai i gau, caewyd ysgolion, gofynnwyd i bobl weithio gartref os gallent, ac yna, wrth gwrs, dywedwyd wrth bawb am aros gartref oni bai bod ganddynt reswm hanfodol. Ac ers hynny, rydym wedi gweld ymdrech arwrol gan staff y GIG a gweithwyr allweddol i gadw'r wlad yn ddiogel, ac i gadw siopau hanfodol i fynd ac i'n gwasanaethu.
Felly, wrth inni wylio'r gwaith arwrol hwnnw'n parhau drwy gydol y broses o gyflwyno'r brechlyn, gallwn weld y llanw'n troi, a'r argyfwng iechyd, er ei fod yn dal i fod yn fygythiad mawr, yn lleihau, ac mae'n rhaid i ni droi ein sylw o ddifrif, rwy'n credu, at ailadeiladu ein heconomi.
Felly, mae'r adroddiad hwn yn archwilio'n gynhwysfawr sut y dylai adferiad edrych ar draws portffolio'r pwyllgor ac yn y tymor byr, hoffem dynnu sylw'r Aelodau at dri maes allweddol, sef: un, cymorth parhaus i sectorau sydd wedi'u taro'n galed; dau, defnyddio cyllid ailadeiladu i ailfywiogi ac ailarfogi ein heconomi; a thri, osgoi cenhedlaeth o bobl ifanc wedi'u creithio.
Felly, byddaf yn siarad am bob un o'r pwyntiau hynny yn eu tro. Felly, nid yw effeithiau'r pandemig wedi cael eu teimlo'n gyfartal ar draws yr economi. Clywsom dystiolaeth gan fusnesau sy'n dibynnu ar bobl yn dod at ei gilydd, fel twristiaeth a lletygarwch neu'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cysylltiadau agos, fel gwallt a harddwch, ac effeithiwyd yn arbennig arnynt hwy. Caeodd llawer o leoliadau, fel theatrau, clybiau nos ac arddangosfeydd, eu drysau flwyddyn yn ôl ac nid ydynt wedi gallu masnachu ers hynny. Felly, gobeithiwn am haf o aduniadau gyda ffrindiau a theulu, y bydd llawer ohonynt yn digwydd mewn busnesau twristiaeth a lletygarwch. Fodd bynnag, ni fydd un haf da yn gwneud iawn am y fasnach a gollwyd y llynedd. Mae darparwyr twristiaeth wedi disgrifio'r amser sydd wedi mynd heibio fel tri gaeaf olynol.
Yn yr un modd, rwyf wedi torri fy ngwallt fy hun. Nid wyf wedi cael fy ngwallt wedi'i dorri ers canol mis Rhagfyr. Gallaf weld Aelodau'n edrych ar eu sgriniau yn awr i weld pa mor hir yw fy ngwallt. Ond y pwynt yw hyn: ni fyddaf yn cael fy ngwallt wedi'i dorri eto pan fydd siopau trin gwallt yn ailagor. Felly, mae'n debygol y bydd yr economi'n cael ei heffeithio'n wahanol mewn gwahanol sectorau.
Mae'n debygol y bydd sefyllfa diwydiannau gweithgynhyrchu Cymru hefyd yn cymryd peth amser i ymadfer. Er enghraifft, clywsom dystiolaeth y byddai'r diwydiant awyrofod yn cymryd tair neu bedair blynedd i adfer i lefelau 2019. Nawr, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn glir fod busnesau a gafodd eu taro waethaf gan y pandemig angen strategaeth adfer gryfach a hwy na gweddill yr economi. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth nesaf Cymru yn nodi'r strategaeth hon yn gynnar iawn ac fel rhan ohoni, mae'n rhaid iddi hefyd nodi unrhyw gyllid ychwanegol y mae'n credu ei bod ei angen gan Lywodraeth y DU.
Nawr, mae gostyngiad dramatig yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wedi golygu bod cwmnïau sy'n ymwneud â gwasanaethau trafnidiaeth hefyd wedi cael eu heffeithio'n drwm. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru nodi cynllun hirdymor ar gyfer adfer trafnidiaeth gyhoeddus hefyd.
Mae fy mhwynt nesaf yn ymwneud â defnyddio cyllid ailadeiladu i ailfywiogi ac ailarfogi ein heconomi, ac ar flaen yr adroddiad—rwy'n ei godi yma—mae llun o gennin Pedr. Nawr, ni wnaethom hynny oherwydd ein bod wedi lansio ein hadroddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi, ddim o gwbl, y rheswm pam y gwnaethom hynny yw oherwydd ein bod yn chwilio am optimistiaeth a chyfle o'r adferiad. Yn union fel blodau sy'n ymddangos ar ôl y gaeaf, neu gyda'r maeth cywir, gall ein heconomi dyfu o'r newydd. Felly, clywodd y pwyllgor fod ymchwydd go iawn wedi bod yn y teimlad o ryddhad ac ysbryd entrepreneuraidd ar ddiwedd y cyfyngiadau symud cyntaf, a chynnydd yn nifer y busnesau newydd. Nawr, os gall Llywodraeth Cymru ddal yr egni hwnnw, gellir ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r cyfraddau cymharol isel o fusnesau newydd sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd.
Clywsom hefyd sut y gallai adferiad a arweinir gan sgiliau hybu gwell cynhyrchiant a mynd i'r afael â thrapiau sgiliau isel, problem allweddol y gwn fod y pwyllgor wedi sôn amdani yn y gorffennol. Ochr yn ochr â hyn, clywsom dystiolaeth y byddai buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd hefyd yn gwella cynhyrchiant Cymru a'i chydnerthedd. Felly, mae cynrychiolwyr busnes, undebau, melinau trafod, academyddion a sefydliadau amgylcheddol i gyd wedi dweud wrthym, fel Aelodau, am yr enillion amgylcheddol ac economaidd y gellid eu gwneud drwy fuddsoddi mewn economi fwy gwyrdd. Felly, dylai Llywodraeth nesaf Cymru—rydym ninnau fel pwyllgor yn sicr yn credu—roi blaenoriaeth i gyflymu prosiectau seilwaith gwyrdd parod i'w hadeiladu er mwyn hybu creu swyddi, ac mae'n rhaid i sgiliau fod wrth wraidd y rhaglen lywodraethu nesaf, ym marn y pwyllgor. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fachu ar y cyfleoedd a nodir yn yr adroddiad hwn a defnyddio ailadeiladu i greu economi fwy arloesol a gwydn sy'n ddiogel at y dyfodol i Gymru gyda gweithlu medrus iawn yn gwneud swyddi cynhyrchiant uchel, gwydn ac ecogyfeillgar.
