Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 16 Mawrth 2021.
Yn ysbryd bod yn bositif, mi ddywedaf i, i ddechrau, fy mod i'n cydymdeimlo, yn sicr, efo'r Gweinidog, i'r graddau bod y pandemig, wrth gwrs, wedi cael impact dwys iawn ar y cyd-destun ehangach ac ar ein capasiti ni i gyd i bwyso a mesur yr hirdymor ar gyfer iechyd a gofal. Ac mae'r pwysau yna ar gapasiti, wrth gwrs, yn bwysau go iawn. Rydym ni yn ei weld o ym mlinder ein staff ni. Rydym ni'n ei weld o yn y pwysau ariannol digynsail sydd yna ar y coffrau cyhoeddus yn y cyfnod acíwt yma o hyd o ymateb i'r pandemig. Ond i mi, rhoi mwy o reswm i ni weithredu, nid llai, mae profiad y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni wedi gweld yn blaenach nag erioed y diffyg statws, y diffyg sylw a buddsoddiad sydd wedi mynd i mewn i ofal cymdeithasol. Rydym ni wedi gweld y diffyg parch oedd yna i staff gofal. Rydym ni wedi cael prawf cliriach nag erioed bod ein gwasanaethau iechyd ni'n anghynaliadwy, yn or-ddibynnol ar ewyllys da staff, mewn cyflwr o reoli crisis yn llawer rhy aml, ac efo prinder staffio ddylai fod wedi cael ei ddatrys ers blynyddoedd. Felly, tra buasai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicr eisiau rhoi cynllun gweithredu brys mewn lle i adfer gwasanaethau ar ôl COVID, nid dod yn ôl i normal fyddai'r nod, ond trawsnewid gwasanaethau ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny yn yr hinsawdd yma, wrth gwrs, yn anferth o her.
Wrth galon ein cynlluniau ni, mae creu gwasanaeth iechyd a gofal newydd sy'n cynnig fframweithiau clir, fel rydym ni'n eu gweld nhw, ar gyfer sut mae byrddau iechyd a Llywodraeth leol yn delifro iechyd a gofal mewn ffordd unedig, seamless, efo cyllidebau wedi'u huno, ac ati. Mae hynny'n golygu trin y gweithlu iechyd a gofal ar yr un lefel, yr un amodau a graddfeydd cyflogau, p'un ai ydyn nhw'n weithwyr gofal neu iechyd.
A'r rhan arall cwbl allweddol i hyn wedyn, wrth gwrs, ydy beth sydd gennym ni o'n blaenau ni heddiw yma, sef dyfodol gofal cymdeithasol a sut rydym ni'n talu amdano fo. Yn syml iawn, mae'n rhaid i ni symud rŵan at ddarparu gofal am ddim lle mae ei angen o, fel mae gofal iechyd. Sut mae hi'n gwneud synnwyr o hyd bod rhywun efo dementia yn gorfod talu, a rhywun efo salwch arall, fel canser, ddim? A dwi ddim am eiliad yn dweud bod hyn am fod yn hawdd, neu buasai o wedi'i wneud ers talwm, mae'n siŵr. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi nodi ei hun rhai o'r heriau sydd gennym ni, yn cynnwys, wrth gwrs, y damcaniaethau ar gyfer y cynnydd mawr mewn costau gofal mewn blynyddoedd i ddod. Ond cofiwch mai cynnydd ar y raddfa yna os ydym ni'n cadw pethau fel maen nhw ydy hynny. Ac mae'n rhaid i ni gynnwys, fel rhan o'r hafaliad ar gostau, yr hyn ddylem ni fod yn anelu i'w arbed drwy chwyldroi'r ffordd rydym ni'n meddwl am yr ataliol, yn cadw pobl i fyw yn fwy ffit, yn fwy annibynnol yn hirach.
Dwi'n ddiolchgar iawn i Age Cymru am grynhoi'n dda iawn beth ydy eu gweledigaeth nhw mewn datganiad wnaeth ymddangos yn fy inbox i heddiw. Mae o'n ddrych o beth dwi eisiau ei weld, mewn difrif. Mae hyn yn gwestiwn o degwch cwbl sylfaenol, medden nhw. Mae eisiau tegwch o ran pwy sy'n talu a sut rydym ni'n talu, ac maen nhw'n nodi, ymhlith eu hegwyddorion craidd nhw, bod rhaid rhannu'r risg ar draws cymdeithas. Wrth gwrs, mae yna fwy nag un ffordd o rannu risg. Dwi'n dal yn grediniol bod modd cynnwys hwn o dan y drefn trethiant gyffredinol os ydym ni'n edrych arno fo fel rhan o dirwedd iechyd a gofal sydd wedi ei thrawsnewid, a dyna sut dwi eisiau gwireddu hyn. Ond, wrth gwrs, mi edrychwn ni ar bod opsiwn mewn Llywodraeth. Fy nghwestiwn i'n syml: ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yr amser wedi dod rŵan, o'r diwedd, i weithredu ar hyn, a bod heriau yna i'w goresgyn, nid i'n stopio ni?