– Senedd Cymru ar 10 Mawrth 2021.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enwau Mark Reckless a Gareth Bennett, gwelliant 3 yn enw Caroline Jones, a gwelliant 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amseroedd aros y GIG, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7626 Mark Isherwood
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7 bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:
a) clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac
c) trawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth wneud y cynnig hwn heddiw, hoffwn ddechrau drwy fynegi ein diolch i staff y GIG. O feddygon rheng flaen i reolwyr ystafell gefn, maent wedi dal ati ac wedi darparu gofal a chymorth i lawer o unigolion a theuluoedd yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn. Yn ddi-os, mae'r GIG wedi bod o dan bwysau aruthrol yn sgil COVID, ond y gwir amdani yw bod y GIG o dan bwysau aruthrol cyn y pandemig. Mae angen llwybr allan o'r sefyllfa bresennol, yn ogystal ag edrych a sicrhau bod gan GIG Cymru adnoddau da a'i fod wedi'i alluogi o ddifrif, oherwydd mae'r GIG angen mwy o weithwyr proffesiynol hyfforddedig a rhyddid i arloesi, mae angen buddsoddiad mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd cryfach, gwell TG a chynllun ar gyfer gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl, ac mae angen inni allu lleihau'r amseroedd aros erchyll.
Nid wyf yn diystyru maint y frwydr. Gadewch inni gofio bod GIG Cymru mewn sefyllfa wan a bregus cyn COVID-19, o ganlyniad i benderfyniadau gwael dros yr 20 mlynedd diwethaf gan gyfres o Lywodraethau Llafur a Llafur-Rhyddfrydwyr a Llafur-Plaid Cymru marwaidd. Un maes o'r fath yr effeithiwyd arno'n wael yw recriwtio. Y gweithlu yw asgwrn cefn y GIG, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar ewyllys da, goramser ac asiantaethau i wneud iawn am brinder staff, yn hytrach na gweithredu strategaeth briodol ar gyfer y gweithlu. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, amcangyfrifir bod o leiaf 1,612 o swyddi nyrsio'n wag, heb sôn am feddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol ac arbenigwyr iechyd meddwl. Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a ddwy flynedd yn ddiweddarach, ble mae'r strategaeth honno? Nid yw'n unman. Er mwyn ariannu cynnydd yn y gweithlu, rhaid i'r GIG gael ei gyllido'n briodol. Ac eto, Llywodraeth Lafur Cymru sydd â'r anrhydedd amheus o fod yr unig Lywodraeth yn y DU i dorri cyllideb y GIG yn yr oes fodern a hynny o oddeutu £800 miliwn. Maent hefyd wedi tanariannu'r system gofal cymdeithasol ac wedi caniatáu i freuder anfaddeuol ddatblygu yn y sector. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bobl hŷn dalu ddwy waith am ofal drwy geisio cyflwyno treth gofal cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag oedran, a hynny'n annheg ac yn oedraniaethol.
A gadewch inni droi at amseroedd aros, a oedd yn ofnadwy cyn y pandemig, ac sy'n ddychrynllyd yn awr. Cyn y pandemig, roedd amseroedd aros wedi treblu i'r rhai a oedd yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Cyn y pandemig, methodd Llywodraeth Cymru gyrraedd ei hamseroedd targed ei hun ar gyfer triniaeth. Cyn y pandemig, nid oedd y targed o 95 y cant ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed wedi'i gyrraedd. Cyn y pandemig, nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers degawd. Cyn y pandemig, nid oedd y targed i sicrhau bod cleifion yn aros llai na 26 wythnos am driniaeth wedi'i gyrraedd ers 10 mlynedd. Cyn y pandemig, roedd y targed i gleifion aros llai na—.
Mae'n ddrwg gennyf, rydych wedi diflannu, Ddirprwy Lywydd. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi fy ngholli i. Ymddiheuriadau, diflannodd y Dirprwy Lywydd, felly roeddwn yn credu efallai fy mod i wedi diflannu. Efallai y byddai'n dda gennych pe bawn i wedi diflannu, ond yn anffodus, Weinidog, rwy'n dal yma.
Parhewch.
Cyn y pandemig, roedd gwasanaethau iechyd meddwl yn cael trafferth gydag ôl-groniad o ymholiadau. Cymru oedd â'r drydedd gyfradd uchaf yn rhanbarthau Cymru a Lloegr o hunanladdiad ymhlith menywod a'r bedwaredd gyfradd uchaf o hunanladdiad ymhlith dynion. A dyma'r broblem, Weinidog; mae gennym wasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd eisoes yn cael ei danariannu ac yn ei chael hi'n anodd cyn i COVID daro.
Yn ystod tymor y Senedd hon yng Nghymru, mae pump o'r saith bwrdd iechyd wedi bod o dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth, ac mae Betsi Cadwaladr, er gwaethaf eich cyhoeddiad diweddar, yn dal i'w chael yn anodd dangos arwyddion o welliant hirdymor real a chynaliadwy. Ac roedd yna feysydd eraill dros y pum mlynedd diwethaf lle rydych wedi addo llawer ond wedi methu cyflawni, fel uned mamau a babanod ar gyfer de Cymru a chlinig hunaniaeth rhywedd i Gymru. Felly, rydym yn galw ar eich Llywodraeth i gyhoeddi cynllun adfer ar gyfer GIG Cymru ar frys. Rhaid iddo gynnwys tri ymrwymiad allweddol: clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y dyfodol; recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; a thrawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi y gallwch gyflawni hyn. Mae angen arweinyddiaeth newydd ar wasanaeth iechyd Cymru erbyn hyn, ac rwyf wrth fy modd gyda'r cynlluniau sydd gan fy mhlaid i, y Ceidwadwyr Cymreig, i symud pethau yn eu blaen. Byddai gan Lywodraeth Geidwadol yng Nghymru gynllun rheoli COVID-19, a fyddai'n penodi Gweinidog adfer COVID-19 penodol yn Llywodraeth Cymru i oruchwylio pob maes adfer wedi'r coronafeirws, gan gynnwys cyflwyno'r brechlyn. Byddem yn cefnogi pobl sy'n profi effeithiau hirdymor COVID-19 drwy sefydlu clinigau penodol ar gyfer trin COVID hir. Byddem yn sefydlu llwybrau cymorth ar frys i bobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl yn sgil y pandemig, yn enwedig staff y GIG a gweithwyr gofal, am eu bod wedi bod yn darparu gofal lliniarol, a'r rhai a ddioddefodd brofedigaeth na allodd ffarwelio ag anwyliaid. Byddwn yn mynd i'r afael â'r dirywiad cronig mewn amseroedd aros dros y 12 mis diwethaf ac yn dechrau lleddfu'r argyfwng recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru gyda'n polisi 'recriwtio, cadw, ailhyfforddi'. Ers gormod o amser, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi cael eu gadael ar ôl, ac mae'n bryd rhoi'r un amlygrwydd i lesiant meddyliol ag a roddir i iechyd corfforol.
