4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:16, 16 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gwaith caled pob un sy'n cymryd rhan yn rhaglen frechu COVID-19 wedi parhau unwaith eto'r wythnos hon. Y ni sydd yn cynnal y gyfradd frechu orau yn y DU ac mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn o'i chymharu ag unrhyw ran arall yn y DU.

Dim ond mis arall sydd i fynd tan ganol mis Ebrill sef y dyddiad targed ar gyfer cyrraedd carreg filltir dau yn ein strategaeth ni. Rydym ni'n symud ymlaen yn hyderus ac yn gyflym tuag at y garreg filltir allweddol nesaf hon o gynnig brechiad cyntaf i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth presennol. Gyda mwy o gyflenwad o frechlynnau erbyn hyn, rydym yn disgwyl gweld niferoedd uwch o ddosau cyntaf yn cael eu gweinyddu gan gadw at gyflymder ein rhaglen ni ar gyfer yr ail ddos hefyd. Rydym wedi cynyddu ein capasiti i weinyddu hynny'n unol â'r cynnydd o ran cyflenwadau. Y sefyllfa o hyd yw, os caiff y cyflenwadau eu darparu, yna fe fyddwn ni'n eu gweinyddu nhw.

Mae mwy na 90 y cant o bobl rhwng 65 a 69 oed wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn eisoes, ac mae pobl rhwng 50 a 64 oed yn dechrau cael eu galw am eu hapwyntiadau nhw. Rydym ni'n gwneud cynnydd mawr.

Mae ein rhaglen ni ar gyfer ail ddosau wedi bod ar waith ers tua mis erbyn hyn, ac mae dros 0.25 miliwn o bobl yma yng Nghymru wedi cael eu cwrs llawn o'r brechlyn eisoes, sy'n newyddion calonogol iawn, wrth gwrs. Mae hyn yn cynnwys mwy na thraean y preswylwyr mewn cartrefi gofal a thros hanner eu staff gofal nhw. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyniad yn y tymor hwy, felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn derbyn y cynigion o ail ddos.

Diolch i bawb sydd wedi derbyn eu cynnig o ail ddos hyd yn hyn. Ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn ac yn annog eich ffrindiau chi a'ch teulu chi i wneud yr un fath. Fe gefais i fy nos cyntaf i ddydd Sul, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy ail ddos maes o law.

Ac rwy'n awyddus i sicrhau'r Aelodau mai diogelwch pobl fydd yn dod gyntaf bob amser. Rydym yn adolygu'r adroddiadau ynglŷn â diogelwch y brechlynnau yn ofalus trwy'r amser ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ynglŷn â diogelwch. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiadau am rai gwledydd yn Ewrop sy'n gohirio gweinyddu brechlynnau AstraZeneca am y tro oherwydd pryderon ynghylch clotiau gwaed. Ledled y DU, mae dros 12 miliwn dos o'r brechlyn AstraZeneca wedi eu gweinyddu erbyn hyn ac mae'r MHRA yn datgan:

Nid yw'r adroddiadau a fu am glotiau gwaed hyd yn hyn yn fwy na'r nifer a fyddai wedi digwydd yn naturiol yn y boblogaeth a frechwyd.

Fe ddylai pobl barhau i fynd i gael eu brechlyn COVID-19 pan ofynnir iddyn nhw wneud hynny.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd, yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, Thrombosis UK a phob un o bedwar prif swyddog meddygol y DU i gyd yn cefnogi safbwynt yr MHRA ynglŷn â diogelwch ein brechlynnau ni, a'r risg a fyddai fel arall o beidio â bod â'r amddiffyniad a ddarperir gan y brechlynnau. Mae'r risg fel arall oherwydd COVID yn cynnwys, ymysg pethau eraill, mwy o berygl o glotiau gwaed, difrod parhaol i organau ac, wrth gwrs, marwolaeth.

Mae gennym hyder yn ein brechlynnau ni ac rydym yn sicr bod yn rhaid inni barhau â'r momentwm. Dros y penwythnos, fe gofnodwyd bod mwy na 40,000 o frechlynnau wedi'u gweinyddu mewn un diwrnod—mae hynny'n gyfforddus fwy nag 1 y cant o'r boblogaeth yn cael ei brechu mewn un diwrnod. Mae gennym fwy i'w gyflawni eto i gadw Cymru'n ddiogel. Eto i gyd, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth o bob ochr wleidyddol a chan y cyhoedd i'n rhaglen lwyddiannus ni o ddarparu brechiadau. Wrth gwrs, fe fyddaf i'n parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ac i'r cyhoedd.