Ymwybyddiaeth o Reolaeth y Gyfraith

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:46, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol y cynhaliwyd Wythnos Cyfiawnder 2021 rhwng 1 Mawrth a 5 Mawrth gyda COVID-19 yn gefndir. Roedd yr Wythnos Gyfiawnder yn gyfle pwysig i ddysgu am ein hawliau, ein system gyfiawnder ac, yn y pen draw, rheolaeth y gyfraith. Fel yr amlinellwyd mewn erthygl ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr, mae'r coronafeirws wedi effeithio'n drwm ar blant drwy gau ysgolion, ac ni ymgynghorwyd â'r rhan fwyaf o bobl ifanc erioed ar y penderfyniadau. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cefnogi addysg gyfreithiol gyhoeddus ac yn tynnu sylw at y Wers Gyfreithiol Fawr yn ystod yr Wythnos Gyfiawnder. Menter adnoddau ystafell ddosbarth yw hon a gynlluniwyd gan athrawon i gyflwyno plant a phobl ifanc i reolaeth y gyfraith. Mae'r adnoddau'n helpu i ymgyfarwyddo pobl ifanc â phynciau fel pam mae gennym ni gyfreithiau, beth yw Bil a sut mae cyfraith yn cael ei chreu. Mae saith cant a thri deg dau o ysgolion bellach yn cymryd rhan eleni. A wnewch chi gysylltu â Kirsty Williams AS i weld beth y gellir ei wneud i geisio sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y Wers Gyfreithiol Fawr y flwyddyn nesaf?