1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2021.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r dyraniadau cyllid arfaethedig i Gymru o ganlyniad i gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU? OQ56469
Dirprwy Lywydd, mae ein hasesiad yn eglur: mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn methu ag anrhydeddu ymrwymiadau cyhoeddus mynych a wnaed gan Lywodraeth y DU ac ymgyrchwyr 'gadael' yng Nghymru na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ceiniog yn llai ac na fyddai unrhyw bwerau datganoledig yn cael eu colli i Gymru.
Diolch, Prif Weinidog. Rydym ni wedi clywed llawer ond wedi gweld ychydig iawn o naill ai'r gronfa ffyniant gyffredin na'r gronfa lefelu, y mae'r ddwy ohonyn nhw yn dod yn fwyfwy tebyg i gronfa etholiadol Geidwadol wedi'i hariannu gan y cyhoedd nag ymgais o ddifrif i rannu ffyniant y Deyrnas Unedig. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy mhryder i y bydd Cymru ar ei cholled, y bydd cyllid buddsoddi yng Nghymru yn cael ei dorri, ac y bydd cymorth i gymunedau Cymru sy'n adfer yn sgil COVID yn cael ei dorri gan Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi darparu mwy o arian i'w ffrindiau a'i rhoddwyr nag y mae wedi ei fuddsoddi i gynnal economi Cymru? Felly, a ydych chi'n cytuno â mi mai dim ond Llywodraeth Cymru y gallwn ni ymddiried ynddi i gyflawni dros Gymru, ac nid Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n gwneud dim ond edrych arnom ni gyda dirmyg o bell?
Mae'r toriadau hynny eisoes yn digwydd. Mae'r toriadau hynny wedi eu sicrhau nawr gan y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer cronfa lefelu, fel y'i gelwir, ac ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Bydd Cymru yn colli miliynau ar filiynau ar filiynau o bunnoedd, a bydd cymunedau fel Blaenau Gwent yn dioddef fwyaf o hynny—cymunedau y mae'r Llywodraeth Geidwadol hon yn gwybod fawr ddim amdanyn nhw ac yn poeni llai. Yn y penderfyniadau ymarferol hynny yr ydym ni'n mynd i'w gweld, yn hytrach na'r cyllid saith mlynedd oedd gennym ni o dan gronfeydd strwythurol, yn hytrach na dull partneriaeth gyda buddiannau yma yng Nghymru ar y lefel leol honno, yn penderfynu sut y dylid gwario'r arian hwnnw—rydym ni'n mynd i weld cyfres ymrannol, biwrocrataidd, ar hap a gwastraffus o drefniadau yn cael eu gorfodi arnom ni.
Rwy'n rhannu'n fawr y pryder a fynegodd Alun Davies yn ei gwestiwn atodol agoriadol. Rydym ni'n mynd i fod yn nwylo'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, y dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin amdano, ym mis Gorffennaf 2019, ar y cronfeydd menter lleol yn Lloegr, er gwaethaf gwario £12 biliwn, nad oedd gan y weinyddiaeth honno unrhyw ddealltwriaeth o ba effaith a gafodd y gwariant hwnnw ar dwf economaidd lleol. Dywedodd yr un pwyllgor, wrth sôn am y gronfa trefi a phenderfyniadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol Robert Jenrick, ei fod wedi peryglu enw da y Gwasanaeth Sifil am onestrwydd a didueddrwydd a'i fod wedi gweithredu mewn ffyrdd a oedd yn cyfrannu at gyhuddiadau o duedd wleidyddol pan ddewisodd gynllun a oedd yn rhif 536 ar y rhestr o 541 a luniwyd gan ei weision sifil a phenderfynu ei ariannu. Nid yw'n syndod y daethpwyd i'r casgliadau bod y penderfyniad hwnnw wedi'i ysgogi gan y ffyrdd cul, pleidiol a gwleidyddol hynny o gyflawni busnes. Nawr, bydd Cymru yn agored i'r un Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau yn Whitehall, gan ochrgamu pobl yma yng Nghymru. Byddwn yn edrych bob dydd ar y ffordd y mae'r penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud i wneud yn siŵr bod gwleidyddiaeth pwrs y wlad o'r math a welwn gan y Llywodraeth Dorïaidd hon yn Whitehall—nad ydym ni'n cael ein llygru ganddi yma yng Nghymru.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf, dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru y bydd y swm o arian sy'n mynd i gael ei wario yng Nghymru pan gyflwynir y gronfa ffyniant gyffredin yn union yr un faint neu'n fwy na'r swm o arian a wariwyd yng Nghymru a oedd yn dod oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac y bydd y DU yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu fframwaith buddsoddi y gronfa i'w gyhoeddi. Wrth siarad mewn cyfarfod ar y cyd o bwyllgorau cyllid a materion allanol y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd yr arian sy'n cael ei ddarparu i Gymru, wedi'i ategu gan y sicrwydd 'dim ceiniog yn llai', yn rhoi cyfleoedd i Gymru wneud hyd yn oed yn well nag y mae hi wedi ei wneud o'r blaen o ran ffrydiau ariannu, a'u bod yn gofyn i awdurdodau lleol ymuno â rhanddeiliaid, eu Haelodau o'r Senedd, swyddogion Llywodraeth Cymru a chydag Aelodau Seneddol i feddwl am syniadau gwirioneddol arloesol naill ai fel awdurdodau unigol neu ar y cyd ag awdurdodau eraill, a gwneud cais am yr arian sydd ar gael, lle bydd y gwersi a ddysgwyd eleni yn ffurfio sail i'r gronfa ffyniant gyffredin wirioneddol, sy'n becyn llawer mwy o arian o ddiwedd 2021 ymlaen. Sut gwnewch chi ymgysylltu â hynny ac yn sgil hynny osgoi, fel y dywedwch y mae'n rhaid i ni ei wneud, dulliau cul, pleidiol a chyda cymhelliant gwleidyddol?
Nid yw'r ffaith bod lol yn cael ei siarad ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn ei wneud yn ddim llai disynnwyr. Ac mae'n amlwg yn ddisynnwyr. Y flwyddyn nesaf, mae'r gronfa adnewyddu cymunedol—yr enw diweddaraf ar y gronfa ffyniant gyffredin—werth £220 miliwn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Roedd gan Gymru ar ei phen ei hun £375 miliwn mewn cronfeydd strwythurol. Ac nid oes yr un geiniog ohono wedi'i sicrhau—i ddefnyddio'r gair hwnnw. Mae'n gronfa y DU ar sail ceisiadau. Nid oes unrhyw arian ynddi sy'n dweud 'Cymru' arno o gwbl. Byddwch yn gallu gwneud cais ac yna bydd Gweinidog Torïaidd yn Whitehall yn gwneud penderfyniadau yn erbyn yr hanes yr wyf i newydd ei chyflwyno i'r Aelodau yn y fan yma. Ym mha ystyr posibl—ym mha ystyr posibl—y gallai unrhyw un amddiffyn hynny fel ffordd o drin Cymru? Rydym ni'n cael ein twyllo allan o arian, rydym ni'n dioddef lladrad pan ddaw i'n pwerau, ac mae hanes parhaus llywodraeth y DU yn San Steffan yn darparu cyllid annigonol i Gymru bob un dydd.