Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn atodol yna, ac roeddwn wrth fy modd, er mwyn trafod cwestiynau am reolaeth y gyfraith gyda phobl ifanc, i fod wedi cymryd rhan yn ddiweddar gyda rhai myfyrwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu cynhadledd cyfraith a throseddeg, i drafod yr union fath hwn o fater. Ac yn y ffordd yr oedd hi'n awgrymu yn ei chwestiwn, roedd llawer o'r drafodaeth honno'n ymwneud ag effaith pandemig y coronafeirws.
Wrth gwrs, yng Nghymru, rydym ni wedi gweithio gyda'r comisiynydd plant i geisio canfod barn plant a phobl ifanc yn benodol iawn am effaith COVID ar eu bywydau yn benodol. Ond, fel mae hi'n dweud, mae mwy i'w wneud bob amser o ran sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o'r materion sy'n ymwneud â rheolaeth y gyfraith, atebolrwydd democrataidd, ac yn y blaen. Rwy'n ffyddiog iawn y bydd y Bil cwricwlwm newydd, pan ddaw'n Ddeddf, yn hwyluso'r math hwnnw o addysg, ac mae'n destun gofid na ddewisodd ei phlaid gefnogi hynny.