Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 10 Mawrth 2021.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Mae'n waith cynhwysfawr, o ran ei gwmpas a'i argymhellion. Yn wir, mae mor gynhwysfawr bydd yn rhaid i mi gyfyngu fy sylwadau i'r hyn a welaf fel yr elfennau allweddol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud cyn dechrau fy nghyfraniad fy mod yn teimlo bod Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf wedi gwneud llawer i fynd i'r afael â nifer o'r materion a godwyd yn yr argymhellion. Byddwn yn cytuno ag argymhellion 1 i 3, gan ychwanegu mai'r rhagolwg cyffredinol, pan fydd cyfyngiadau COVID wedi'u llacio'n llwyr, yw y ceir hwb enfawr i'r economi, o fentrau gwaith a gafodd eu hatal dros dro ac arian a arbedwyd yn ystod yr argyfwng. Rhaid cefnogi busnesau annibynnol a busnesau bach a chanolig i wneud y gorau o'r cynnydd hwn.
Mae argymhelliad 4 yn ymwneud ag ariannu banc masnachol Cymru a Busnes Cymru. Credaf fod y ddau sefydliad wedi bod yn un o'r llwyddiannau mawr yn ystod y tymor seneddol hwn, yn enwedig dros gyfnod yr argyfwng COVID, a hoffwn ddiolch i'r ddau sefydliad ar ran yr holl fusnesau yng Nghymru am y ffordd ryfeddol y maent wedi rheoli'r ymyriadau ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac y bydd yn sicrhau bod unrhyw arian angenrheidiol ar gael. Bydd y ddau sefydliad yn hanfodol i'n hadferiad economaidd.
Mae argymhellion 7, 8 a 9 yn ymdrin ag uwchsgilio'r gweithlu. Rwy'n cytuno ei bod yn hanfodol i addysg bellach, addysg uwch a phrifysgolion ymwneud yn llawn ag unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth yn y chweched Senedd, a hefyd â'r gymuned fusnes yn gyffredinol. Rhaid cyflawni cynlluniau sy'n ymwneud ag astudiaethau galwedigaethol yn gyflym. Mae'n sicr bod dechrau da yn cael ei wneud ond ni ddylid caniatáu iddo aros yn ei unfan.
Mae argymhelliad 11 yn ymdrin â'r sectorau sydd wedi eu taro galetaf gan COVID—lletygarwch, gan gynnwys twristiaeth, y sector gwallt a harddwch a'r sector celfyddydau a diwylliant. Rwy'n annog y Llywodraeth i ganolbwyntio ymyriadau cynnar ar y sectorau hyn gan mai hwy sydd fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol ar yr economi yn y tymor byr. O ran y sector twristiaeth, rhaid i unrhyw ymgyrchoedd yn y dyfodol ailbwysleisio ymrwymiad llwyr Cymru i groesawu ymwelwyr, rhywbeth a allai fod wedi'i niweidio gan y cyfyngiadau symud.
Mae argymhellion 36 i 38 yn ymdrin ag anabledd. Credaf fod hwn yn faes lle mae'n rhaid cael gwelliant sylweddol. Mae gan bobl anabl gymaint mwy i'w gyfrannu i gymdeithas a busnes yn gyffredinol nag y gallant ei wneud ar hyn o bryd. Gadewch i hwn fod yn faes wedi'i dargedu i Lywodraeth Cymru yn y chweched Senedd.
Rwy'n cytuno â'r argymhellion sy'n ymwneud â chyflogaeth ieuenctid. Ni allwn ganiatáu i'r argyfwng COVID greu cenhedlaeth goll o'n pobl ifanc. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i roi ystyriaeth go iawn i'r argymhellion hyn.
Er yr ymdrinnir â thrafnidiaeth yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn, mae'n sicr yn elfen hollbwysig arall yn adferiad economaidd Cymru. Rhaid derbyn bod llawer eisoes wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, gan gynnwys caffael rheilffyrdd craidd y Cymoedd, sy'n hynod bwysig, a chyflwyno cerbydau llawer gwell. Mae llawer o fentrau eraill a gwaith uwchraddio arall yn yr arfaeth, felly a gaf fi annog y Llywodraeth i barhau â'u buddsoddiadau sylweddol? Rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd yn sicrhau manteision enfawr yn y dyfodol.
I grynhoi, Ddirprwy Lywydd, er ein bod yn croesawu mewnfuddsoddiad i Gymru, rhaid inni dyfu sylfaen fusnes gynhenid, gyda phencadlysoedd yng Nghymru ac wedi'u hymrwymo'n llwyr i Gymru. Dyna'r unig ffordd y gallwn adeiladu cydnerthedd hirdymor yn economi Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.