Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 10 Mawrth 2021.
Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hamser wrth ystyried y pwnc pwysig yma? Gaf i ymddiheuro nad yw'r pwyllgor na Laura wedi cael ymateb ffurfiol? Gwnaf i'n siŵr y bydd ymateb ffurfiol yn dod o fewn yr wythnos nesaf.
Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, ac rŷn ni wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth ers inni gyflwyno'n strategaeth, 'Gyda'n Gilydd dros Iechyd Meddwl', yn 2012. Ac, wrth gwrs, mae effaith COVID-19, fel mae David Rees wedi amlinellu, a'r cyfyngiadau wedi rhoi mwy o sylw i'r mater yma, ac rŷn ni'n benderfynol o wella'n gwasanaethau ni i ymateb i'r gofyn. Ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi dangos ei ymrwymiad ef i'r mater yma drwy benodi Gweinidog i arwain, o'r Cabinet, yn y maes yma.
Nawr, mae'n bwysig i nodi bod deiseb Laura Williams ac eraill wedi cael ei harwain gan ddefnyddwyr o'n gwasanaethau, a gadewch imi ddechrau trwy ddweud fy mod i wedi sicrhau fy mod i wedi gwneud ymdrech i rili deall profiad pobl sy'n defnyddio'n gwasanaethau iechyd meddwl. Dwi wedi bod yn cyfarfod yn gyson â theuluoedd plant a phobl ifanc sydd yn defnyddio'n gwasanaethau. Fy nod i yw cael darlun cyflawn o brofiad ein defnyddwyr, ac nid jest cadw'r ffocws ar berfformiad amseroedd aros, achos dwi'n meddwl bod gwella ansawdd profiad y defnyddwyr hefyd yn allweddol. Felly, nid jest y mater o gyrraedd targedau amserol sy'n bwysig i ni—er fy mod i'n deall bod yn rhaid inni gyrraedd y targedau hynny—ond hefyd rhaid inni ganolbwyntio ar y math o driniaeth maen nhw'n ei derbyn pan fyddan nhw'n cyrraedd brig y rhestr aros.
Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch gwir effaith y pandemig ar iechyd meddwl, yr hyn sy'n amlwg yw bod angen delio â'r sefyllfa mewn dull sydd yn aml-asiantaethol, ac mewn dull sy'n deall bod angen ymateb yn sensitif sy'n wahanol i bob unigolyn.