Yr adran olaf, y soniais amdani ar ddechrau fy nghyfraniad, oedd diweithdra ymhlith pobl ifanc. Roedd y pwyllgor yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl gan yr adferiad. Nawr, gwyddom mai pobl a oedd eisoes dan anfantais yn y farchnad swyddi sy'n teimlo'r effeithiau gwaethaf pan fydd y farchnad yn crebachu. Mae'r adroddiad yn cynnwys adran ar adferiad i bawb, sy'n amlinellu'r camau y mae'n rhaid i'r Llywodraeth eu cymryd i gefnogi adferiad cyfartal er mwyn cyflawni ei haddewid. Mae pobl ifanc yn grŵp sydd wedi'u gadael ar ôl mewn argyfyngau economaidd yn y gorffennol a chlywsom gan nifer o arbenigwyr a oedd yn bryderus iawn y bydd y cynnydd mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc yn creu cenhedlaeth sydd wedi'i chreithio.
Mae gan Gymru eisoes ddwy garfan o bobl ifanc y mae COVID-19 wedi effeithio'n fawr arnynt ac nid oes amheuaeth y bydd y pandemig a'r argyfwng economaidd a grëwyd ganddo'n effeithio ar fyfyrwyr sy'n gadael addysg a hyfforddiant am beth amser i ddod. Dywedodd yr Athro Keep fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yn debyg i lenwi bath—bob blwyddyn mae mwy o bobl ifanc a graddedigion yn gadael y brifysgol ac mae'r bath yn dal i lenwi os na all y bobl hynny ddod o hyd i ffordd i mewn i'r farchnad lafur a sicrhau cyflogaeth foddhaus o ansawdd uchel. Os na all ein pobl ifanc ddod o hyd i ffordd i mewn i'r farchnad lafur, os ydynt yn treulio amser hir yn ddi-waith neu os na allant ddod o hyd i'r llwybr cywir yn y cylchdroi rhwng cyflogaeth, hyfforddiant a diweithdra, gallai eu bywydau gael eu creithio a'u huchelgais wedi'i gyfyngu am weddill eu gyrfaoedd. Gwyddom y bydd y creithiau hyn yn eu dilyn, o bosibl, drwy gydol eu hoes, gan leihau eu potensial ennill cyflog a'u ffyniant.
Felly, mae'n rhaid sicrhau bod mynd i'r afael â'r bygythiad o genhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi'u creithio yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru. Bydd ei llwyddiant neu ei methiant gyda'r amcan hwn yn cael effaith y tu hwnt i hanner cyntaf yr unfed ganrif ar hugain. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl hon y prynhawn yma.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad pwysig a phellgyrhaeddol hwn a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gefnogodd fy ngwaith fel aelod o'r pwyllgor hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd ac i fy nghyd-Aelodau, ond yn bennaf oll, i staff y pwyllgor. Roedd hwn yn faes newydd iawn i mi. Fe wnaethant fy ngalluogi i ddysgu'n gyflym ac rwy'n hynod ddiolchgar am hynny.
Fel y dywedwyd, rydym yn wynebu sioc economaidd ddigynsail wrth i gymorth y Llywodraeth ddod i ben ac wrth inni gefnu ar yr argyfwng iechyd. A dyna'r rheswm, wrth gwrs, am ein hadroddiad eang iawn. Nid ydym yn aml yn gweld adroddiad gyda 53 o argymhellion gan bwyllgor y Senedd. Mae'r holl argymhellion hyn yn eithriadol o bwysig a chredaf yn bersonol y dylai Llywodraeth Cymru eu trin fel pecyn—maent yn gweithio gyda'i gilydd. Ond hoffwn wneud sylwadau ar dri grŵp penodol o argymhellion yn fy nghyfraniad byr i'r ddadl hon.
Hoffwn gyfeirio'n gyntaf at argymhelliad 5, sy'n nodi'r angen dybryd i Lywodraeth Cymru osod targedau mesuradwy, monitro cynnydd a gwerthuso effeithiolrwydd yr holl waith adfer a buddsoddiad. Mae'n ymddangos yn amlwg, ond mae tystiolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ar amrywiaeth o faterion yn y portffolio hwn yn dangos nad yw hyn bob amser yn digwydd o bell ffordd. Gyda maint y dasg mor enfawr a'r adnoddau, yn anochel, yn gyfyngedig, ni fyddwn yn gallu fforddio gwastraffu ceiniog. Ac os byddwn, mewn gwirionedd, yn mabwysiadu dull arloesol, byddwn yn rhoi cynnig ar rai pethau na fyddant yn gweithio, a bydd angen i ni roi'r gorau i'w gwneud. Mae monitro a gwerthuso yn allweddol ac mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod systemau cadarn ar waith. Mae'n rhaid i'r systemau hyn fonitro effeithiau fesul rhanbarth, fesul sector a nodweddion cydraddoldeb. Mae'n rhaid i'r broses o ailadeiladu'n ôl o COVID weithio i bawb, ym mhobman yng Nghymru.
