Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n falch iawn o'ch clywed chi'n dweud mor ddiamwys fod yn rhaid i bobl fynd allan a chael eu brechlyn nhw, boed hwnnw'n frechlyn Pfizer neu un AstraZeneca, ac rwy'n ymuno â chi i ddweud bod y risg o glotiau gwaed oherwydd unrhyw frechlyn o bosibl yn llawer iawn llai nag unrhyw beth arall. O gofio hynny, pa neges gyhoeddus—? Ac rwyf i wedi clywed eich neges chi, ac rwyf innau wedi dweud hynny, ac mae'r Prif Weinidog wedi dweud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n arddel hynny, ond sut mae cyfleu'r neges honno i'r ardaloedd yng Nghymru lle mae pobl yn bryderus iawn, ac efallai wedi cymryd yn erbyn y brechlyn ryw gymaint am wahanol resymau, ac fe fydd hyn wedi ategu'r safbwynt hwnnw? Rwy'n crefu arnoch i ystyried ymgyrch iechyd cyhoeddus gadarn iawn, ac rwy'n holi beth allai eich barn chi fod am hynny.
O ran preswylwyr mewn cartrefi gofal, nid oes amheuaeth nad yw'r ystadegau sy'n amlinellu'r nifer sydd wedi manteisio ar y dosau cyntaf o'r brechlyn yn drawiadol, ond mae gennyf i rai pryderon ynghylch y data ynddyn nhw, sef maint y grŵp o breswylwyr mewn cartrefi gofal. Nawr, rhwng 1 a 2 Mawrth fe ostyngodd maint y grŵp hwn o 17,630 i 15,398, sef gostyngiad o 2,232. Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal yn 13,780. Felly mae gostyngiad wedi bod o 17,630 i 13,780 mewn cyfnod o 16 diwrnod, sef gostyngiad o 3,850 ym mhoblogaeth cartrefi gofal Cymru mewn llai na hanner mis. Gweinidog, fel rwyf i wedi dweud yn gyson, y data sy'n ben arnom ni, ledled y DU, y data sy'n ysgogi camau'r Llywodraethau, ac nid dyddiadau. Felly, mae angen inni fod yn hyderus iawn fod y data sydd gennym ni'n ddibynadwy. Pan fo eich data chi'n dangos bod dros 95 y cant o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ymddiried yn hynny, wyddoch chi, sef bod y data hynny'n gywir. Nawr, er fy mod i'n derbyn y gallai rhai preswylwyr mewn cartrefi gofal yn anffodus fod wedi marw, a wnewch chi egluro pam mae gostyngiad o 21.9 y cant wedi bod yn nifer y preswylwyr mewn cartrefi gofal dros gyfnod o hanner mis?
Fe hoffwn i droi'n fyr at yr anawsterau wrth newid dyddiadau profion. Rwy'n parhau i gael llawer iawn o negeseuon e-bost am yr anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth aildrefnu profion a drefnwyd drwy ganolfannau brechu torfol. Rwy'n pryderu ein bod ni'n wynebu'r risg o weld dosau'n cael eu gwastraffu os na fyddwn ni'n mynd i'r afael â'r broblem hon, yn enwedig wrth inni symud tuag at frechu'r boblogaeth o oedran gweithio sydd, o bosib, â mwy o gyfyngiadau ar eu hamser nhw, ac yn methu â gollwng popeth a bod yn bresennol ar yr amser a roddwyd iddynt oherwydd materion gwaith neu ofal plant. A wnewch chi ddweud wrthym ni beth y gellir ei wneud i helpu i fynd i'r afael â hyn?
Yn olaf, fe hoffwn i sôn am yr astudiaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe, yn dilyn y profion torfol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon, sy'n dangos mai cyswllt agos ar aelwydydd oedd y ffynhonnell fwyaf arwyddocaol o ran trosglwyddiad. Gyda rheolau'r cyfyngiadau symud ar waith ers bron pedwar mis erbyn hyn, a Merthyr unwaith eto'n dangos cynnydd bach yn nifer yr achosion yng Nghymru, pa adnoddau a mesurau diogelu ychwanegol y gallwch chi eu rhoi ar waith yn lleol i liniaru achosion lleol fel yr un yr ydym ni'n eu gweld ym Merthyr? A pha negeseuon cymunedol y gallwn ni eu rhoi ar goedd ynglŷn â'r angen, nid yn unig i fynd i'r afael â'n mesurau ni o ran hylendid, ond i fanteisio ar y brechlyn hefyd, i sicrhau nad ydym ni'n gweld unrhyw frig arall mewn achosion eto? Diolch.