Weinidog, rydym am adeiladu'n ôl yn well, rydym am roi'r cymorth sydd ei angen arno i GIG Cymru ac nid ydym eisiau mwy o'r un peth. Edrychaf ymlaen at glywed y cyfraniadau i'r ddadl hon heddiw. Hoffwn annog yr Aelodau o'r Senedd i gefnogi'r cynnig. Diolch.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Diolch. Rwy'n galw nawr ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw e.
Rwy'n cynnig ein gwelliant yn ffurfiol. Diolch, Lywydd, am ddewis ein gwelliant, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd Angela Burns ynglŷn â diolch i'r staff. Ar ein gwelliant, credwn mai datganoli sydd wedi dal darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd yn ôl yng Nghymru. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hynny, ond wrth gwrs ni fyddai gennym Lywodraeth Cymru heb ddatganoli.
Ar y rhestrau aros, roeddent yn cymharu'n wael o'r blaen, ac mae'n amlwg y bu cynnydd enfawr yn y rhestrau aros oherwydd COVID, ac rwy'n credu y bydd yn cymryd amser cyn i'r data a'r ddealltwriaeth briodol ohono ddangos effaith gymharol hynny yng Nghymru a Lloegr. Rwy'n credu mai un o'r anawsterau sydd gennym yw ei bod wedi mynd yn anoddach yn ystod datganoli i wneud cymariaethau teg rhwng canlyniadau yng Nghymru a Lloegr, ond nid wyf yn credu bod y rhai rydym wedi'u gweld wedi bod yn rhai da i ni. Er bod lefel y gwariant yn gyffredinol yn dal i fod rywfaint yn uwch, mae'n llai felly o'i gymharu â faint o wariant sydd gennym gyda'r cyllid gwaelodol a'r gyfradd fwy o wariant o fewn hynny. Mae llai o bwyslais at ei gilydd wedi bod ar y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys y toriad termau real hwnnw yn y gwariant. Hoffem weld dull gofal iechyd integredig ledled y DU gydag un gwasanaeth iechyd gwladol. Gweledigaeth Aneurin Bevan yn wreiddiol pan greodd y gwasanaeth hwnnw; mae bellach wedi'i chwalu a'i hollti.
Hoffem gael systemau TG sydd wedi'u hintegreiddio'n briodol, hoffem i feddygon allu cyfeirio cleifion at ysbytai neu ofal yn Lloegr ar sail deg a chyfartal o gymharu â'r ffordd y gallant wneud hynny yng Nghymru, gan edrych ar angen meddygol yn unig. Fodd bynnag, nid wyf yn esgus y bydd yn ateb i bopeth sydd gennym gyda'r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd. Byddwn yn dweud bod y gwelliannau a'r cynnig sydd gennym heddiw—hyd yn oed ein gwelliant ein hunain—yn ymylol o'u cymharu â'r argyfwng sydd gennym yn ein system iechyd oherwydd COVID ac oherwydd yr ôl-groniad enfawr o waith sydd wedi datblygu, ac mae arnaf ofn ei fod yn dal i ddatblygu tra buom yn canolbwyntio ar COVID. Yn y cynnig, dywed y Ceidwadwyr wrthym y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn clirio'r ôl-groniad o driniaethau. Mae arnaf ofn ei fod yn fwlch llydan iawn rhwng Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cynllun a'u bod yn clirio'r ôl-groniad o driniaethau. Rwy'n credu bod hynny'n wir p'un a ydym yn sôn am y GIG yng Nghymru neu yn Lloegr neu'r Alban, er gwaethaf eu strwythurau ychydig yn wahanol.
Rydym yn croesawu'r newid yn GIG Lloegr gyda'r rhaniad prynwr-darparwr yn erydu, yn rhannol am ein bod yn credu ei bod yn ei gwneud yn haws ailintegreiddio'r GIG ar sail y DU—neu Gymru a Lloegr o leiaf. Ond faint o bobl sydd bellach yn aros a pha mor hir y maent yn aros a sut y mae hynny'n dal i waethygu—mae'r newid hwnnw mor fawr o'i gymharu â ble roeddem o'r blaen. Mae arnaf ofn nad yw'n realistig meddwl ein bod yn mynd i ddileu'r ôl-groniad o driniaethau cyn bo hir iawn, neu y byddai mynd ati'n syml i gyhoeddi cynllun ar gyfer Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny. Rwy'n credu mai un her wirioneddol bwysig i Lywodraeth Cymru, fel yn rhannau eraill y DU, yw cysylltu'r strategaeth honno o'r hyn sy'n digwydd â'r lefel uchaf er mwyn ceisio clirio'r ôl-groniadau a gwneud hynny gyda chanlyniadau gweddus ar y rheng flaen. Beth bynnag fo'r strwythurau sydd gennym yn ein GIG, mae arnaf ofn na fydd y ffordd y maent yn gweithio ac yn cysylltu â'i gilydd o anghenraid fel roedd pethau o'r blaen, o ystyried maint enfawr yr her a wynebwn, her a fydd, rwy'n ofni, yn parhau am sawl blwyddyn o leiaf. Credaf y bydd hynny'n wir beth bynnag fo'r newidiadau a argymhellwn, ni waeth i ba raddau y credwn y gallai ein newidiadau ymylol ein hunain wella pethau, ac rwy'n argymell ein gwelliant i'r perwyl hwnnw. Mae'r raddfa'n wirioneddol enfawr.
Rwy'n galw nawr ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei henw hi. Caroline Jones.
Gwelliant 3—Caroline Jones
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio ers 2010.
Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl degawd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU;
b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru;
c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis;
d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am driniaeth;
e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn y Nadolig ac am bum wythnos ar ôl hynny, roedd fy ngŵr yn ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda'r coronafeirws a gwelodd drosto'i hun y straen ar holl staff y GIG. Mae arnom ddyled enfawr iddynt. Rydym wedi trafod droeon yr angen i recriwtio a hyfforddi meddygon a nyrsys o'r boblogaeth leol, ac yma yng Nghymru, mae hyn yn bwysicach fyth, oherwydd yr angen i gynyddu nifer y staff yn y GIG sy'n gallu siarad Cymraeg. Felly, roeddwn yn siomedig o ddarllen yr adroddiad gan Migration Watch UK, a ddefnyddiodd ffigurau UCAS i ddatgelu'r ffaith bod 23,300 o fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU wedi'u gwrthod ar gyfer cyrsiau nyrsio ar anterth y pandemig. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith bod dros hanner yr holl ymgeiswyr yn y DU ar gyfer cyrsiau nyrsio wedi'u gwrthod yn ystod y degawd diwethaf. Yn y cyd-destun hwn, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi bod yn rhybuddio am brinder nyrsys a bygythiad gweithlu sy'n heneiddio.
Mae pob un o'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol meddygol wedi rhybuddio Llywodraethau ynglŷn â phrinder staff, ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r mater drwy hyfforddi a recriwtio pobl ifanc o'r DU, mae Llywodraethau olynol yma ac ar ben arall yr M4 wedi dibynnu ar hyfforddi a recriwtio o dramor. Mae'r diffyg cynllunio gweithlu hwn yn annoeth, ac mae hefyd yn annheg â gwledydd sy'n datblygu, gan ein bod yn dwyn eu talent a'u meddygon a nyrsys y maent eu hangen yn fawr. Rydym yn hynod ffodus fod y feirws ar y droed ôl gennym, ac y dylai ein poblogaeth gyfan fod wedi ei brechu erbyn yr haf. Nid yw gweddill y byd mor ffodus. Bydd mwy o angen eu meddygon ar is-gyfandir India a de-ddwyrain Asia nag arnom ni wrth iddynt barhau i ymladd COVID. A yw'n deg ein bod yn dwyn y staff hyn? Rhaid inni ddod yn fwy hunanddibynnol o ran ein meddygon a'n nyrsys. Rhaid inni ganfod gwir lefel y staffio sy'n angenrheidiol drwy weithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol, ac yna hyfforddi digon o staff yn y wlad hon i fodloni gofynion ein poblogaeth sy'n heneiddio. Fel arall, byddwn am byth ar drugaredd pwysau'r gaeaf a heb fod yn barod o gwbl ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Rhun ap Iorwerth nawr i gyflwyno'r gwelliant yn enw Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wnaf i ddim cyfrannu yn hir iawn i'r ddadl yma. Yn sicr, dwi eisiau cymryd y cyfle unwaith eto i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed ar ein rhan ni ar draws gwasanaethau iechyd a gofal ym mhob rhan o Gymru. Mae parodrwydd staff i fynd y filltir ychwanegol dro ar ôl tro dros y flwyddyn diwethaf yn rhywbeth mae pob un ohonon ni wedi'i werthfawrogi, a dwi'n gobeithio ei fod o wedi rhoi ffocws o'r newydd, i ni hefyd, ar yr her sydd o'n blaenau ni.
Felly, at y cynnig yma. Er fy mod i'n reit siŵr y byddai'r Blaid Geidwadol, sydd wedi cyflwyno'r cynnig, yn dod â chyfres newydd o broblemau dyfnion iawn i'r NHS petaen nhw'n cael eu dwylo arno fo, beth sydd gennym ni yn y cynnig yma ydy disgrifiad o wasanaeth iechyd anghynaliadwy—gwasanaeth iechyd sydd wedi cael ei wneud yn anghynaliadwy, dwi'n ofni, gan fethiant y gyfres o Weinidogion Llafur i roi i'r tirwedd iechyd a gofal yng Nghymru y math o sefydlogrwydd a chefnogaeth y mae o ei eisiau. Mae'r staff ymroddedig yna y gwnes i gyfeirio atyn nhw wedi gorfod cario mwy na'r baich y dylen nhw orfod ei gario oherwydd yr anghynaliadwyedd yna.
Dydy diffyg cefnogaeth ddim bob amser wedi golygu diffyg cefnogaeth ariannol. Does yna ddim amheuaeth bod blynyddoedd lawer o doriadau gan Lywodraeth Prydain wedi gwneud cyllidebau i wasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw yn fwy bregus, ond rydyn ni'n dal yn gweld cymaint o gyfran o'r holl wariant cyhoeddus yng Nghymru sydd yn mynd ar y gwasanaeth iechyd. Mae yna fwy iddi na'r ariannol. Beth sydd yma, dwi'n credu, ydy methiant i fod wedi trawsnewid iechyd a gofal, ac mae'r amser, dwi'n credu, wedi dod i wneud hynny. Dwi'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Plaid Cymru yn trio mynd i'r afael â hyn.
Felly, beth ydy'r trawsnewid yr ydyn ni'n chwilio amdano fo? Dwi'n cyfeirio at y gwelliant sydd wedi cael ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian, a dwi'n cynnig hwnnw yn ffurfiol. Mae'n rhaid inni gael dim byd llai na chwyldro rŵan yn yr ataliol. Mae'n rhaid inni greu cymdeithas sydd yn fwy iach, creu cyfundrefn sydd yn adnabod afiechydon yn llawer iawn cynt, ac atal yr afiechydon hynny rhag gallu datblygu. Dwi eisiau bod ar bwynt lle mae'r arian iechyd yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu adnoddau chwaraeon. Dyna'r math o gynaliadwyedd dwi'n chwilio amdano fo yn y pen draw, ac mae'n rhaid inni roi'r nod hwn i ni ein hunain. Dwi'n gweld y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas, yn ysgwyd ei ben—dydy o ddim eisiau gweld arian yn cael ei wario ar adnoddau chwaraeon a'u budd ataliol nhw. Croeso i chithau wneud ymyriad i'r ddadl yma, Ddirprwy Weinidog.
Rydyn ni hefyd wedi cyrraedd at yr amser lle mae'n rhaid inni weld uno go iawn yn yr iechyd a'r gofal, a'n bwriad ni ydy creu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol. Deliferi yn lleol, ie—dydy o ddim yn golygu newid strwythurol mawr ar lefel leol—ond mae yn golygu cyflwyno fframweithiau clir ar gyfer iechyd a gofal, ac yn benodol ar sut maen nhw'n gweithio efo'i gilydd. Dwi'n gwerthfawrogi'r uchelgais sydd gan y Ceidwadwyr yma o gyflogi 3,200 o staff ychwanegol. Rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn sôn ers blynyddoedd am yr angen am 6,000 o feddygon a nyrsys a staff ategol eraill, a gweithwyr proffesiynol eraill, o fewn iechyd a gofal. Dyna sy'n rhaid inni gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf er mwyn creu'r cynaliadwyedd yna.
Wrth gwrs, mae hynny'n dod ar gyfnod o her digynsail yn dilyn blwyddyn o bandemig, ac ydy, mae hynny'n gwneud yr her yn fwy, ond mae'r dal i fyny yn gorfod rŵan mynd law yn llaw â thrawsnewid, a gallwn ni ddim ar unrhyw gyfrif benderfynu y gallwn ni oedi'r trawsnewid sydd angen ei weld yn digwydd mewn iechyd a gofal oherwydd y pandemig. Mae'n golygu gweithio'n fwy clyfar am flynyddoedd i ddod, achos mae'r pwynt wedi dod, fel dwi'n dweud, lle mae angen chwyldro go iawn fan hyn.
Ar draws Aberconwy, mae neges glir mewn sawl cornel: daw eto haul ar fryn. Diolch i waith staff y GIG, mae golau a gobaith wedi bod trwy'r pandemig. Diolch o galon i chi gyd.
Diolch. O'r 0.5 miliwn o lwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ym mis Rhagfyr, mae 21 y cant yma yng ngogledd Cymru. O'r tua 0.25 miliwn o lwybrau sy'n aros dros 36 wythnos, mae dros 51,000 yma yng ngogledd Cymru. Mae hynny wedi cynyddu 347 y cant ers dechrau'r pandemig. Yn amlwg, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr angen cynllun adfer yn ddybryd. Yn wir, datgelais yn ddiweddar fod gan un meddyg ymgynghorol dros 450 o gleifion yn aros am driniaeth orthopedig.
Fodd bynnag, mae sefyllfa gogledd Cymru'n unigryw. Rydym angen cynllun adfer oherwydd y pwysau dinistriol a achoswyd gan y pandemig, ond yn fwy na hynny rydym angen un sy'n mynd â ni i sefyllfa well nag erioed o'r blaen, gan ei bod yn wir fod y bwrdd wedi parhau i fod o dan ymyrraeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers 2015. Ym mis Mehefin 2015, gosododd Mark Drakeford, y Prif Weinidog—nid oedd yn Brif Weinidog ar y pryd, ond mae bellach—y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, gan adlewyrchu pryderon difrifol am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu, gwasanaethau iechyd meddwl, ailgysylltu â'r cyhoedd a meysydd eraill. Yr wythnos diwethaf, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bedwar maes allweddol sydd angen eu gwella: iechyd meddwl, cynllunio strategaeth a pherfformiad, arweinyddiaeth ac ymgysylltu. Felly, bum mlynedd a naw mis ar ôl dechrau mesurau arbennig, rydym yn ôl lle roeddem ar y dechrau i bob pwrpas.
Nawr, er fy mod yn sylweddoli bod y cynllun ymyrraeth wedi'i dargedu'n cael ei gefnogi gan £297 miliwn hyd at ddiwedd 2023-24, sut y gallwn fod yn hyderus y bydd y gwelliannau hynny y nodwyd eu bod yn angenrheidiol yn digwydd mewn gwirionedd? Yn 2019, datgelais fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £83 miliwn ar gynnal y bwrdd iechyd hwn, ond beth a gyflawnwyd? Mae'r ymyriadau wedi methu cyflawni ar gyfer ein staff ac ar gyfer ein cleifion. Er mwyn adfer a gwella ein bwrdd iechyd, rwy'n gofyn am gyflawni cynllun sy'n rhannu'r baich triniaeth hirdymor enfawr gyda byrddau eraill ledled y DU, cynlluniau pencampwyr fel yr uned gofal ôl-anesthesia newydd yn Ysbyty Gwynedd, cynllun sy'n plannu'r hadau ar gyfer twf enfawr gwell mewn recriwtio drwy fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, ac sy'n gweld gweithiwr iechyd meddwl dynodedig yn addysgu practisau meddygon teulu ledled Cymru.
Lywydd, mae prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn ei swydd, ac mae gennyf obeithion mawr wrth symud ymlaen y bydd yn gallu newid trywydd y bwrdd hwn. Rydym wedi cael sawl un cyn iddi hi ddod ac rydym wedi cael sawl addewid, ond un o'r rhesymau a ddaeth â hi i'r bwrdd—ac nid yw'n cuddio'r ffaith hon—oedd iddi hi ei hun gael ei siomi pan wynebodd ddigwyddiad yn ei theulu ei hun. Felly, mae'n gwybod yn uniongyrchol sut y mae'n rhaid inni gael y pethau hyn yn iawn. Byddwn yn annog unrhyw un yma wrth symud ymlaen ar ôl mis Mai, yn enwedig yng ngogledd Cymru, i sicrhau'r newid hwnnw a'i gyflwyno'n gyflym. Byddai hynny o leiaf yn dod â rhywfaint o oleuni pellach i fywydau staff a'n cleifion yma yng ngogledd Cymru. Diolch.
Ceisiaf gadw fy nghyfraniad yn fyr, ond rhaid imi fynegi fy siom enfawr yng nghyfraniad Mark Reckless, sydd unwaith eto'n ceisio rhoi'r GIG yn ôl yn nwylo San Steffan a thuag at Lywodraeth sydd am breifateiddio yn hytrach na gwasanaethu pobl Cymru. Rwyf hefyd yn siomedig iawn ynglŷn â'r modd y mae ymdrechion Caroline Jones i wneud sylwadau ar gyfraniadau gweithwyr tramor a gweithwyr iechyd proffesiynol tramor i'w gweld yn canolbwyntio mwy ar eu gyrru'n ôl adref na'u helpu i helpu ein pobl, ac rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch mawr i staff y GIG sydd wedi bod yn ddiflino yn eu hymrwymiad a'u hymroddiad a'u tosturi i'n pobl sydd wedi bod angen y gwasanaeth hwnnw, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda chyflyrau difrifol yn sgil COVID. Ni allwn byth ddiolch digon iddynt. Ni soniaf am y codiad cyflog ar y cam hwn, ond maent yn haeddu llawer mwy nag y nodwyd eu bod yn ei gael ar hyn o bryd.
