Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fe fyddai unrhyw un yn meddwl fod yna etholiad ar droed, oherwydd mae'r datganiad hwn yn amlwg iawn yn gohirio eich syniadau chi am fod â threth gofal cymdeithasol ac yn ceisio anghofio amdanyn nhw, ac nid wyf i'n synnu o gwbl eich bod chi wedi gwneud felly. Serch hynny, wrth edrych yn ôl ar adroddiad y grŵp rhyngweinidogol, mae hwn yn sicr, drwy eu gwaith nhw, wedi gosod sylfaen ar gyfer treth gofal cymdeithasol y Blaid Lafur, ac rwyf i yma i ddweud na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn trethu'r henoed i ddarparu am ofal cymdeithasol.
Rydym ni'n credu mai hawl pobl oedrannus yw cael y gofal haeddiannol sydd ei angen arnyn nhw, ac fe wyddom ni fod yna arian yn y system, ond ni cheir yma'r cynllunio clir na'r ymdrech ddigonol i ddatrys y broblem hon. Felly, nid wyf i'n gallu cytuno â'r sylw arall y gwnaethoch chi ei gelu'n ddwfn yn y datganiad hwn ynglŷn â chyflwyno ardoll yn y tymor hwy. Eto i gyd, rwy'n cytuno bod y sector gofal cymdeithasol yn fregus, ac mae'n rhaid cymryd camau'n fuan, ac rwy'n cytuno ein bod ni'n wynebu her ddemograffig. Mae honno'n her i'w chroesawu—mae oes hir yn rhywbeth i'w ddathlu—ond mae'n her serch hynny.
Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan LE, ac mae hwnnw'n ddiddorol iawn, ac rwyf i o'r farn fod llawer iawn ynddo y dylem ni ddysgu oddi wrtho a'i ddefnyddio ar gyfer llunio datrysiad posibl. Ond yr hyn yr hoffwn i ei wybod a'i ddeall yw, yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol yn y gorffennol, faint o amser a roddwyd i edrych ar y 'sut' a'r gost bosibl wrth ein cyfeirio ni i gyd tuag at ffyrdd o fyw sy'n fwy iach. Rydym ni wedi siarad llawer am y ffaith mai tlodi, gordewdra, dibyniaeth ar sylweddau, ysmygu, alcohol, diffyg ymarfer corff, yng nghwrs ein bywydau ni, o oedran plentyn hyd at yr oedolyn hŷn, fydd y dylanwadau sylweddol ar ansawdd ein blynyddoedd diweddarach ni. Dyna'r maes y mae angen inni dreulio amser yn mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na dim ond dweud, pan fyddwch chi wedi cyrraedd oedran teg ac nid ydych chi mewn cyflwr da dros ben, 'Mae'n rhaid ichi dalu am eich gofal.' Felly, fe fyddai'n dda iawn gennyf i glywed beth maen nhw wedi bod yn edrych arno o ran hynny.
A ydych chi hefyd, hoffwn i wybod, yn cytuno â'r egwyddor y dylai talu am ofal cymdeithasol fod yn risg a rennir ledled ein cenedl ni yn yr un modd ag yr ydym ni'n talu am ein GIG? Oherwydd os ydym yn dweud, 'Rydym ni am wneud ichi dalu am eich gofal cymdeithasol pan fyddwch chi'n hyn', dyna ddiwedd ar unrhyw degwch yn fy marn i.
Rydych chi'n sôn hefyd am yr angen i wella telerau cyflog staff gofal. Rwy'n cytuno'n llwyr, ac mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun cadarn iawn i recriwtio a grymuso staff gofal, i dalu isafswm absoliwt o £10 yr awr iddyn nhw, a mwy gyda hyfforddiant a chyfrifoldebau. Felly, a ydych chi am geisio recriwtio a grymuso staff gofal yn y byrdymor, oherwydd rydych chi'n dweud mai problem fyrdymor yw hon yn ogystal â bod yn gynllun i'r hirdymor?
Wrth edrych ar y cynigion a gyflwynodd Gerry Holtham, roedden nhw i bob pwrpas yn golygu y gallech fod yn talu mwy o dreth yn syth ar ôl ichi ymddeol ac fe fyddai eich incwm chi'n lleihau. A edrychodd y grŵp gweinidogol ar y materion a fyddai'n effeithio ar gyfrifiadau Holtham, megis diweithdra, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n elfen wirioneddol allweddol, mewn gwirionedd, ac fe fyddai hi'n dda iawn gennyf gael gwybod a wnaeth LE adolygu hynny hefyd?
Rydych chi'n sôn am yr angen i gynnwys cytundeb trawsbleidiol i allu cyflwyno hyn dros y tymor hwy, ac nid wyf i'n anghytuno â hynny o reidrwydd. Ond a wnewch chi amlinellu hefyd sut y bydd pobl hŷn, ac ystod eang o'u cynrychiolwyr nhw, yn gallu bod â rhan wrth gynhyrchu unrhyw bolisi newydd ar y cyd mewn ffordd sydd o werth gwirioneddol?
Yn olaf, yn fy marn i, hyd nes y caiff y cyllidebau eu cyfuno'n llwyr o fewn gofal cymdeithasol a gofal iechyd, fe fydd yna frwydr galed i integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac, yn fy marn i, fe fydd yn rhaid i rywun wynebu'r ffaith honno er mwyn i hynny ddigwydd. Dyna wnaiff ysgogi hynny oherwydd yr arian sydd yn ben ar wasanaethau cyhoeddus a dyna fydd yn ysgogi'r integreiddio hwnnw ac yn gwneud y dull hwn o wneud penderfyniadau a chynllunio penderfyniadau yn llawer, llawer haws ac yn llawer iawn mwy cydlynol. Diolch, Gweinidog.