Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Mawrth 2021.
Wel, Llywydd, mae fy neges i i bobl yma yng Nghymru ar y mater pwysig hwn, ac mae fy neges i bobl yng Nghymru yn syml iawn: mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel. Nid yw'r pryderon a fynegwyd amdano mewn mannau eraill yn cael eu rhannu gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau yma yng Nghymru, nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan Sefydliad Iechyd y Byd, nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, ac yn sicr nid ydyn nhw'n cael eu rhannu gan ein prif swyddog meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol. Cafodd y Gweinidog iechyd a minnau gyfle ddoe i brofi'r holl dystiolaeth hon yn uniongyrchol gyda'n prif swyddog meddygol, a daethom i ffwrdd o hynny yn gwbl gryfach yn ein dealltwriaeth bod y clotiau gwaed y sonnir amdanyn nhw mewn papurau newydd—nid oes dim mwy o berygl o glot gwaed o gael brechlyn AstraZeneca-Rhydychen nag a fyddai yn y boblogaeth yn gyffredinol ar unrhyw adeg. Mae clotiau gwaed yn digwydd drwy'r amser yn y boblogaeth, ac nid yw'r brechlyn—nid yw—yn mynd i gynyddu eich risg o hynny. Felly, o ran y pwynt pwysig a wnaeth Andrew R.T. Davies, nid wyf i eisiau i neb yng Nghymru a allai fod yn betrusgar am y brechlyn betruso mwy oherwydd y straeon y byddan nhw wedi eu gweld neu eu clywed.
Mae'r rhaglen frechu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Adroddwyd y niferoedd uchaf erioed ddwywaith yn ystod yr wythnos diwethaf, ddydd Gwener a dydd Sadwrn, o ran nifer y bobl a gafodd frechiad mewn un diwrnod. Adroddwyd dros 40,000 o bobl mewn un diwrnod ddydd Sadwrn—ffigur eithriadol; dros 1 y cant o boblogaeth gyfan Cymru yn dod ymlaen i gael eu brechu. Dyna'r hyn y mae angen i ni ei weld yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod, a gwn y bydd hynny yn cael ei gefnogi yn gryf gan bleidiau ar draws y Siambr hon, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i atgyfnerthu'r negeseuon hynny unwaith eto y prynhawn yma.