Lywydd, rwyf wedi siarad droeon am y pwnc, ac rwy'n cydnabod bod pryder mawr am yr ystadegau a welwn ac mae angen inni weithredu i gefnogi ein gwasanaeth iechyd i gynyddu gwasanaethau er mwyn lleihau'r rhestrau aros ond ar yr un pryd, mae angen ymdrin ag anghenion uniongyrchol cleifion yn y dyfodol, oherwydd rydym yn symud allan o'r pandemig ac i gyfnod lle mae'n rhaid inni ddal i fyny, ond rhaid inni hefyd barhau i gyflawni ar gyfer y rheini sy'n gofyn am gymorth ar y pryd. Yn ogystal â'r rhestrau aros rydym yn ymwybodol ohonynt—sef y bobl sydd eisoes wedi'u rhoi ar restrau aros—nid oes amheuaeth y bydd llawer mwy sydd heb ofyn am gymorth, boed hynny oherwydd bod y pandemig wedi gwneud iddynt boeni ynglŷn â mynychu eu meddygfa neu am eu bod wedi camgymryd symptomau fel rhai'r coronafeirws. Pan oeddwn yn brin o anadl cyn y Nadolig, dywedwyd wrthyf am fynd i gael prawf coronafeirws—negyddol—ac yn y pen draw bu'n rhaid imi fynd i'r ysbyty gyda chlotiau gwaed ar yr ysgyfaint: cyflwr roedd angen ei drin. Mae llawer o bobl allan yno sydd efallai'n petruso mwy rhag gofyn am gymorth, a byddant yn gwneud hynny, ac felly bydd ein rhestrau aros yn cynyddu. Mae'n rhaid mynd i'r afael â'r don honno o bobl a'r nifer fawr—rwy'n credu mai tswnami ydyw—o bobl ar restrau aros.
Cyn y pandemig, roeddem yn gwneud cynnydd cadarnhaol tuag at leihau amseroedd aros yn y rhan fwyaf o feysydd. Yn 2019, gwelsom lai na 1,000 o bobl yn aros dros 24 wythnos am naw allan o 12 mis ym mhob gwasanaeth diagnostig. Nawr, mae'r mwyafrif yn aros llai nag wyth wythnos. Nid oedd y cyfanswm yn 2020, ym mis Rhagfyr, ond wedi cynyddu 14.5 y cant o'i gymharu â'r mis Rhagfyr blaenorol, ond yr hyn a welsom oedd mwy o symud o'r rhai a oedd yn aros llai na 26 wythnos i'r rheini sydd bellach yn aros dros 36 wythnos. Felly, newid mawr a newid yn hyd yr amser y mae pobl yn aros. Yn wir, gwelsom gynnydd o 748 y cant yn y newid hwnnw. Felly, yn bendant gwelir newid amlwg o restrau aros byrrach i restrau aros hirach. Mae angen triniaeth ar bawb ar y rhestrau aros a'n nod yw herio'r Llywodraeth i nodi ei chynllun i fynd i'r afael â'r ffigurau hyn. Yn anffodus, mae COVID-19 wedi gwneud hynny hyd yn oed yn fwy anodd o ran sut rydym yn rheoli'r cleifion ar y rhestrau yn ôl y gofyn, oherwydd mae hyn ledled y DU, ac felly rydym yn cael ein hamddifadu o rai o'r opsiynau a'r mentrau rhestrau aros amgen sydd ar gael oherwydd bydd ysbytai yn Lloegr, gwasanaethau ledled y DU, yn wynebu'r un heriau'n union â ni, ac felly mae'n rhaid newid y gwaith o fodelu'r modd yr awn i'r afael â'r rhestrau aros. Rhaid inni edrych ar fodelau newydd. Nawr, gadewch inni gofio hefyd, os gwelwn yn dda, fod ein staff GIG wedi ymlâdd, a rhaid inni sicrhau eu bod hwy'n gwella hefyd, ochr yn ochr â'r amseroedd aros, fel y byddwn mewn sefyllfa i ailddechrau darparu gwasanaethau iechyd yn llawn, ynghyd â'r paratoadau ar gyfer tonnau ychwanegol y mae'r firysau a—[Anghlywadwy.]—yn eu cyflwyno yn y blynyddoedd i ddod.
Nawr, mae yna newyddion cadarnhaol. Gwelsom gynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddi dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r nifer sy'n manteisio arnynt wedi bod yn dda, ac mae arnom angen i Addysg a Gwella Iechyd Cymru adlewyrchu anghenion y gweithlu er mwyn sefydlu lleoedd hyfforddi ychwanegol a gweithio gyda byrddau iechyd a meddygon teulu er mwyn inni gael y lleoedd y gallant fynd iddynt i gael eu profiadau. Mae hynny'n bwysig iawn, oherwydd yn aml iawn rydym yn sôn am niferoedd mawr, ond rydym yn anghofio: sut y gellir eu rheoli pan fyddant yn mynd i'r lleoliadau gwaith hynny? Yn enwedig i nyrsys, rhaid inni sicrhau bod digon o gefnogaeth yno hefyd, a bod digon o amser gan staff i roi'r cymorth hwnnw. Mae llawer o bethau i'w hystyried, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu ychwanegu cyllid ychwanegol at elfen hyfforddiant meddygol gogledd Cymru. Felly, mae yna broses, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd ar hynny. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru: sicrhewch eich bod yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon teulu, eich bod yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi meddygon, yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys, a'r holl broffesiynau perthynol. Rwy'n gwybod ei fod yn anodd. Rwy'n gwybod bod problem o ran ariannu. Ond mae'n rhaid i ni gael y bobl hyn yn eu lle. Rydym—
Bydd yn rhaid imi ofyn i chi ddod i ben. Ardderchog, diolch.
Rwyf am orffen yno, Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, ym mis Rhagfyr 2020, roedd 25,182 o bobl yn aros dros 36 wythnos am driniaeth, o gymharu â 726 o bobl yn aros am yr un hyd o amser yn 2019 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyna gipolwg ar un ardal yn unig yng Nghymru, sy'n dangos cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n aros yn daer am driniaeth y GIG. Ac fel y mae Aelodau eisoes wedi dweud, y tu ôl i'r ffigurau hynny mae pobl go iawn yn byw'n bryderus ac mewn rhai achosion, mewn anghysur a phoen difrifol.
