Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, diolch am y cyfle i gynnal dadl ar y ddeiseb hon heddiw. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Laura Williams, ar ôl casglu 5,159 o lofnodion. Mae'n galw am fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwelliannau i ofal mewn argyfwng, ac mae'n dilyn deiseb flaenorol a gyflwynodd Laura i'n pwyllgor, a oedd hefyd yn ceisio gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl. Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau adroddiad ar y ddeiseb flaenorol honno yn 2019. Ynddo, gwnaethom nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gyda'r nod yn arbennig o wella llwybrau atgyfeirio a mynediad amserol at gymorth mewn argyfwng.
Wrth gyflwyno'r ddeiseb sydd ger ein bron heddiw, mae Laura wedi mynegi ei barn nad oes digon o gynnydd go iawn wedi'i wneud ar wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ers yr adeg honno. Mae'n pryderu'n arbennig am yr effaith y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl a gallu gwasanaethau i ymateb i anghenion pobl mewn modd amserol.
Nawr, nid yw'r pryderon hyn yn fater newydd i'r Senedd hon ac fel y clywsom yn ystod dadl yr wythnos diwethaf, mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn ddiweddar ar effaith yr argyfwng COVID-19 ar iechyd meddwl a llesiant. Felly, credaf y byddai Laura, a'r miloedd o bobl a gefnogodd ei deiseb, yn cymeradwyo'r argymhellion y mae'r pwyllgor iechyd wedi'u gwneud yng ngoleuni'r dystiolaeth fanwl y maent wedi'i chael yn ystod eu hymchwiliadau.
Fodd bynnag, yng ngweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma, byddaf yn canolbwyntio ar nifer o faterion penodol y mae'r ddeiseb yn gofyn inni eu hystyried. Cyn imi wneud hynny, hoffwn nodi'n fyr nad yw'r Pwyllgor Deisebau wedi cael ymateb i'r ddeiseb hon gan y Llywodraeth hyd yma, er inni ofyn am un ddiwedd mis Tachwedd. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn perthynas â deiseb am wasanaethau iechyd meddwl. Gallwch ddychmygu'r siom rydym ni fel pwyllgor yn ei deimlo. Mae'n siŵr y bydd y deisebwyr yn teimlo'r un fath.
Mae'r pwyllgor yn cydnabod yr heriau sydd wedi wynebu Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gwrs, a'r angen i flaenoriaethu adnoddau. Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig fy mod yn nodi'r her wrth inni geisio craffu'n briodol ar y Llywodraeth a darparu ymateb digonol i aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflwyno deisebau os na ddaw ymatebion i law mewn cyfnod rhesymol o amser.
Gan symud ymlaen at alwadau penodol y ddeiseb hon, mae Laura wedi tynnu sylw at ei phryder am yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig drwy effaith cyfyngiadau symud ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae'n dal i bryderu ynghylch argaeledd gwasanaethau priodol i bobl sydd eu hangen, yn enwedig y graddau y darperir y rhain mewn modd amserol i bobl ar adegau o argyfwng.
Roedd profiad diweddar a nododd Laura drwy ei sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau yn codi pryderon ynghylch diffyg gwasanaethau, atgyfeirio neu ddilyniant pan gafodd pryderon iechyd meddwl eu crybwyll yn ystod ymweliad ag adran damweiniau ac achosion brys. Mae'r ddeiseb hefyd yn cyfeirio at amseroedd aros am driniaeth a therapi, a'r hyn y mae Laura yn ei weld fel angen i wella gallu gwasanaethau i ymateb i'r galw sy'n bodoli yn ein cymunedau.
Fel y gwyddom i gyd, mae'r rhain yn bryderon hirsefydlog ynglŷn â'r cyfyngiadau ar gapasiti o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru, ond efallai bod mwy byth o ffocws arnynt yn sgil amgylchiadau'r 12 mis diwethaf. Mae gwasanaethau lle'r oedd mwy o alw amdanynt na'r gallu i'w ddiwallu mewn llawer o achosion o'r blaen wedi gweld nifer y cleifion yn cynyddu, yn union fel y mae eu gallu i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig rhai wyneb yn wyneb, wedi dod yn fwy cyfyngedig nag erioed.
Mae Mind Cymru wedi nodi eu pryderon eu hunain ynghylch mynediad at gymorth iechyd meddwl, gan ddweud bod bron i chwarter y bobl yr haf diwethaf wedi dweud nad oeddent yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. A'r wythnos diwethaf, wrth gyflwyno dadl y pwyllgor iechyd ar y pwnc hwn, nododd ein cyd-Aelod Dai Lloyd AS fod mwy na hanner yr oedolion a thri chwarter y bobl ifanc yn teimlo bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.
Credaf fod hwn yn fater y mae'n rhaid i bob un ohonom geisio mynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth. Yng Nghymru, gobeithiwn y gallwn barhau i gefnu ar y pandemig hwn, ond rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i osgoi pandemig iechyd meddwl pellach yn y dyfodol.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae iechyd meddwl wedi bod yn destun llawer iawn o waith a thrafodaeth drwy gydol y Senedd hon. Mae'n sicr wedi bod yn thema reolaidd mewn deisebau a gyfeiriwyd at ein pwyllgor dros y cyfnod hwnnw. Mae hynny'n amlygu'r ffaith bod llawer o'r cyhoedd o'r farn y gellid ac y dylid gwneud mwy, yn ogystal â phwysigrwydd cael gwasanaethau'n iawn, pwynt y credaf y gallwn i gyd gytuno ei fod yn arbennig o bwysig yn awr. Diolch yn fawr iawn.