Daw hynny â mi at argymhellion 30 i 41. Mae'r rhain yn amlygu ystod eang o gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau ein bod, wrth ailadeiladu ein heconomi, yn mynd i'r afael â'r anghyfiawnderau a'r anghydraddoldebau strwythurol a oedd yn rhan o'n heconomi cyn yr argyfwng COVID. Clywsom dystiolaeth mor glir fod pobl dduon a phobl groenliw wedi cael eu taro'n galetach gan COVID, o ran niwed i iechyd a niwed economaidd. Clywsom sut roedd menywod wedi cael eu effeithio'n fwy difrifol na dynion, ac er bod rhai effeithiau cadarnhaol i bobl anabl, gyda chyfleoedd yn agor yn sgil gweithio gartref, roedd pryderon i'r grŵp hwn hefyd. Mae'n hanfodol, wrth i Lywodraeth nesaf Cymru arwain ymdrechion i ailadeiladu ein heconomi, y manteisir ar y cyfle i weithredu i ddileu'r anghydraddoldebau strwythurol hanesyddol hyn sydd wedi gwneud cymaint o niwed. Ni chyflawnir newid dros nos, a daw hynny â mi'n ôl, wrth gwrs, at y pwynt am dargedau mesuradwy. Ond yr hyn sy'n rhaid ei osgoi ar bob cyfrif yw ailadeiladu'n ôl i ble roeddem o'r blaen. Byddai hynny'n wastraff cyfle anfaddeuol.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio at argymhellion 42 i 48, gan ganolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl. Fel y dywedodd y Cadeirydd eisoes, gwyddom fod pobl ifanc, yn yr argyfwng economaidd hwn, fel mewn rhai eraill, wedi cael eu taro'n galed iawn. Maent yn tueddu i weithio mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n wael, fel lletygarwch, amharwyd ar eu haddysg, a chyda gweithwyr mwy profiadol yn colli eu swyddi ac yn ailymuno â'r farchnad swyddi, cyfyngir ar eu cyfleoedd. Mae argyfyngau economaidd blaenorol wedi gweld cenedlaethau cyfan yn cael eu gadael ar ôl. Roeddwn yn berson ifanc yn yr 1980au, ac mae gennyf ffrindiau fy oedran i, sydd bron â chyrraedd oed ymddeol bellach, yr effeithiwyd ar eu ffyniant economaidd ar hyd eu hoes am eu bod wedi bod yn ddi-waith am ddwy neu dair blynedd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Wrth iddynt gyrraedd oed pensiwn, maent yn dlotach nag y byddent wedi bod. Mae ein hargymhellion yn gwneud awgrymiadau ymarferol i osgoi hyn rhag digwydd y tro hwn, ac mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu ar yr holl argymhellion hyn.
Ar yr agenda hon, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn mynd gam ymhellach hyd yn oed na'r hyn a argymhellir gan y pwyllgor. Mae argymhelliad 43 y pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru asesu'r posibilrwydd o gyflwyno gwarant cyfle ieuenctid i bobl ifanc 16 i 24 oed. Byddwn yn ymrwymo i'r warant honno mewn Llywodraeth—swydd o ansawdd da sy'n talu'n dda i bob unigolyn 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Ni fydd Plaid Cymru yn gadael ein pobl ifanc ar ôl; mae'n rhaid i'n Llywodraeth nesaf beidio â gadael ein pobl ifanc ar ôl. Fel y mae ein hargymhellion yn dweud yn glir, tra bod canlyniadau economaidd COVID yn cyflwyno heriau difrifol, maent hefyd yn cynnig rhai cyfleoedd go iawn. Dyma ein cyfle nid yn unig i adeiladu'n ôl yn well, ond i adeiladu'n ôl yn dda. Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Senedd ac i Lywodraethau Cymru yn awr ac yn y dyfodol.
Mae gennyf olwg cadarnhaol iawn ar hyn. Credaf ein bod yn dechrau'r pedwerydd chwyldro diwydiannol—nid yn ôl y disgwyl, fel roedd pobl yn sôn amdano, gyda deallusrwydd artiffisial, ond gyda gweithio a siopa gartref. Mae'n cau'r cylch o fod pobl yn symud i ddinasoedd i weithio mewn ffatrïoedd, i fod pobl yn gadael swyddfeydd i weithio gartref. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn siopa. Roedd y symud tuag at weithio gartref, cyfarfodydd ar-lein a siopa ar-lein yn digwydd cyn COVID, ond yr hyn y mae COVID wedi'i wneud yw ei chwyddo. Mae rhai pobl yn dweud bod pethau wedi symud ymlaen bum mlynedd, a phobl eraill wedi dweud bod pethau wedi symud ymlaen 10 mlynedd. Nid wyf yn gwybod, ond gallaf ddweud un peth wrthych, mae pethau wedi symud ymlaen yn aruthrol dros y 12 mis diwethaf. Pan fyddwn yn cefnu ar hyn, ni fyddwn yn dychwelyd i fis Mawrth 2020. Rwyf wedi clywed trafodaethau brawychus am y ffyrdd sydd eu hangen arnom i gael pobl i deithio'n union fel roeddent yn gwneud o'r blaen. Nid dyna'r byd rydym yn symud i mewn iddo.
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roeddwn yn dweud wrth fy myfyrwyr mai fideo-gynadledda oedd y ffordd ymlaen, ac yna 15 mlynedd yn ôl, roeddwn yn dal i ddweud wrth fy myfyrwyr mai fideo-gynadledda oedd y ffordd ymlaen ac nad oedd angen teithio. Rwyf bellach wedi gweld, gan fy mod wedi treulio'r rhan fwyaf o'r 12 mis diwethaf ar Zoom a Teams, yn enwedig lle mae band eang cyflym ar gael, ei fod yn sicr yn arbed llawer o deithio. Rwy'n dymuno pob lwc i unrhyw un sydd eisiau i gyfarwyddwyr cyllid eu hariannu i deithio'n bell i gyfarfodydd, yn enwedig cyfarfodydd byr. Rwy'n gwybod mai polisi Llywodraeth Cymru yw gweithio gartref 30 y cant o'r amser, ond ychydig iawn o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros hynny. Rwyf bob amser yn meddwl beth pe bai'r Llywodraeth yn 1900 wedi penderfynu faint o geffylau roeddent am eu torri. Wel, nid oedd ganddynt unrhyw reolaeth dros y peth; fe'i rheolwyd gan ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Gall Llywodraeth Cymru reoli'r bobl y maent yn eu cyflogi, ac rwy'n gobeithio y byddant yn defnyddio hyn i reoli'r bobl y maent yn eu cyflogi a chael mwy o bobl i weithio gartref. Bydd y sector preifat yn gwneud yr hyn sy'n gweithio i gwmnïau unigol, a chyda'i gilydd, bydd hynny'n effeithio ar y cyfeiriad teithio. A gaf fi ddweud nad wyf yn mwynhau treulio dwy awr y dydd yn teithio ar hyd yr M4 o Abertawe i fy swyddfa ac yn ôl? Nid wyf yn siŵr a oes llawer o bobl eraill sy'n mwynhau hynny. Ond nid yw fy nhaith yn anarferol yn ne Cymru, y lefel honno o deithio. Mae'n sicr wedi rhoi chwe awr ychwanegol yr wythnos i mi. Oherwydd bod costau swyddfa mor ddrud yng Nghaerdydd, rwy'n credu mai'r hyn a welwch yw ei bod hi'n ddigon posibl y bydd cwmnïau'n dweud faint y gallant ei arbed drwy ofyn i bobl weithio gartref. Ond hefyd, bydd gennych recriwtio cystadleuol; bydd pobl eisiau gweithio gartref am ei fod yn rhoi manteision enfawr iddynt, ac ni fyddant yn gorfod cymudo am ddwy awr y dydd. Ond yn bwysicach na hynny, nid oes rhaid iddynt fyw ger yr M4 neu brif ffordd neu draffordd neu orsaf reilffordd; gallant fyw lle mynnant mewn gwirionedd. Rwy'n credu y byddwn yn gweld llawer o bobl yn symud oherwydd hyn.
