8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd Aros y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:42, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth wneud y cynnig hwn heddiw, hoffwn ddechrau drwy fynegi ein diolch i staff y GIG. O feddygon rheng flaen i reolwyr ystafell gefn, maent wedi dal ati ac wedi darparu gofal a chymorth i lawer o unigolion a theuluoedd yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Yn ddi-os, mae'r GIG wedi bod o dan bwysau aruthrol yn sgil COVID, ond y gwir amdani yw bod y GIG o dan bwysau aruthrol cyn y pandemig. Mae angen llwybr allan o'r sefyllfa bresennol, yn ogystal ag edrych a sicrhau bod gan GIG Cymru adnoddau da a'i fod wedi'i alluogi o ddifrif, oherwydd mae'r GIG angen mwy o weithwyr proffesiynol hyfforddedig a rhyddid i arloesi, mae angen buddsoddiad mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd cryfach, gwell TG a chynllun ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl, ac mae angen inni allu lleihau'r amseroedd aros erchyll.

Nid wyf yn diystyru maint y frwydr. Gadewch inni gofio bod GIG Cymru mewn sefyllfa wan a bregus cyn COVID-19, o ganlyniad i benderfyniadau gwael dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gyfres o Lywodraethau Llafur a Llafur-Rhyddfrydwyr a Llafur-Plaid Cymru marwaidd. Un maes o'r fath yr effeithiwyd arno'n wael yw recriwtio. Y gweithlu yw asgwrn cefn y GIG, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar ewyllys da, goramser ac asiantaethau i wneud iawn am brinder staff, yn hytrach na gweithredu strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, amcangyfrifir bod o leiaf 1,612 o swyddi nyrsio'n wag, heb sôn am feddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol ac arbenigwyr iechyd meddwl. Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, ble mae'r strategaeth honno? Nid yw'n unman. Er mwyn ariannu cynnydd yn y gweithlu, rhaid i'r GIG gael ei gyllido'n briodol. Ac eto, Llywodraeth Lafur Cymru sydd â'r anrhydedd amheus o fod yr unig Lywodraeth yn y DU i dorri cyllideb y GIG yn yr oes fodern a hynny o oddeutu £800 miliwn. Maent hefyd wedi tanariannu'r system gofal cymdeithasol ac wedi caniatáu i freuder anfaddeuol ddatblygu yn y sector. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bobl hŷn dalu ddwy waith am ofal drwy geisio cyflwyno treth gofal cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag oedran, a hynny'n annheg ac yn oedraniaethol.

A gadewch inni droi at amseroedd aros, a oedd yn ofnadwy cyn y pandemig, ac sy'n ddychrynllyd yn awr. Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros wedi treblu i'r rhai a oedd yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Cyn y pandemig, methodd Llywodraeth Cymru gyrraedd ei hamseroedd targed ei hun ar gyfer triniaeth. Cyn y pandemig, nid oedd y targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyrraedd. Cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers degawd. Cyn y pandemig, nid oedd y targed i sicrhau bod cleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi'i gyrraedd ers 10 mlynedd. Cyn y pandemig, roedd y targed i gleifion aros llai na—.

Mae'n ddrwg gennyf, rydych wedi diflannu, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi fy ngholli i. Ymddiheuriadau, diflannodd y Dirprwy Lywydd, felly roeddwn yn credu efallai fy mod i wedi diflannu. Efallai y byddai'n dda gennych pe bawn i wedi diflannu, ond yn anffodus, Weinidog, rwy'n dal yma.