Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 16 Mawrth 2021.
Yn dilyn yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog, Jane Hutt, newydd ei ddweud ar ddechrau ei chyfraniad, hoffwn i ei roi ar gofnod hefyd fod teulu Sarah Everard yn gadarn yn ein meddyliau ni yng Ngheidwadwyr Cymru hefyd, a'n bod yn rhannu ei theimladau. Mae ei llofruddiaeth yn amlygu yn anffodus yr angen i ni wneud mwy, a'r angen i bob un ohonom ni gydweithio i sicrhau diogelwch menywod yn ein gwlad.
Mae'r Bil Cam-drin Domestig yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a fydd yn trawsnewid ymateb y Llywodraeth i ddioddefwyr yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell. Mae yna ryw 2.4 miliwn o ddioddefwyr cam-drin domestig bob blwyddyn, rhwng 16 a 74 oed, ac mae dwy ran o dair ohonyn nhw'n fenywod. Ac mae mwy nag un o bob 10 o'r holl droseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau cynyddol—yr ydym ni wedi tynnu sylw ato droeon yn y Siambr hon—y mae mesurau cyfyngiadau symud sydd wedi eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r pandemig yn eu rhoi ar deuluoedd a pherthnasoedd.
Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd Llywodraeth y DU ei hethol gydag ymrwymiad maniffesto i gefnogi pawb sy'n dioddef cam-drin domestig a phasiodd y Bil Cam-drin Domestig, a gafodd ei gyflwyno yn wreiddiol yn y Senedd ddiwethaf. Nod y Bil yw sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i gyflwyno eu hunain ac adrodd eu profiadau, gan wybod y bydd y wladwriaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cefnogi nhw a'u plant a mynd ar drywydd y camdriniwr.
Yng ngwanwyn 2018, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus ar drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig, a ddenodd dros 3,200 o ymatebion. Cafodd ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad a'r Bil Cam-drin Domestig drafft ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019. Nododd ymateb y Llywodraeth 123 o ymrwymiadau, rhai deddfwriaethol a rhai anneddfwriaethol, a gafodd eu cynllunio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd, trawsnewid y broses gyfiawnder, blaenoriaethu diogelwch dioddefwyr a darparu ymateb effeithiol i gamdrinwyr, ac ysgogi cysondeb a gwell perfformiad wrth ymateb i gam-drin domestig ym mhob ardal, asiantaeth a sector lleol.
Mae cam-drin domestig yn drosedd ffiaidd sy'n bygwth bywydau dioddefwyr yn eu cartrefi eu hunain, lle dylen nhw deimlo'n ddiogel. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr i'w helpu nhw a'u plant i ailgydio yn eu bywydau. Felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig hwn.