Bydd y penderfyniad i weithio gartref yn digwydd drwy lawer o benderfyniadau unigol. Rydym wedi'i weld dros y 12 mis diwethaf yn yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel amodau anfoddhaol, lle rydym wedi gweld pobl yn gorfod gweithio gartref yn ogystal â gofalu am blant, ond os na fyddai'n rhaid iddynt wneud hynny, byddai eu cynhyrchiant yn cynyddu. Ond yr hyn a welsom mewn gwirionedd oedd na chafwyd gostyngiad sylweddol mewn cynhyrchiant; nid oes neb wedi gweld hynny. Rydym wedi gweld gwell cynhyrchiant gyda rhai. Rwy'n credu mai i'r cyfeiriad hwn rydym wedi bod yn mynd, ac rydym bellach wedi cyrraedd yno. Hefyd, rydym wedi'i weld gyda siopa. Faint o bobl sydd bellach yn hapus i brynu dillad, teganau, addurniadau ar gyfer y cartref ac eitemau eraill tra'n eistedd ar eu soffa ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos o iPad, ffôn neu gyfrifiadur? Rwy'n poeni am ddyfodol siopau ffisegol. A chofiwch, nid Amazon yn unig sydd ar-lein, er ein bod yn defnyddio'r ddau derm yn gyfnewidiol. Mae gan bob manwerthwr mawr bresenoldeb ar-lein ac mae pob un yn gweithio tuag at wella eu presenoldeb ar-lein.
Rydym hefyd wedi gweld peiriannau argraffu 3D. Ni wnaethant chwarae rhan fawr yn ystod y 12 mis diwethaf, oherwydd maent yn ddrud, ac maent yn dal i fod ar y cam datblygu. Bydd hyn yn newid; byddant yn dod yn rhatach, byddant yn gwella. Mae pobl yn cofio, pan ddaeth y cyfrifiaduron cyntaf, pa mor araf oeddent, ac mae gennych chi bellach fwy o gapasiti cyfrifiadurol na'r hyn a aeth â phobl i'r lleuad yn y 1960au yn eich poced. Rwy'n rhoi hynny yn ei gyd-destun, dyna i gyd. Bydd yr argraffwyr hyn yn gwella. Bydd pobl yn gwneud mwy. Mae gennyf gwmni yn fy etholaeth sy'n gwneud cynhyrchion prosthetig ar beiriannau argraffu 3D fel y gallwch eu cynhyrchu pan fydd pobl eu hangen. Rwy'n credu y byddwn yn gweld datblygiad enfawr ym maes cynhyrchu 3D, a bydd hyn yn effeithio ar wledydd eraill hefyd. Os ydym yn creu'r dyluniadau yn y wlad hon, os ydym am wneud y pethau, nid oes rhaid i ni eu hanfon i rannau eraill o'r byd i'w cynhyrchu. Gallwn ni fod yn eu cynhyrchu—nid yn ein hystafelloedd byw ein hunain, efallai, ond yn sicr yn ein cartrefi neu'n agos atynt. Mae'r rhain yn newidiadau sy'n digwydd.
Mae gan brifysgolion ran enfawr i'w chwarae, gyda phrifysgolion heb eu defnyddio'n llawn yng Nghymru. Edrychwch ar yr hyn sy'n digwydd nid yn unig gyda Chaergrawnt ond prifysgolion ledled Prydain sydd wedi datblygu parciau gwyddoniaeth, sydd wedi datblygu diwydiannau ochr yn ochr â hwy. Mae angen inni wneud yr un peth. Ac un pwynt olaf—
Roeddwn ar fin dweud bod angen i'r Aelod ddirwyn i ben. Gwnewch eich pwynt olaf.
Un pwynt olaf ar hyn. A gawn ni roi'r gorau i geisio iro dwylo cwmnïau i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru, lle maent yn addo cannoedd o swyddi na fyddant byth yn cael eu gwireddu ac yna'r toriadau i ddilyn hynny? Nid dyma'r cyfeiriad cywir. Nid yw'n gweithio, nid yw wedi gweithio ers Awdurdod Datblygu Cymru, ac nid yw'n gweithio yn awr.
Diolch. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy ngalw mor sydyn, ond rwyf wedi casglu fy mhapurau at ei gilydd.
