Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch i chi am y sylwadau a'r gyfres yna o gwestiynau. Yn rhyfedd iawn, mi fyddwn i'n cytuno â rhai ohonyn nhw—rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi—ac mae yna eraill nad wyf i'n cytuno â nhw. Fe fyddaf i'n gweld eisiau Angela pan na fydd hi yn y Siambr mwyach, er mai ei dewis hi yw hynny, a'r pleidleiswyr fydd yn pennu fy nhynged i yn yr etholiad sydd i ddod.
Ond rwyf i yn credu fod yno her wirioneddol i'r Ceidwadwyr Cymreig a'u hagwedd tuag at y dyfodol. Rwy'n credu bod clywed y Blaid Geidwadol yn sôn yng Nghymru am godi tâl i bobl yn y sector gofal cymdeithasol yn rhywbeth i'w groesawu—mae hwnnw'n newydd da yn fy marn i. Ond rwy'n credu y ceir her wirioneddol ynglŷn â'r dull o gyflawni hynny, oherwydd fe fydd hynny'n gofyn am flaenoriaethu mewn termau cyllidebol. Ac o ran her ein sefyllfa ni, nid wyf i'n credu y bydd modd ysgogi'r symiau o arian i gynyddu'r hyn y gallwn ni ei wneud o fewn gofal cymdeithasol heb ystyried cymorth ariannol mwy sylweddol ar gyfer hynny. Ac nid wyf i'n credu y bydd y cynllunio clir i ryddhau arian yn eich galluogi chi i gyflawni hynny—dull y consuriwr yn tynnu rhywbeth o'i het i wneud pethau'n fwy effeithlon ac y gallwch chi dynnu symiau enfawr o arian o'ch het hudol. Pe byddem ni'n siarad â llywodraeth leol o bob lliw a llun gwleidyddol, gan gynnwys awdurdodau Ceidwadol neu glymblaid, nid wyf i'n credu y bydden nhw'n dweud bod adnoddau enfawr heb eu defnyddio ar gael o fewn y system yn aros i rywun eu canfod a'u rhoi ym mhocedi'r gweithwyr. Rwy'n credu y bydd yn cymryd mwy na hynny. Ac fel y dywedais i yn fy natganiad, mae'r duedd bresennol yn dangos y gallai fod angen inni wario hyd at £400 miliwn erbyn 2022-23, a hynny ddim ond er mwyn darparu'r hyn sydd gennym ni eisoes, ac nid i ddarparu gwell gofal ond i ddarparu'r un gofal; a pheidio â chodi cyflogau'r staff, ond eu cadw nhw ar yr un cyfraddau cyflog a'r un math o ofal. Ac mae hynny'n dangos lefel yr her sy'n ein hwynebu ni.
Felly, wrth gwrs, mae hon yn her, ac ar hyn o bryd yn y cylch economaidd—economeg Keynes clasurol yw hyn—nid dyma'r amser i godi trethi. Felly, nid yw'n golygu gohirio ac anghofio; mae'n golygu ymateb i'r sefyllfa bresennol. Ac fe newidiodd y cyd-destun yn ystod gwaith y grŵp rhyngweinidogol, wrth gwrs, oherwydd roeddem ni ar fin dymuno dechrau sgwrs genedlaethol, i siarad am hyn yr oeddem ni'n ei olygu a sut y gallem ddenu symiau sylweddol o adnoddau ychwanegol i'r sector gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig wedi newid nid yn unig ein gallu ni i gael y sgwrs, ond y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo, a hynny'n gwbl sylfaenol.
Felly, ydym, rydym ni'n ystyried amrywiaeth o feysydd eraill. Rwyf wedi sôn am yr opsiynau tai eisoes. Ac ni chaiff yr her sydd gennym ni ei datrys drwy newid ein ffordd ni o fyw, yn fy marn i. Fe wyddom fod gennym her ehangach o ran iechyd y cyhoedd a dyna'r gwaith y mae Eluned Morgan yn arwain arno ar hyn o bryd. Mae ein rhaglen 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn bwysig i bobl o bob oed ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod ni'n byw'n iach. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n meddwl am ein heriau ni o ran tai, rydym wedi amcangyfrif y bydd angen cynnydd sylweddol mewn unedau gofal ychwanegol arnom ni. Wel, dim ond tua 500 o unedau gofal ychwanegol a ddarparwyd ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Felly, mewn gwirionedd, mae angen cymryd cam bras ymlaen o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i allu ymateb i'r her, yn ogystal â dymuno gwella canlyniadau iechyd y cyhoedd i'r boblogaeth gyfan.
O ran eich pwynt chi ynglŷn â thalu am ofal cymdeithasol sydd â risg a rennir, fel y GIG, wel, fe fydd hynny'n gofyn am rywfaint o gytundeb. A rhan o'r her wrth wneud hynny yw'r ffordd yr ydym ni wedi ein strwythuro ar hyn o bryd ac mae'r diffyg o ran datrysiad i'r DU gyfan yn rhan o'r hyn sy'n ein rhwystro ni. Fe fydd yna derfyn ar yr hyn y gallwn ni ei wneud cyn y gallwn ddechrau ymyrryd a gweld canlyniadau anfwriadol o bosibl yn y system dreth a budd-daliadau ehangach. Yn wir, fe gynhyrchodd y pwyllgor dethol trawsbleidiol yn Nhŷ'r Cyffredin, cyn yr etholiad diwethaf, adroddiad yn mynegi safbwynt o blaid codi refeniw treth ar gyfer gallu cyflawni ar raddfa llawer mwy sylweddol. Ac fe fyddai hynny wedyn wedi bod yn rhywbeth y byddem ni'n ei rannu ledled y DU gyfan, gyda symiau sylweddol o arian a fyddai wedi dod i bob Llywodraeth genedlaethol ddatganoledig. Roedden nhw'n cefnogi math o drethiant hefyd sy'n gysylltiedig ag oedran, yn debyg iawn i'r hyn sy'n digwydd yn Japan. Felly, mae yna ddadl agored anorffenedig a pharhaus ynglŷn â'r hyn y gallai'r dyfodol ei gyflwyno inni. Dyma'r sefyllfa ar hyn o bryd: y gallu i wneud gwahaniaeth drwy fwrw ymlaen â'r gwaith ar integreiddio y cyfeiria'r Aelod ato, o ran gwella'r cyfraddau cyflog ac ansawdd y gofal a ddarperir, ac mae gennym weithlu brwdfrydig mewn system a allai, gyda'r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn yr ymgynghorir arno ar 6 Ebrill, newid gofal cymdeithasol yn sylweddol, ond rydym ni'n cydnabod y bydd mwy gan y Llywodraeth nesaf i'w wneud eto. Ond rwy'n credu, fel y dywedais i yn y datganiad, fod hon yn sylfaen gref ar gyfer datblygu'r gwaith hwnnw ar gyfer unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol.