Diffygion Mewn Adeiladau Uchel Iawn

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:44, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni yn sicr yn disgwyl i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid, o ganlyniad i'r ymrwymiadau gwario a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr, a bydd hynny, wrth gwrs, yn ein galluogi i baratoi ymateb i lesddeiliaid sydd yn y sefyllfa hon. Mae cyfnod o ymgynghori ar y Papur Gwyn y mae'r Gweinidog wedi'i gyhoeddi tan 12 Ebrill, a byddaf yn manteisio ar y cyfle hwn i annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Ond mae ein safbwynt fel Llywodraeth yn glir iawn, iawn: nid ydym yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu i unioni materion sy'n gyfystyr â methiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi £10.5 miliwn eleni a gwerth £32 miliwn pellach o gyllid cyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a'n bwriad, gallaf dawelu meddwl yr Aelod, yw sefydlu cynnig cyllid i Gymru sy'n mynd ymhellach fyth na'r hyn sy'n cael ei ystyried mewn rhannau eraill o'r DU, sy'n edrych ar adfer adeiladau yn eu cyfanrwydd, y tu hwnt i gladin, i gynnwys rhai o'r mathau eraill o agweddau y soniodd amdanynt yn ei gwestiwn ac mae eraill wedi bod yn galw amdanynt hefyd. Gwn y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gwneud cyhoeddiad maes o law ynghylch sut y gellir cael gafael ar y math hwnnw o gyllid.