A gaf fi ddiolch i bwyllgor yr economi am gyflwyno'r adroddiad rhagorol hwn, gyda'r cennin Pedr ar y blaen, fel y dywedodd Russ George? Mae'n dda iawn. Yn amlwg, nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond fel cyn Gadeirydd yr hyn a alwyd bryd hynny'n Bwyllgor Menter a Busnes yn ôl yn 2014, pan wneuthum y swydd honno ddiwethaf, nid wyf yn credu y byddwn byth wedi rhagweld y byddem yn cael dadl fel hon heddiw neu y byddai'r adroddiad hwn wedi'i gynhyrchu. Roedd y mathau o faterion y bu'n rhaid imi ymdrin â hwy fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw, ac y bu'n rhaid i'r Aelodau ymdrin â hwy, yn ymddangos yn eithaf sylweddol a mawr ar y pryd, ond o'u cymharu â'r hyn rydym yn ymdrin ag ef heddiw, yn wyneb yr ergydion economaidd sy'n wynebu Cymru a'r byd, mae'r rheini'n ymddangos yn eithaf bach mewn cymhariaeth. Felly, mae hwn, fel y dywedodd y Cadeirydd, yn adroddiad amserol. Mae hwn yn gyfnod heriol dros ben, ac fel y dywed y Cadeirydd yn ei ragair, mae angen inni ddysgu gwersi o ddirwasgiadau blaenorol wrth inni adeiladu'n ôl yn well, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Mae dirwasgiadau blaenorol wedi ymddangos yn ddigon drwg ac yn ddigon caled wrth i ni fyw drwyddynt, ond wrth gwrs mae maint yr hyn a wynebwn yma'n fwy o bosibl na dim arall a welsom yn ein hoes ni, felly mae'n bwysig ein bod yn dysgu'r gwersi o'r dirwasgiadau hynny.
A gaf fi wneud ychydig o bwyntiau? Rwyf newydd fod yn darllen drwy'r argymhellion, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag argymhelliad 1, fod angen i ni harneisio gweithgarwch entrepreneuraidd a busnesau newydd fel ffordd o ysgogi'r adferiad economaidd. Rydym wedi gweld llawer iawn o gefnogaeth gan y Llywodraeth, cymorth a chyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'r sector preifat dros y flwyddyn ddiwethaf ers labelu'r pandemig am y tro cyntaf, fel y dywedodd Russ rwy'n credu, a dechrau'r cyfyngiadau symud, a dyna oedd y peth hollol iawn i'w wneud, ac roedd yn dderbyniol, ond wrth gwrs, ni all hynny barhau am byth, felly mae angen inni ddechrau ceisio gosod y sector preifat yn ôl ar ei draed, cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl—rhai sectorau, beth bynnag—a sicrhau bod y busnesau bach a chanolig hynny'n gallu gyrru'r economi yn ei blaen.
Mae argymhelliad 3 yn annog hyblygrwydd yn wyneb siociau allweddol yn y dyfodol fel y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n credu mai dyna oedd un o'r agweddau mwyaf pryderus ar y pandemig—mae'r pandemig hwn wedi bod yn ddigon heriol fel y mae, ac mae'r economi wedi bod yn gwegian yn ei sgil, ond, wrth gwrs, pan ychwanegwch wedyn effeithiau posibl eraill fel newid yn yr hinsawdd, a siociau annisgwyl eraill y mae'n rhaid i ni ddiogelu rhagddynt, am y pum mlynedd, 10 mlynedd nesaf, bydd economi'r byd mewn cyflwr eithaf sensitif, felly rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, Gadeirydd, i ddweud yn eich adroddiad fod angen i ni sicrhau ein bod yn rhoi hwb mor fawr â phosibl i gydnerthedd.
Rydym yn sôn yn aml am adeiladu'n ôl yn well, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn ymarferol. Rwyf wedi codi hyn gyda Gweinidog yr economi, ac yn wir gyda'r Prif Weinidog, ar sawl achlysur rwy'n credu, ac rydym i gyd yn cytuno bod angen i ni adeiladu'n ôl yn well, adeiladu’n ôl yn decach, tyfu'n ôl yn wyrddach, a fi yw'r person cyntaf i ddweud bod angen y pethau hynny, ond gadewch inni wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn ymarferol, ac nad ydym yn dychwelyd at yr hen ffyrdd o wneud pethau. Rydym wedi gweld newidiadau enfawr, o ran traffig ffyrdd er enghraifft, dros y misoedd diwethaf. Gwn fod y traffig ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd 60 y cant yn uwch ar hyn o bryd o'i gymharu â'r hyn ydoedd yn ystod y cyfyngiadau symud blaenorol, ond mae'n dal i fod yn llawer is na'r hyn a arferai fod, ac o ran y mannau problemus arferol hynny, megis yr M4, a grybwyllwyd mewn cwestiynau yn gynharach—wel, gallwch deithio ar honno yn ystod oriau brig yn awr, ac nid yw'n ymddangos ei fod yn achosi hanner y problemau yr arferai eu hachosi.
Felly, mae ffyrdd o adeiladu'n ôl mewn ffordd lle nad oes gwir angen inni fuddsoddi yn y seilwaith ffisegol i'r graddau yr arferem ei wneud mewn gwirionedd. Felly, bydd band eang yn allweddol i hyn—gadewch inni sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu gweithio gartref. Gadewch inni roi'r seilwaith band eang hwnnw ar waith. O ran y rhwydwaith ffyrdd, datblygu cerbydau trydan, gwych i'r amgylchedd, gwych ar gyfer datrys problemau newid hinsawdd—gadewch inni roi'r seilwaith gwefru ar waith a gadewch inni i gyd fwrw ymlaen gyda'r cynllun. Oes, mae gan bob un ohonom safbwyntiau gwahanol yma, o'n gwahanol bleidiau a'n gwahanol gredoau ideolegol, ond credaf fod pob un ohonom yn rhannu'r un nod, sef ein bod eisiau dod allan o hyn gyda Chymru mewn sefyllfa gryfach a gwell nag o'r blaen. Nid heriau'n unig sydd yma, mae yna gyfleoedd hefyd, a diolch yn fawr iawn i'r Cadeirydd, Russ George, am gyflwyno'r adroddiad rhagorol hwn. Byddwn yn annog pawb i'w ddarllen oherwydd rwy'n credu ei fod yn cynnwys yr hadau o ran sut rydym am dyfu'n ôl a gwneud Cymru'n lle gwell yn y dyfodol. Diolch.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Mae'n waith cynhwysfawr, o ran ei gwmpas a'i argymhellion. Yn wir, mae mor gynhwysfawr bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy sylwadau i'r hyn a welaf fel yr elfennau allweddol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud cyn dechrau fy nghyfraniad fy mod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â nifer o'r materion a godwyd yn yr argymhellion. Byddwn yn cytuno ag argymhellion 1 i 3, gan ychwanegu mai'r rhagolwg cyffredinol, pan fydd cyfyngiadau COVID wedi'u llacio'n llwyr, yw y ceir hwb enfawr i'r economi, o fentrau gwaith a gafodd eu hatal dros dro ac arian a arbedwyd yn ystod yr argyfwng. Rhaid cefnogi busnesau annibynnol a busnesau bach a chanolig i wneud y gorau o'r cynnydd hwn.