Nawr, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae pandemig COVID wedi golygu mai ffocws y GIG oedd mynd i'r afael â'r feirws a'i effaith ar ein pobl a'n cymunedau, ac mae'n rhaid i bob un ohonom dderbyn bod y pandemig wedi cael effaith go iawn ar ein gwasanaethau iechyd a'u gallu i gyflawni llawdriniaethau dewisol a thriniaethau rheolaidd. Dyna pam y cafwyd galwadau y llynedd am sefydlu ysbytai di-COVID fel y gellid gwneud rhywfaint o gynnydd, o leiaf, ar fynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau ledled y wlad. Fodd bynnag, rydym bellach ar bwynt lle mae'r rhaglen frechu yn gwneud cynnydd sylweddol yng Nghymru, gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu brechu bob dydd, a dyna pam y mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi cynllun adfer penodol ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros GIG Cymru ac yn rhoi rhywfaint o obaith i bobl sy'n aros am driniaeth y bydd yr ôl-groniad yn cael sylw ac y byddant o'r diwedd yn cael y driniaeth y maent ei hangen.
Yn sicr, nid fi yw'r unig un sy'n cael gohebiaeth gan bobl sy'n daer eisiau clywed pryd y maent yn debygol o gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, ac mae'r diffyg gwybodaeth a gawsant wrth aros am driniaeth wedi gadael pobl yn rhwystredig ac yn bryderus. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried hynny ac o leiaf yn dweud wrth y byrddau iechyd lleol fod angen iddynt gyfathrebu'n well â phobl sy'n aros am driniaeth i egluro eu sefyllfa a'r amgylchiadau lleol.
Mae pryderon difrifol iawn hefyd gan elusennau a sefydliadau megis Rhwydwaith Canser Cymru ynghylch gallu'r GIG i ymdrin ag ôl-groniadau. Er enghraifft, mae'r Athro Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru wedi rhybuddio bod tswnami digynsail o alw am wasanaethau canser ar y ffordd. Yn wir, gwyddom fod mwy na thraean o gleifion lle ceir amheuaeth o ganser yn aros yn rhy hir i ddechrau eu triniaeth benodol gyntaf, yn ôl set gyntaf Llywodraeth Cymru o ffigurau llwybrau lle'r amheuir canser a gyhoeddwyd yn ddiweddar. A'r achosion y gwyddom amdanynt yn unig yw'r rheini. Mae'r pandemig wedi golygu nad yw llawer o gleifion yr amheuir bod ganddynt ganser wedi cysylltu â'u meddygon teulu, ac felly gallai fod pwysau pellach ar wasanaethau wrth inni ddod allan o'r pandemig, wrth i fwy o bobl adrodd am symptomau posibl wrth eu meddygon teulu. Felly, er mwyn i wasanaethau gael eu datblygu ar gyfer y dyfodol i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau, rhaid inni hefyd ystyried yr heriau na ellir eu gweld fel y rhain, a fydd yn effeithio ar y galwadau ar ein gwasanaethau GIG yn y dyfodol.
Wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei chynllun adfer ar gyfer y GIG, mae sawl mater y mae angen iddi eu hystyried wrth gynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Yn gyntaf, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod seilwaith diagnostig y GIG yn ddigonol i ateb y galw yn y dyfodol yn ogystal â mynd i'r afael â rhestrau aros presennol y GIG, a rhaid i'r Gweinidog a'i swyddogion ystyried modelau darparu cyfredol, yn enwedig wrth i bethau fel ymarfer clinigol a thechnoleg barhau i newid.
Ac yn ail, yng ngoleuni'r pandemig COVID-19, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog a'i swyddogion yn archwilio ffyrdd y gallwn ddatblygu cydnerthedd o fewn y GIG yn well fel nad ydym ond yn syrthio'n ôl i'r hen ffyrdd o ddarparu gwasanaethau iechyd. Credaf y gall fod lle i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r capasiti ychwanegol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, megis capasiti ysbytai maes, i helpu i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig yn y tymor byr a'r tymor canolig. Ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon efallai y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y trafodaethau strategol y mae'n eu cael ynglŷn â sut y darparwn wasanaethau iechyd ar ôl pandemig.
Felly, wrth gloi, Lywydd, mae'n hanfodol fod y materion hyn yn cael eu hystyried o ddifrif wrth ddatblygu cynllun adfer ar gyfer GIG Cymru, ac wrth ddatblygu strategaeth sy'n cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad a hefyd yn darparu digon o gydnerthedd yn y system i ateb heriau'r dyfodol. Ac o'r herwydd, hoffwn annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Cyn y pandemig, gwnaethom gyflawni ein hymrwymiad i wella mynediad a chawsom bedair blynedd o welliant parhaus yn yr amseroedd aros ledled Cymru. Dros yr un cyfnod, rydym wedi gweithio gyda'n GIG i sicrhau bod byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'n gallu gweithio fel sefydliadau sy'n perfformio'n dda. Bedair blynedd yn ôl, roedd gennym bum sefydliad ar y ddwy lefel uwchgyfeirio uchaf; yn awr, mae gennym ddau sefydliad sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu.
Fel ym mhob gwlad, mae'r pandemig wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf yn hynod o heriol ac wedi atal gwelliannau pellach mewn amseroedd aros. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i wneud gwelliannau mewn amrywiaeth o feysydd, megis darparu rhwng 30 y cant a 50 y cant o apwyntiadau cleifion allanol yn rhithwir.
Mae COVID-19 wedi effeithio, ac yn dal i effeithio ar ein gallu i drin pob claf mewn modd mor amserol ag yr hoffem. Mae llawer o gleifion yn aros yn hir—yn rhy hir—ac ailadroddir y darlun hwn mewn gwasanaethau iechyd ym mhob cwr o'r byd, nid yma yn y DU yn unig. Yn anffodus, rwy'n cydnabod y bydd rhai cleifion yn gwaethygu yn eu cyflwr wrth aros. Rydym yn gweithio'n ddiwyd gyda chleifion i liniaru effaith yr amseroedd aros hyn lle bo'n bosibl. Mae mesurau i leihau'r risg o niwed, dan arweiniad arweinwyr clinigol dynodedig, yn weithredol.
Rwyf wedi nodi'n flaenorol pam y mae'n rhaid inni roi blaenoriaeth i ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau o gefnogi cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, gan gydbwyso adnoddau i ateb anghenion gwasanaethau eraill, fel iechyd meddwl. Yn wir, bu'r Aelodau'n trafod iechyd meddwl yn gynharach heddiw. Er bod gennym ffordd gytûn ymlaen ar lefel bwrdd iechyd i drin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, mae ein cynlluniau ar gyfer adfer yn cael eu datblygu. Mewn partneriaeth â'n GIG, fel y gŵyr yr Aelodau eisoes, rydym yn cynhyrchu cynllun adfer y byddaf yn ei gyhoeddi cyn diwedd tymor y Senedd hon.
