Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 16 Mawrth 2021.
Hoffwn i siarad unwaith ar y pedwar offeryn wedi'u enwi ar y cyd yn rheoliadau newid yn yr hinsawdd (Cymru) 2021. Ar ôl ystyried y rhain yn ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a darllen yr adroddiad byr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mae'n bleser gennyf i roi fy nghefnogaeth lawn i'r rheoliadau hyn. Nawr, er bod hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir, er hynny, mae'n symbol o rywfaint o ddiffyg uchelgais sydd wedi bod yn wir am Lywodraeth Cymru ers iddi ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019.
Wrth gwrs, mae'n newyddion da bod adran 29 yn cael ei diwygio, fel bod '80%' yn cael ei disodli gan '100%', ond ni yw'r olaf yn y DU i gyd-fynd â'r targedau sero-net. Yn wir, rwy'n cytuno â'r farn y mae'r sector amgylcheddol wedi'i mynegi bod potensial i Gymru ddangos mwy o uchelgais a mynd ymhellach fyth na'r targedau sydd wedi'u nodi yma yn y rheoliadau hyn. Enghraifft wych yw'r sector amaethyddol. Er ein bod ni wedi'ch gweld chi'n torri un addewid drwy nodi adnoddau Llywodraeth Cymru i dargedu llygredd amaethyddol yn anghymesur ledled Cymru, a thorri un arall drwy fethu â chyflawni Deddf aer glân, mae angen i ni ddathlu a chefnogi'r ymdrech enfawr sy'n cael ei gwneud gan ein ffermwyr ledled Cymru.
Rwyf i'n falch o'r ffaith bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi gosod y nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net ledled amaethyddiaeth gyfan yng Nghymru a Lloegr erbyn 2040. Fel y mae llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw ato'n briodol, nid un ateb sydd. Er mwyn cyflawni'r nod, mae angen amrywiaeth o fesurau arnom ni sy'n dod o dan dri phennawd cyffredinol: gwella effeithlonrwydd cynhyrchiol ffermwyr; gwella rheoli tir a gwella'r defnydd o dir er mwyn dal mwy o garbon; hybu ynni adnewyddadwy a'r bioeconomi ehangach. Felly, rwyf i'n eich annog chi i gymeradwyo adroddiad 'Cyflawni Sero Net: Amcan 2040 Amaeth', a gweithredu ar ei ofynion, gan gynnwys: datblygu polisi amaethyddol yn y dyfodol sy'n darparu ymrwymiad hirdymor i gefnogi'r newid i amaethyddiaeth sero-net, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant sy'n seiliedig ar fesurau i ddarparu sefydlogrwydd ac ymdrin ag ansefydlogrwydd y tu hwnt i reolaeth busnesau fferm unigol; cefnogi deunyddiau adeiladu ac inswleiddio newydd fel gwlân defaid, a mesurau polisi i hwyluso rhagor o defnydd, gan fynd i'r afael â'r rhwystrau presennol; a llwybr i farchnata ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy bach i fawr.
Rydych chi eisoes yn gwybod fy mod i'n credu bod Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn methu â hyrwyddo cynhyrchiant ac y gallai, yn anffodus, arwain at fwy o ddibyniaeth ar fewnforio. Rydych chi eisoes yn gwybod fy mod i eisiau i chi gefnogi fy addewid gwlân Cymru. Ac rydych chi eisoes yn gwybod fy marn o ran eich methiannau gydag ynni adnewyddadwy, fel y cam yn ôl diweddaraf o gael gwared ar grantiau ardrethi busnes ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mewn perchnogaeth breifat o 1 Ebrill 2021, ac mae gan hyn y posibilrwydd o gael effaith negyddol ar 75 y cant o weithredwyr ynni dŵr ar raddfa fach yng Nghymru. Ar adeg pan fo adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i sicrhau gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau, heb sôn am sero-net erbyn 2050, rwy'n eich annog chi i fyfyrio ar eich gweithredoedd a nodi'r farn gyfunol a gafodd ei fynegi yn adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y rheoliadau, ac rwy'n dyfynnu:
Rhaid i rethreg gael ei hwynebu gan weithredu beiddgar a phendant erbyn hyn.
Mae'r argyfwng hinsawdd yn digwydd nawr—rydym ni wedi bod â 'newid hinsawdd' ac yna 'argyfwng hinsawdd'; mae'n deg dweud ein bod bellach mewn creisis hinsawdd. Gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bo, yn darparu'r camau beiddgar a phendant y mae taer angen eu cymryd nawr wrth i ni symud ymlaen. Diolch.