Mae argymhelliad 4 yn ymwneud ag ariannu banc masnachol Cymru a Busnes Cymru. Credaf fod y ddau sefydliad wedi bod yn un o'r llwyddiannau mawr yn ystod y tymor seneddol hwn, yn enwedig dros gyfnod yr argyfwng COVID, a hoffwn ddiolch i'r ddau sefydliad ar ran yr holl fusnesau yng Nghymru am y ffordd ryfeddol y maent wedi rheoli'r ymyriadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac y bydd yn sicrhau bod unrhyw arian angenrheidiol ar gael. Bydd y ddau sefydliad yn hanfodol i'n hadferiad economaidd.
Mae argymhellion 7, 8 a 9 yn ymdrin ag uwchsgilio'r gweithlu. Rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol i addysg bellach, addysg uwch a phrifysgolion ymwneud yn llawn ag unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth yn y chweched Senedd, a hefyd â'r gymuned fusnes yn gyffredinol. Rhaid cyflawni cynlluniau sy'n ymwneud ag astudiaethau galwedigaethol yn gyflym. Mae'n sicr bod dechrau da yn cael ei wneud ond ni ddylid caniatáu iddo aros yn ei unfan.
Mae argymhelliad 11 yn ymdrin â'r sectorau sydd wedi eu taro galetaf gan COVID—lletygarwch, gan gynnwys twristiaeth, y sector gwallt a harddwch a'r sector celfyddydau a diwylliant. Rwy'n annog y Llywodraeth i ganolbwyntio ymyriadau cynnar ar y sectorau hyn gan mai hwy sydd fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol ar yr economi yn y tymor byr. O ran y sector twristiaeth, rhaid i unrhyw ymgyrchoedd yn y dyfodol ailbwysleisio ymrwymiad llwyr Cymru i groesawu ymwelwyr, rhywbeth a allai fod wedi'i niweidio gan y cyfyngiadau symud.
Mae argymhellion 36 i 38 yn ymdrin ag anabledd. Credaf fod hwn yn faes lle mae'n rhaid cael gwelliant sylweddol. Mae gan bobl anabl gymaint mwy i'w gyfrannu i gymdeithas a busnes yn gyffredinol nag y gallant ei wneud ar hyn o bryd. Gadewch i hwn fod yn faes wedi'i dargedu i Lywodraeth Cymru yn y chweched Senedd.
Rwy'n cytuno â'r argymhellion sy'n ymwneud â chyflogaeth ieuenctid. Ni allwn ganiatáu i'r argyfwng COVID greu cenhedlaeth goll o'n pobl ifanc. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi ystyriaeth go iawn i'r argymhellion hyn.
Er yr ymdrinnir â thrafnidiaeth yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn, mae'n sicr yn elfen hollbwysig arall yn adferiad economaidd Cymru. Rhaid derbyn bod llawer eisoes wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gan gynnwys caffael rheilffyrdd craidd y Cymoedd, sy'n hynod bwysig, a chyflwyno cerbydau llawer gwell. Mae llawer o fentrau eraill a gwaith uwchraddio arall yn yr arfaeth, felly a gaf fi annog y Llywodraeth i barhau â'u buddsoddiadau sylweddol? Rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd yn sicrhau manteision enfawr yn y dyfodol.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, er ein bod yn croesawu mewnfuddsoddiad i Gymru, rhaid inni dyfu sylfaen fusnes gynhenid, gyda phencadlysoedd yng Nghymru ac wedi'u hymrwymo'n llwyr i Gymru. Dyna'r unig ffordd y gallwn adeiladu cydnerthedd hirdymor yn economi Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau fel y gwneuthum yn y pwyllgor y bore yma drwy ddiolch i aelodau presennol a blaenorol y pwyllgor am y ffordd anhygoel o adeiladol y maent wedi gweithio gyda mi a fy swyddogion dros y pum mlynedd diwethaf i gael y syniadau a'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru? Ac i'r perwyl hwnnw, rwy'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn a diolch i'r pwyllgor am eu cydnabyddiaeth i ymdrechion y timau sydd wedi ymateb yn gyflym drwy herio amodau gweithredol i gefnogi busnesau a gweithredwyr trafnidiaeth.
Ac fel y byddwch yn deall, ni fyddaf yn gallu rhoi sylwadau ar bob un o'r 53 argymhelliad heddiw, ond yr hyn y mae nifer yr argymhellion yn bendant yn ei ddangos yw diwydrwydd y pwyllgor wrth ymgymryd â'r hyn y gallai fod ei angen ar yr economi yn y blynyddoedd i ddod. Fel y dywed y Cadeirydd yn ei ragair, bydd ailadeiladu yn broses hir, a mater i Lywodraethau'r dyfodol, nid y weinyddiaeth nesaf yn unig o bosibl ond sawl un wedyn, fydd ymdrin â'r argymhellion a gweithredu'r newid angenrheidiol. Ond rydym wedi rhoi camau breision ar waith i gyflwyno brechlynnau ac mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, felly, yn sicr mae optimistiaeth yn tyfu ynghylch adferiad economaidd.
Ac wrth gwrs, gwnaethom ddechrau ar y gwaith pan gyhoeddasom ein cenhadaeth i gryfhau ac ailadeiladu'r economi y mis diwethaf, ac mae'r genhadaeth yn nodi'r hyn a ddywedodd llawer o bobl wrthyf yn uniongyrchol—fod gennym dalent yng Nghymru, fod gennym egni a syniadau i ailadeiladu ein heconomi mewn ffordd well a llawer tecach. Rwy'n credu ei fod yn cynnig optimistiaeth sylfaenol yn erbyn cefndir yr amgylchiadau mwyaf heriol y credaf inni eu hwynebu yn ein hoes ni, heriau sydd wedi cynnwys Brexit a'r argyfwng hinsawdd.