Yr her wirioneddol fydd cyflawni'r cynllun, proses a fydd yn cymryd blynyddoedd wrth gwrs. Mae ein GIG a'n gofal cymdeithasol yn ymdopi â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen. Nid oes ateb gweithredol syml—nac ateb moesegol syml yn wir—i'r her enfawr sy'n ein hwynebu. Credaf fod y ddau wasanaeth yn ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus unwaith mewn canrif hwn. Rwy'n parhau'n hynod ddiolchgar i'n staff GIG a gofal cymdeithasol ymroddedig. Maent yn parhau i ddangos eu hymrwymiad proffesiynol a'u tosturi.
Rwyf am ymdrin yn awr â'r rhan fwyaf o gyfraniadau'r Ceidwadwyr i'r ddadl hon. Roeddwn yn credu bod Paul Davies yn feddylgar, er nad wyf yn cytuno â phob dim a oedd ganddo i'w ddweud. Mae arnaf ofn fod y gweddill o'r Torïaid yn diferu o ragrith ac anghywirdeb. Mae'n ymddangos i mi—a chredaf fod ein staff yn gwybod hyn—ar fater ein GIG, fod y Ceidwadwyr yn fleiddiaid mewn dillad bleiddiaid. Os ydych o ddifrif yn gwerthfawrogi ein staff, pam y mae Prif Weinidog y DU yn dweud celwydd am Lafur yn pleidleisio yn erbyn codiad cyflog i'r GIG—codiad cyflog i'r GIG y mae'r Torïaid yn bwriadu ei ddiddymu? Mae cynlluniau'r Torïaid i dorri cyflogau'r GIG i bob pwrpas a'n hamddifadu yma yng Nghymru o'r arian i wneud rhagor yn gic yn y dannedd i'n harwyr GIG. Mae eich gweithredoedd yn dweud wrth ein staff faint rydych yn eu gwerthfawrogi mewn gwirionedd, a gallaf ddweud wrthych eu bod yn ddig, ac mae ganddynt reswm da dros fod felly.
Yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i gydbwyso ein hymdrechion adfer a chydnabod bod angen amser ar ein staff i wella. Er ein bod yn cydnabod y bydd angen staff ychwanegol ar draws pob disgyblaeth, bydd hyn hefyd yn cymryd amser. Ond fel Llywodraeth, mae gennym uchelgais clir i dyfu a hyfforddi ein staff, ac mae gennym hanes rhagorol o gefnogi staff iechyd a gofal. Mae gennym eisoes strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Rydym wedi buddsoddi bron i £230 miliwn eleni i gefnogi addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol—y seithfed flwyddyn yn olynol lle'r ydym wedi cynyddu cyllid, ac mae hynny'n cynnwys cynnydd yn nifer y lleoedd hyfforddiant meddygol. Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae lleoedd hyfforddi nyrsys wedi cynyddu 109 y cant, lleoedd bydwreigiaeth 97 y cant, ymwelwyr iechyd 88 y cant, ffisiotherapyddion 81 y cant, a radiograffwyr 24 y cant. Mae gan y Llywodraeth hon dan arweiniad Llafur Cymru hanes i fod yn falch ohono o werthfawrogi ein staff a buddsoddi yn y dyfodol.
Byddwn yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad ar y rhestrau aros. Fe fydd yn cymryd amser, ond fe fyddwn yn ei wneud. Byddwn yn arwain adferiad ein system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. Byddwn yn ailgydbwyso gofal cymdeithasol, yn darparu setliad newydd ar gyfer ein staff, gan sicrhau mwy o integreiddio â gofal iechyd wrth drawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd, a byddwn yn sicrhau adferiad iechyd mewn perthynas ag iechyd corfforol a meddyliol. Gwerthoedd Llafur Cymru a greodd y gwasanaeth iechyd gwladol, a gwerthoedd Llafur Cymru fydd yn diogelu ein GIG wrth inni weld pen draw'r pandemig o'r diwedd ac ailadeiladu ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Mae yna ddau Aelod sydd wedi dangos eu bod nhw eisiau cyfrannu yn fyr ac ymyrryd yn y ddadl, a gwnaf i alw Caroline Jones yn gyntaf.
Diolch, Lywydd. Gofynnaf i'r cyhoedd wrando ar fy nghyfraniad yn ei gyfanrwydd, gan fod David Rees wedi ceisio camddehongli fy nghyfraniad yn fwriadol er ei fudd gwleidyddol ei hun.
A Mark Reckless.
Hoffwn innau hefyd wrthwynebu'r modd hurt y disgrifiodd David Rees y GIG yn Lloegr ar hyn o bryd fel un sy'n cyflymu preifateiddio. Yn amlwg, ar ddiwedd y 1990au, ni wnaeth y marchnadoli a welsom yn Lloegr ddatblygu yng Nghymru gyda datganoli, ac yn amlwg, o dan Blair a Brown, gwelwyd cryn dipyn o farchnadoli o fewn y GIG yn Lloegr. Ond, yn niwygiadau Lansley yn 2010, cafwyd newidiadau strwythurol o fewn y GIG a fframwaith cyfreithiol a allai fod wedi arwain at fwy o breifateiddio, ond y realiti yw bod y diwygiadau hynny, ar lawr gwlad, wedi'u dadwneud i raddau helaeth. Cafodd Lansley ei wthio allan; gweithiodd y GIG gyda'i gilydd. Mae llawer mwy o gydweithredu, llawer llai o'r farchnad sengl nag a welwyd o'r blaen, ac yn awr cynigir newid y gyfraith yn Lloegr yn bennaf er mwyn dileu'r rhaniad prynwr/darparwr a gwneud eu GIG yn llawer tebycach i'n GIG ni yng Nghymru ar hyn o bryd, a fyddai'n ei gwneud yn haws integreiddio.
A Darren Millar yn awr i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi, yn gyntaf oll, ddechrau drwy ddiolch i arwyr y GIG ledled Cymru sy'n gweithio mor galed ar hyn o bryd yn ystod y pandemig hwn, ac sydd wedi bod yn gofalu am gleifion mor dda, ac yn wir sydd wedi bod yn gwneud cystal wrth gyflwyno'r rhaglen frechu rhag y coronafeirws? Mae wedi bod yn bleser gweld y GIG ar waith, gyda'n staff yn camu i'r adwy ac yn gwneud yr hyn y gwyddom y byddant bob amser yn ei wneud ar adegau o argyfwng.
