Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi, yn gyntaf oll, ddechrau drwy ddiolch i arwyr y GIG ledled Cymru sy'n gweithio mor galed ar hyn o bryd yn ystod y pandemig hwn, ac sydd wedi bod yn gofalu am gleifion mor dda, ac yn wir sydd wedi bod yn gwneud cystal wrth gyflwyno'r rhaglen frechu rhag y coronafeirws? Mae wedi bod yn bleser gweld y GIG ar waith, gyda'n staff yn camu i'r adwy ac yn gwneud yr hyn y gwyddom y byddant bob amser yn ei wneud ar adegau o argyfwng.
Rhaid imi ddweud bod Angela Burns wedi taro'r hoelen ar ei phen pan agorodd y ddadl hon drwy ei gwneud yn gwbl glir nad yw'r problemau yn y GIG yma yng Nghymru sydd gennym ar hyn o bryd yn ffenomenon newydd. Mae'r rhain yn broblemau sydd wedi hen wreiddio ac sydd wedi bod gyda ni ers peth amser gyda phobl yn aros yn rhy hir o lawer am brofion a thriniaeth, a thargedau amseroedd aros heb eu cyrraedd ers dros ddegawd ar bron bob mesur. Ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Gweinidog braidd yn haerllug yn beirniadu'r Ceidwadwyr am dynnu sylw at y ffaith mai chi, fel Llywodraeth, sydd wedi methu mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a welsom yn ein GIG. Rydych wedi bod yn gyfrifol amdano ers 20 mlynedd, ac mae gennym brinder nyrsys o hyd, prinder meddygon, prinder pob math o weithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Fe gyfeirioch chi at rôl Llywodraeth y DU. Wel, hoffwn dynnu sylw at y ffaith, Mr Gething, fod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod biliynau ar gael i'n GIG, gydag ymrwymiadau gwario enfawr dros y blynyddoedd nesaf, yn fwy na digon i allu mynd i'r afael â rhai o'r heriau rydych wedi'u hamlinellu. Ac fe wnaf eich atgoffa chi ac Aelodau o'r Senedd hon a'r cyhoedd unwaith eto: nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb gwasanaeth iechyd gwladol. Dim ond y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am dorri cyllideb y GIG yn y gorffennol. Ac nid Aelodau Llafur y Senedd yn unig a gefnogodd hynny, ond wrth gwrs fe'i cefnogwyd hefyd gan eu cynorthwywyr bach ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar yr adeg y cafodd ei wneud. A hoffwn ofyn i bobl ystyried y ffeithiau hyn yn ofalus iawn pan fyddant yn pleidleisio ym mis Mai, oherwydd mae arnaf ofn, oni bai bod newid i'r drefn yn y wlad hon er budd ein gwasanaeth iechyd gwladol, fe fydd yn parhau i fynd tuag yn ôl.
Am resymau gwleidyddol, fe wnaethoch dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Ond fel y nododd Janet Finch-Saunders yn gwbl briodol, ni chaiff y cyhoedd yng ngogledd Cymru mo'u twyllo. Yn y bôn, mae'r un problemau o sylwedd yn dal i fodoli yn y bwrdd iechyd hwnnw ag a oedd yno chwe blynedd yn ôl, fel y nodwyd yn eich datganiad ymyrraeth wedi'i dargedu yn ddiweddar. Felly, ychydig iawn o gynnydd a wnaed, ac mewn gwirionedd digwyddodd yr unig gynnydd bach a wnaed oherwydd bod degau o filoedd o bobl wedi gorymdeithio ar y strydoedd yng ngogledd Cymru ac wedi llofnodi deisebau er mwyn gwrthdroi rhai o'r penderfyniadau a wnaed gan y bwrdd iechyd, penderfyniadau a gafodd effaith andwyol, neu a fyddai wedi cael effaith andwyol, ar ofal cleifion yma yng ngogledd Cymru.
Nawr, rydym mewn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae gennym dros 0.5 miliwn o bobl yng Nghymru—dyna un o bob pump o'r boblogaeth oedolion—ar restr aros y GIG ar hyn o bryd. Rhaid inni gael cynllun i unioni hynny. Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, Mr Gething, fe ddywedoch chi ei bod yn ffôl gosod cynllun adfer. 'Ffôl' oedd y gair a ddefnyddioch chi. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw'n ffôl cael strategaeth er mwyn adfer y sefyllfa hon i bobl ledled y wlad sy'n byw mewn poen, a rhai ohonynt yn cael eu niweidio, a niwed na ellir ei wrthdroi yn cael ei wneud i'w hiechyd o ganlyniad i aros ar y rhestrau aros hyn. Ac yng ngogledd Cymru, cyn y pandemig hyd yn oed, hoffwn eich atgoffa mai dwy flynedd oedd yr amser aros arferol i rywun a gyfeiriwyd ym mis Chwefror y llynedd am lawdriniaeth orthopedig nes y byddent yn cael eu trin. Nawr, oni bai bod gennych gynllun i unioni'r sefyllfa honno, oherwydd mae bellach yn agosáu at dair blynedd i lawer ohonynt, mae'n ddrwg gennyf, ond a bod yn onest nid ydych yn haeddu cael unrhyw gefnogaeth yn yr etholiadau sydd i ddod.
Felly, byddwn yn annog Aelodau'r Siambr hon heddiw i gefnogi ein cynnig ni, ac mae arnaf ofn, i wrthod gwelliant Mark Reckless sy'n beio methiannau GIG Cymru ar ddatganoli. Nid methiannau datganoli ydynt, ond methiannau Plaid Lafur Cymru i reoli ein gwasanaeth iechyd gwladol a'u stiwardiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, Mark Reckless.
Rwy'n cydnabod yn sicr y pwyntiau a wnaeth Caroline Jones am recriwtio, ond mae arnaf ofn na fyddwn yn cefnogi eich gwelliant heddiw, oherwydd, yn anffodus, mae'n dileu rhannau pwysig eraill o'n cynnig ni.
Ac ni fyddwn ychwaith yn cefnogi'r pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ar yr angen i uno'r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y peth olaf un sydd ei angen ar ein gwasanaeth iechyd gwladol ar hyn o bryd yw ad-drefnu eto, a dyna y mae Plaid Cymru yn ei gynnig. Byddai hynny'n tynnu sylw oddi ar geisio ymdrin â rhai o'r problemau systemig hyn. Ac mae arnaf ofn, yn yr unig ran o'r DU lle mae gennym y byrddau cyfunol hyn, sef yng Ngogledd Iwerddon wrth gwrs, mae'r perfformiad ar lawer ystyr wedi bod hyd yn oed yn waeth nag y bu yng Nghymru. Felly, nid dyna'r ateb, ac yn sicr nid yr ateb yw dargyfeirio arian y dylid ei wario ar ysbytai a gofal iechyd i neuaddau chwaraeon.
Felly, mae arnaf ofn ein bod wedi gosod ein stondin: credwn fod angen i chi nodi cynllun adfer clir i glirio'r ôl-groniad, recriwtio mwy o weithwyr iechyd proffesiynol a thrawsnewid gofal iechyd meddwl yma yng Nghymru. Rwy'n annog pobl i gefnogi ein cynnig.