Nawr, er eu bod yn dal i fod yn heriol iawn, mae'r rhagolygon ar gyfer yr economi yn edrych yn well nag y gwnaethant ar adeg rhagolwg diwethaf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Tachwedd. Er hynny, erbyn 2026 disgwylir i lefel cynnyrch domestig gros fod tua 3 y cant yn is na'r lefel a ddisgwylid cyn y pandemig, gan adlewyrchu effeithiau creithiau hirdymor coronafeirws ar yr economi. Bydd hyn yn arbennig o wael i grwpiau a phobl ifanc ddifreintiedig wrth iddynt geisio cael troedle yn y farchnad lafur.
Mae fy uchelgais ers dechrau'r pandemig hwn wedi bod yn ddeublyg: yn gyntaf, cefnogi busnesau fel eu bod yn goroesi ac yn cadw gweithwyr, er gwaethaf y sefyllfa ddifrifol y maent yn ei hwynebu; ac yna'n ail, cefnogi'r rhai sydd, yn anffodus, yn colli eu gwaith neu sy'n ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud ar sawl achlysur, os oedd gennych fusnes da yn 2019, y bydd gennych fusnes da yn 2021, a dyna'n union yw fy uchelgais o hyd, a dyna pam y mae'n rhaid inni gryfhau'r economi sylfaenol, fel y mae llawer o Aelodau wedi nodi y prynhawn yma, a chydnabod pwysigrwydd hanfodol gweithwyr allweddol a'r rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae yn ein llesiant ac ym mhob sector o'n heconomi.
Nawr, ym mis Ionawr cyhoeddwyd £3 miliwn pellach gennym ar gyfer cronfa her yr economi sylfaenol a'r prosiectau y mae'n eu cynnal. Mae'n gwella'r modd y darperir nwyddau a gwasanaethau bob dydd rydym i gyd yn eu defnyddio a'u hangen—gwella rhagolygon cyflogaeth o fewn yr economi sylfaenol a sicrhau arferion gorau y gallwn i gyd ddysgu oddi wrthynt. Yn gyffredinol, mae ein pecyn cymorth i fusnesau yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn fwy na £2 biliwn. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael o hyd yn y Deyrnas Unedig. Erbyn y mis diwethaf, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi diogelu bron i 150,000 o swyddi. Mae hynny'n fwy na 10 y cant o gyfanswm cyflogaeth yng Nghymru. Credaf fod adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol yr angen i fanteisio ar y cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd ac annog busnesau newydd. Y nod yw i economi ôl-bandemig Cymru ysgogi ffyniant yn gyfartal a helpu pawb i wireddu eu potensial; felly mae harneisio diwylliant entrepreneuraidd bywiog yn hanfodol bwysig.
Rydym wedi helpu busnesau newydd yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu mwy na £4 miliwn i fusnesau newydd sy'n wynebu methiant, ac mae hynny wedi diogelu tua 1,600 o fusnesau. Bwriadwn helpu i ailadeiladu, tyfu a chryfhau'r sector mentrau cymdeithasol fel ei fod yn fodel busnes naturiol o ddewis i entrepreneuriaid sy'n darparu atebion i'r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n ein hwynebu, ac ymhellach, mae ein cronfa rwystrau, ar gyfer unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth, yn targedu pobl ifanc a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 yn benodol. Cafwyd mwy na 330 o geisiadau erbyn diwedd mis Ionawr, a phob un yn cael hyd at £2,000 i gael y cyfle gorau posibl i wneud i'w menter newydd lwyddo, ac mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad COVID gwerth £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor a chymorth i bobl dros 16 oed i ddod o hyd i waith, i fynd ar drywydd hunangyflogaeth, i ddod o hyd i le mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac mae hyn yn cynnwys cymhellion cyflogi i gyflogwyr: pobl ifanc 16 i 24 oed, pobl anabl; pobl o gymunedau du, lleiafrifoedd ethnig ac Asiaidd; menywod. Bydd y rhai y mae COVID-19 wedi effeithio fwyaf arnynt yn cael blaenoriaeth o fewn y cynllun hwnnw. Ar ôl cyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel yn ystod tymor y Senedd hon, byddwn yn defnyddio £16.4 miliwn i ysgogi busnesau i gyflogi dechreuwyr newydd a pharhau i gyflogi 5,000 o brentisiaid. Bydd £3 miliwn hefyd i gefnogi prentisiaid lefel gradd mewn TGCh ddigidol a gweithgynhyrchu uwch, er mwyn darparu llwybr amgen i unigolion gaffael sgiliau lefel uwch.
Nawr, mewn ymateb i argymhelliad y pwyllgor ar gyllid ymchwil a datblygu, mae cynyddu cyllid ymchwil a datblygu a sylfaen arloesi Cymru yn parhau i ddibynnu, wrth gwrs, ar weld Llywodraeth y DU yn cyflawni'r agenda codi'r gwastad, a byddwn yn parhau â'n cymorth ariannol drwy SMART Cymru i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau.