Rhaid imi ddweud bod Angela Burns wedi taro'r hoelen ar ei phen pan agorodd y ddadl hon drwy ei gwneud yn gwbl glir nad yw'r problemau yn y GIG yma yng Nghymru sydd gennym ar hyn o bryd yn ffenomenon newydd. Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi hen wreiddio ac sydd wedi bod gyda ni ers peth amser gyda phobl yn aros yn rhy hir o lawer am brofion a thriniaeth, a thargedau amseroedd aros heb eu cyrraedd ers dros ddegawd ar bron bob mesur. Ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog braidd yn haerllug yn beirniadu'r Ceidwadwyr am dynnu sylw at y ffaith mai chi, fel Llywodraeth, sydd wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a welsom yn ein GIG. Rydych wedi bod yn gyfrifol amdano ers 20 mlynedd, ac mae gennym brinder nyrsys o hyd, prinder meddygon, prinder pob math o weithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Fe gyfeirioch chi at rôl Llywodraeth y DU. Wel, hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Mr Gething, fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod biliynau ar gael i'n GIG, gydag ymrwymiadau gwario enfawr dros y blynyddoedd nesaf, yn fwy na digon i allu mynd i'r afael â rhai o'r heriau rydych wedi'u hamlinellu. Ac fe wnaf eich atgoffa chi ac Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd unwaith eto: nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb gwasanaeth iechyd gwladol. Dim ond y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am dorri cyllideb y GIG yn y gorffennol. Ac nid Aelodau Llafur y Senedd yn unig a gefnogodd hynny, ond wrth gwrs fe'i cefnogwyd hefyd gan eu cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar yr adeg y cafodd ei wneud. A hoffwn ofyn i bobl ystyried y ffeithiau hyn yn ofalus iawn pan fyddant yn pleidleisio ym mis Mai, oherwydd mae arnaf ofn, oni bai bod newid i'r drefn yn y wlad hon er budd ein gwasanaeth iechyd gwladol, fe fydd yn parhau i fynd tuag yn ôl.
Am resymau gwleidyddol, fe wnaethoch dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Ond fel y nododd Janet Finch-Saunders yn gwbl briodol, ni chaiff y cyhoedd yng ngogledd Cymru mo'u twyllo. Yn y bôn, mae'r un problemau o sylwedd yn dal i fodoli yn y bwrdd iechyd hwnnw ag a oedd yno chwe blynedd yn ôl, fel y nodwyd yn eich datganiad ymyrraeth wedi'i dargedu yn ddiweddar. Felly, ychydig iawn o gynnydd a wnaed, ac mewn gwirionedd digwyddodd yr unig gynnydd bach a wnaed oherwydd bod degau o filoedd o bobl wedi gorymdeithio ar y strydoedd yng ngogledd Cymru ac wedi llofnodi deisebau er mwyn gwrthdroi rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan y bwrdd iechyd, penderfyniadau a gafodd effaith andwyol, neu a fyddai wedi cael effaith andwyol, ar ofal cleifion yma yng ngogledd Cymru.
Nawr, rydym mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae gennym dros 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru—dyna un o bob pump o'r boblogaeth oedolion—ar restr aros y GIG ar hyn o bryd. Rhaid inni gael cynllun i unioni hynny. Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, Mr Gething, fe ddywedoch chi ei bod yn ffôl gosod cynllun adfer. 'Ffôl' oedd y gair a ddefnyddioch chi. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw'n ffôl cael strategaeth er mwyn adfer y sefyllfa hon i bobl ledled y wlad sy'n byw mewn poen, a rhai ohonynt yn cael eu niweidio, a niwed na ellir ei wrthdroi yn cael ei wneud i'w hiechyd o ganlyniad i aros ar y rhestrau aros hyn. Ac yng ngogledd Cymru, cyn y pandemig hyd yn oed, hoffwn eich atgoffa mai dwy flynedd oedd yr amser aros arferol i rywun a gyfeiriwyd ym mis Chwefror y llynedd am lawdriniaeth orthopedig nes y byddent yn cael eu trin. Nawr, oni bai bod gennych gynllun i unioni'r sefyllfa honno, oherwydd mae bellach yn agosáu at dair blynedd i lawer ohonynt, mae'n ddrwg gennyf, ond a bod yn onest nid ydych yn haeddu cael unrhyw gefnogaeth yn yr etholiadau sydd i ddod.
Felly, byddwn yn annog Aelodau'r Siambr hon heddiw i gefnogi ein cynnig ni, ac mae arnaf ofn, i wrthod gwelliant Mark Reckless sy'n beio methiannau GIG Cymru ar ddatganoli. Nid methiannau datganoli ydynt, ond methiannau Plaid Lafur Cymru i reoli ein gwasanaeth iechyd gwladol a'u stiwardiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, Mark Reckless.
Rwy'n cydnabod yn sicr y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am recriwtio, ond mae arnaf ofn na fyddwn yn cefnogi eich gwelliant heddiw, oherwydd, yn anffodus, mae'n dileu rhannau pwysig eraill o'n cynnig ni.
Ac ni fyddwn ychwaith yn cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ar yr angen i uno'r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y peth olaf un sydd ei angen ar ein gwasanaeth iechyd gwladol ar hyn o bryd yw ad-drefnu eto, a dyna y mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Byddai hynny'n tynnu sylw oddi ar geisio ymdrin â rhai o'r problemau systemig hyn. Ac mae arnaf ofn, yn yr unig ran o'r DU lle mae gennym y byrddau cyfunol hyn, sef yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae'r perfformiad ar lawer ystyr wedi bod hyd yn oed yn waeth nag y bu yng Nghymru. Felly, nid dyna'r ateb, ac yn sicr nid yr ateb yw dargyfeirio arian y dylid ei wario ar ysbytai a gofal iechyd i neuaddau chwaraeon.
Felly, mae arnaf ofn ein bod wedi gosod ein stondin: credwn fod angen i chi nodi cynllun adfer clir i glirio'r ôl-groniad, recriwtio mwy o weithwyr iechyd proffesiynol a thrawsnewid gofal iechyd meddwl yma yng Nghymru. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac felly fe gymerwn ni doriad byr nawr i baratoi ar gyfer y bleidlais. Toriad byr, felly.