2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 16 Mawrth 2021.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfansoddiadol cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56434
Mae'r goblygiadau'n glir: mae hon yn ymgais i fynd â phethau'n ôl i ddegawdau yn ôl, pan oedd San Steffan yn gwybod orau. Nid sarhad ar bobl Cymru yn unig yw anwybyddu sefydliadau etholedig Cymru, a bydd yn amlwg yn arwain at ganlyniadau gwaeth i Gymru hefyd.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. A thynnaf ei sylw at ymddangosiad yr Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos diwethaf o flaen y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, lle y'i gwnaed hi'n glir iawn, iawn nad oes bwriad gan Lywodraeth y DU i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac nad yw dehongliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ddatganoli—a sybsidiaredd a gwneud penderfyniadau—yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ac nid yw yn cynnwys partneriaethau economaidd rhanbarthol ychwaith. Ond ar ben hynny, roedd anwybodaeth bryderus—bwriadol neu fel arall—o'r fframwaith polisi yng Nghymru, gan gynnwys fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nawr, siawns, Cwnsler Cyffredinol, nid yn unig fod gan hyn oblygiadau ariannol i Gymru, ond goblygiadau cyfansoddiadol gwirioneddol i'n setliad datganoli presennol.
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'n sicr yn wir bod Llywodraeth y DU yn ceisio cyflawni mewn meysydd datganoledig heb unrhyw fewnbwn gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau, a heb unrhyw ymgysylltu â rhanddeiliaid nac ymgynghori â'r cyhoedd. Ac yn ymarferol, byddai hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru heb fod yn atebol i'r Senedd ar ran pobl Cymru. Mae hynny, yn amlwg, yn groes i'r setliad cyfansoddiadol. Ac, er fy mod yn cydnabod sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cyd-destun arall, a dynnodd sylw at y diffyg statws, rwy'n credu, yr oedd yn credu bod Llywodraeth Cymru yn pryderu amdano, byddwn yn ei annog i gofio mai setliad cyfansoddiadol yw hwn, y mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio drosto'n ddemocrataidd, a bod y penderfyniad i fwrw ymlaen yn groes i'r trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru yn fater difrifol o safbwynt democrataidd, ond mae hefyd yn aneffeithiol o ran sicrhau manteision i bobl yng Nghymru. Ac mae'r achwyniad sydd gennym ni, a sydd gan bobl ledled Cymru, ydy, mae'n gyfansoddiadol, ond mae hefyd yn ymwneud â chronfa nad yw'n mynd i fod yn effeithiol, nad ymgynghorwyd arni, nad yw'n adlewyrchu blaenoriaethau busnesau yng Nghymru, na ellir ei hintegreiddio a, lle caiff penderfyniadau eu gwneud gan adran o Lywodraeth y DU y mae ei chamreoli o'r gronfa drefi eisoes wedi'i beirniadu'n ddifrifol yn y Senedd. Ac, mewn cyfarfod diweddar, gydag Ysgrifennydd Gwladol perthnasol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, roedd hi'n gwbl glir mai'r bwriad yw i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wneud y penderfyniadau hyn, gan gynnwys ar sail swyddogion a benodir yng Nghymru i wneud hynny. Mae'r Llywodraeth hon o'r farn bod hynny'n gwbl annerbyniol yn gyfansoddiadol a, hefyd, nad yw er budd economi Cymru.