Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Nawr, yn y cyfnod ôl-Grenfell hwn, Cwnsler Cyffredinol, efallai eich bod yn ymwybodol o'r materion sy'n wynebu lesddeiliaid yng Nghei Meridian yn Abertawe, lle mae'r cwmni adeiladu a'r yswirwyr ill dau wedi cael eu diddymu. Mae hyn wedi gadael lesddeiliaid mewn sefyllfa lle maent yn teimlo eu bod yn gaeth, ystyrir bod eu fflatiau'n ddiwerth ac ni allan nhw werthu. Nawr, gobeithio, bydd ymdrechion i gael iawndal drwy Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol yn dwyn ffrwyth, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y mater hwn.
Byddwn yn ddiolchgar, fodd bynnag, pe gallech amlinellu pa drafodaethau rydych chi'n eu cael yn y Llywodraeth ar y £3.5 biliwn o gyllid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar, ac a ydych chi'n teimlo y byddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gynnig indemniad i lesddeiliaid mewn sefyllfaoedd fel yr honno yng Nghei Meridian, yn enwedig ar gyfer costau canlyniadol, megis yswiriant cynyddol a chostau cyfreithiol cynyddol.