Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:37, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. A thynnaf ei sylw at ymddangosiad yr Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos diwethaf o flaen y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, lle y'i gwnaed hi'n glir iawn, iawn nad oes bwriad gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac nad yw dehongliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ddatganoli—a sybsidiaredd a gwneud penderfyniadau—yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ac nid yw yn cynnwys partneriaethau economaidd rhanbarthol ychwaith. Ond ar ben hynny, roedd anwybodaeth bryderus—bwriadol neu fel arall—o'r fframwaith polisi yng Nghymru, gan gynnwys fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, siawns, Cwnsler Cyffredinol, nid yn unig fod gan hyn oblygiadau ariannol i Gymru, ond goblygiadau cyfansoddiadol gwirioneddol i'n setliad datganoli presennol.