8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd Aros y GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:55, 10 Mawrth 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wnaf i ddim cyfrannu yn hir iawn i'r ddadl yma. Yn sicr, dwi eisiau cymryd y cyfle unwaith eto i ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed ar ein rhan ni ar draws gwasanaethau iechyd a gofal ym mhob rhan o Gymru. Mae parodrwydd staff i fynd y filltir ychwanegol dro ar ôl tro dros y flwyddyn diwethaf yn rhywbeth mae pob un ohonon ni wedi'i werthfawrogi, a dwi'n gobeithio ei fod o wedi rhoi ffocws o'r newydd, i ni hefyd, ar yr her sydd o'n blaenau ni.

Felly, at y cynnig yma. Er fy mod i'n reit siŵr y byddai'r Blaid Geidwadol, sydd wedi cyflwyno'r cynnig, yn dod â chyfres newydd o broblemau dyfnion iawn i'r NHS petaen nhw'n cael eu dwylo arno fo, beth sydd gennym ni yn y cynnig yma ydy disgrifiad o wasanaeth iechyd anghynaliadwy—gwasanaeth iechyd sydd wedi cael ei wneud yn anghynaliadwy, dwi'n ofni, gan fethiant y gyfres o Weinidogion Llafur i roi i'r tirwedd iechyd a gofal yng Nghymru y math o sefydlogrwydd a chefnogaeth y mae o ei eisiau. Mae'r staff ymroddedig yna y gwnes i gyfeirio atyn nhw wedi gorfod cario mwy na'r baich y dylen nhw orfod ei gario oherwydd yr anghynaliadwyedd yna.

Dydy diffyg cefnogaeth ddim bob amser wedi golygu diffyg cefnogaeth ariannol. Does yna ddim amheuaeth bod blynyddoedd lawer o doriadau gan Lywodraeth Prydain wedi gwneud cyllidebau i wasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw yn fwy bregus, ond rydyn ni'n dal yn gweld cymaint o gyfran o'r holl wariant cyhoeddus yng Nghymru sydd yn mynd ar y gwasanaeth iechyd. Mae yna fwy iddi na'r ariannol. Beth sydd yma, dwi'n credu, ydy methiant i fod wedi trawsnewid iechyd a gofal, ac mae'r amser, dwi'n credu, wedi dod i wneud hynny. Dwi'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Plaid Cymru yn trio mynd i'r afael â hyn.

Felly, beth ydy'r trawsnewid yr ydyn ni'n chwilio amdano fo? Dwi'n cyfeirio at y gwelliant sydd wedi cael ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian, a dwi'n cynnig hwnnw yn ffurfiol. Mae'n rhaid inni gael dim byd llai na chwyldro rŵan yn yr ataliol. Mae'n rhaid inni greu cymdeithas sydd yn fwy iach, creu cyfundrefn sydd yn adnabod afiechydon yn llawer iawn cynt, ac atal yr afiechydon hynny rhag gallu datblygu. Dwi eisiau bod ar bwynt lle mae'r arian iechyd yn gallu cael ei ddefnyddio i adeiladu adnoddau chwaraeon. Dyna'r math o gynaliadwyedd dwi'n chwilio amdano fo yn y pen draw, ac mae'n rhaid inni roi'r nod hwn i ni ein hunain. Dwi'n gweld y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas, yn ysgwyd ei ben—dydy o ddim eisiau gweld arian yn cael ei wario ar adnoddau chwaraeon a'u budd ataliol nhw. Croeso i chithau wneud ymyriad i'r ddadl yma, Ddirprwy Weinidog.

Rydyn ni hefyd wedi cyrraedd at yr amser lle mae'n rhaid inni weld uno go iawn yn yr iechyd a'r gofal, a'n bwriad ni ydy creu gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol. Deliferi yn lleol, ie—dydy o ddim yn golygu newid strwythurol mawr ar lefel leol—ond mae yn golygu cyflwyno fframweithiau clir ar gyfer iechyd a gofal, ac yn benodol ar sut maen nhw'n gweithio efo'i gilydd. Dwi'n gwerthfawrogi'r uchelgais sydd gan y Ceidwadwyr yma o gyflogi 3,200 o staff ychwanegol. Rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi bod yn sôn ers blynyddoedd am yr angen am 6,000 o feddygon a nyrsys a staff ategol eraill, a gweithwyr proffesiynol eraill, o fewn iechyd a gofal. Dyna sy'n rhaid inni gyflwyno dros y blynyddoedd nesaf er mwyn creu'r cynaliadwyedd yna.

Wrth gwrs, mae hynny'n dod ar gyfnod o her digynsail yn dilyn blwyddyn o bandemig, ac ydy, mae hynny'n gwneud yr her yn fwy, ond mae'r dal i fyny yn gorfod rŵan mynd law yn llaw â thrawsnewid, a gallwn ni ddim ar unrhyw gyfrif benderfynu y gallwn ni oedi'r trawsnewid sydd angen ei weld yn digwydd mewn iechyd a gofal oherwydd y pandemig. Mae'n golygu gweithio'n fwy clyfar am flynyddoedd i ddod, achos mae'r pwynt wedi dod, fel dwi'n dweud, lle mae angen chwyldro go iawn fan hyn.