At hynny, yn unol â'n huchelgais i greu economi fwy gwyrdd, byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau carbon isel a phrosiectau seilwaith i wrthsefyll newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, ac mae hyn yn cynnwys moderneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth a pharhau â'n cynlluniau presennol ar gyfer metros yng ngogledd Cymru, de Cymru a gorllewin Cymru. Mae ein gwasanaeth rheilffyrdd yn ased hollbwysig, fel y nodwyd heddiw, ac yn un y mae'n rhaid inni ei ddiogelu. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu cymorth ariannol sylweddol i gadw trenau i redeg. Rwy'n credu bod yr angen am fwy o reolaeth gyhoeddus yn adlewyrchiad o bwysau parhaus coronafeirws a'r heriau sy'n cael eu hwynebu ar draws y diwydiant rheilffyrdd wrth i'r galw gan deithwyr barhau'n eithriadol o isel. A hefyd, drwy gydol y pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu gwasanaethau bysiau hynod bwysig ledled Cymru, gan gadw rhwydwaith sgerbwd i gefnogi teithiau hanfodol, a chynyddu gwasanaethau wedyn i gefnogi ailagor ysgolion a'r economi ehangach. Yn ogystal â mynd i'r afael ag anghenion brys tymor byr, bwriad ein cytundeb newydd gyda gweithredwyr gwasanaethau bysiau yw nodi dechrau partneriaeth barhaol gyda gweithredwyr a chyrff cyhoeddus er mwyn gallu ail-lunio rhwydwaith bysiau Cymru, cefnogi'r gwaith o reoli a rhyngweithio dulliau teithio ledled Cymru, a chynnwys datblygu tocynnau clyfar, llwybro unedig ac amserlennu integredig wrth gwrs.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais becyn ariannu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd i sicrhau ei hyfywedd yn y tymor canolig i'r tymor hir ac i ddiogelu miloedd o swyddi yn yr economi ranbarthol. Rwy'n benderfynol o'n gweld yn dod allan o'r pandemig hwn drwy adeiladu ar y sylfeini yr oeddem wedi'u dechrau cyn iddo daro a thrwy leihau anghydraddoldeb a lledaenu cyfoeth yn decach, a llesiant yn wir, ar draws Cymru gyfan.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf adleisio sylwadau Helen Mary Jones drwy ddiolch i'r nifer fawr o bobl a gyfrannodd at ein hadroddiad drwy dystiolaeth lafar a thystiolaeth ysgrifenedig? Mae'n adroddiad enfawr, ac rwyf bob amser, mewn unrhyw ddadl, yn diolch i'n tîm clercio ac ymchwil, ond y tro hwn yn enwedig, oherwydd bu'n rhaid gwneud yr adroddiad yn gyflym oherwydd fel arall mae ein hadroddiad yn dyddio'n gyflym. Felly, ymdrech enfawr gan ein tîm clercio ac ymchwil i ddrafftio'r adroddiad er mwyn i ni, fel Aelodau, edrych arno. Felly, roeddwn yn gwerthfawrogi hynny, yn fawr iawn.
O ran sylwadau Helen Mary Jones, fe ddechreuais drwy sôn am y graith ar gyflogaeth ieuenctid a gorfod ymdrin â hynny yn awr er mwyn osgoi'r hyn y gwyddom y bydd yn digwydd os gwelwn ailadrodd y gorffennol. Ac roedd Helen Mary Jones yn sôn llawer am ei phrofiad ei hun o ffrindiau roedd hi'n eu hadnabod yn y 1980au sy'n dal i gael eu heffeithio heddiw. Mike Hedges, roeddech yn wych; fe wnaethoch waith gwych o fod yn rhagflas o'n dadl yr wythnos nesaf ar weithio o bell. Felly, diolch—diolch am hynny, Mike. Byddwn yn dweud, yn y pwyllgor y bore yma, ei fod yn fy atgoffa o sut y dywedodd Hefin David y byddai wedi hoffi cyfrannu y prynhawn yma, ond na allai oherwydd problemau cysylltedd, a rhywun sy'n agos iawn ato'n arddel y safbwynt croes i hynny. Felly, mae trafodaeth fawr yma am weithio o bell a'r heriau a ddaw yn ei sgil a hefyd y cyfleoedd y mae'n eu cynnig. Ond mae'n siŵr yr edrychwn arnynt yn fanylach yr wythnos nesaf. Ond rwy'n cytuno â chi, Mike. Fel y dywedodd Helen Mary Jones hefyd, ni allwn ddychwelyd at yr hyn a fodolai cyn mis Mawrth 2020.
Rwy'n credu hefyd fod Nick Ramsay—diolch ichi am eich cyfraniad, a soniai lawer am ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol, neu gamgymeriadau a wnaed mewn dirwasgiadau blaenorol, a dyna hanfod ein hadroddiad i raddau helaeth; rydym yn ceisio tynnu sylw at gamgymeriadau a wnaed yn y gorffennol y gallwn geisio eu hosgoi y tro hwn. Fe sonioch chi hefyd am y tagfeydd ac adeiladu'n ôl yn well—sy'n thema gyson inni i gyd, rwy'n credu, ynglŷn â sicrhau ein bod yn adeiladu ein heconomi'n ôl mewn ffordd well.
David Rowlands, rwy'n cytuno â chi—mae'r pwyllgor yn cytuno â chi—ein bod yn credu bod Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru wedi bod yn llwyddiant yn y pandemig hwn. Maent wedi gwneud gwaith gwych ac mae'n debyg ei bod yn iawn hefyd, fel pwyllgor, ein bod wedi cofnodi ein diolch i'r staff sy'n gweithio yn y ddau sefydliad—felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ac rwy'n cytuno â chi hefyd, David Rowlands, ynglŷn ag addysg uwch ac addysg bellach ac ymgysylltu ar uwchsgilio hefyd.
I ddod at rai o sylwadau'r Gweinidog, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am groesawu ein hadroddiad a'n hargymhellion at ei gilydd. Rwy'n sicr yn cytuno â'r Gweinidog y bydd ailadeiladu'n broses hir yn anffodus, a diolch i'r Gweinidog am ei eiriau caredig am waith y pwyllgor a diwydrwydd.
Rhywfaint o optimistiaeth gan y Gweinidog o ran adeiladu'n ôl yn well. Rhybudd hefyd wrth gwrs, wrth iddo nodi y bydd cynnyrch domestig gros 3 y cant yn is yn 2026, a'r effaith a gaiff hynny ar rai grwpiau difreintiedig. Felly, unwaith eto, mae neges yno, onid oes, optimistiaeth ar gyfer y dyfodol, ond pryder hefyd. Ond unwaith eto, dyna y mae ein hadroddiad yn ceisio ei wneud—ceisio lleihau'r effeithiau ac adeiladu'n ôl yn well, a gwneud argymhellion i'r perwyl hwnnw hefyd.
Felly, a gaf fi ddiolch i'r holl gyfranwyr i'r ddadl y prynhawn yma? Diolch yn fawr iawn ac wrth gwrs, yr wythnos nesaf byddwn yn trafod yr adroddiad gweithio o bell sydd â chysylltiadau â'r adroddiad hwn hefyd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.