6. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 16 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:20, 16 Mawrth 2021

Diolch am y datganiad a'r diweddariad. Wrth drafod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, rydych chi'n parhau i ddefnyddio'r cysyniad o adeilad i ddisgrifio ysgol. Mae adeiladau newydd sydd wedi'u dylunio'n dda yn gallu cyfrannu at greu awyrgylch sy'n annog creadigrwydd a dysgu, a dwi innau hefyd yn gyfarwydd â sawl adeilad ysgol newydd sbon yn Arfon sydd wedi derbyn croeso brwd ac wedi cael eu codi yn sgil y rhaglen benodol rydyn ni'n ei thrafod heddiw. Mae angen bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan gwbl ganolog o'r strategaeth hirdymor o ran is-adeiledd addysgol y dyfodol, o gofio'r strategaeth 1 miliwn o siaradwyr, a dwi ddim yn credu eu bod nhw yn greiddiol i'r strategaeth ar hyn o bryd ac mai arian ychwanegol sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml iawn yn hytrach na bod y rhaglen yn cynnwys adeiladau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Mae'r pandemig wedi ein dysgu ni bod yn rhaid sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel sydd yn helpu i leihau'r risg o ledaenu heintiau, ac felly mae awyru yn hollbwysig, ac mae angen sicrhau bod ysgolion yn addas i'r diben drwy fuddsoddi mewn technolegau sy'n caniatáu awyru effeithlon ac effeithiol yn ein hysgolion i gyd. Ydych chi'n cytuno bod angen rhaglen waith benodol i sicrhau bod problemau diffyg awyru digonol yn cael sylw priodol yn y tymor byr yn ogystal â'r hir dymor?

I fynd yn ôl at fy mhwynt cyntaf am yr ysgolion unfed ganrif ar hugain, nid adeilad ydy ysgol; ysgol ydy criw o blant a phobl ifanc yn cyd-ddysgu, dan arweiniad athrawon medrus sy'n gallu ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol, a dwi'n credu ei bod hi'n bryd i ni symud at ddiffiniad llawer mwy eang wrth drafod ystyr 'ysgol' yn y byd modern, ac mi wnaf i edrych jest ar un agwedd yn unig o'r diffiniad newydd sydd angen inni symud tuag ato fo. Fe all ysgol ddigwydd tu hwnt i furiau ystafell. Mae rhai gwledydd eisoes yn arwain y ffordd o ran addysg awyr agored—Denmarc, y Ffindir, Singapore a Seland Newydd—efo'r gwledydd yma yn defnyddio addysg yn yr awyr agored i gryfhau cysylltiadau dysgwyr efo'r byd naturiol tra'n cefnogi lles a iechyd meddwl hefyd. Felly, hoffwn i wybod pa arian mae eich Llywodraeth chi yn ei glustnodi yn benodol tuag at ddatblygu dysgu yn yr awyr agored, fel bod ysgol yn yr unfed ganrif ar hugain yn dod yn gysyniad sydd yn cynnwys hyn yn ogystal.

Mae'r sector addysg awyr agored, gan gynnwys y canolfannau preswyl, efo cyfraniad pwysig i'w wneud hefyd, ond mae'r sector yma ar ei gliniau ar hyn o bryd, ac mae'n hynod siomedig nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi'n ddigonol gan y Llywodraeth yn sgil y pandemig. Allan o'r 44 o ganolfannau yng Nghymru, mae yna bump wedi cau yn barod mewn diwydiant sydd werth tua £40 miliwn i'r economi yma yng Nghymru. Dwi wedi cael nifer o gyfarfodydd efo cynrychiolwyr o'r sector, ac mi wnes i drefnu hefyd iddyn nhw gael rhoi eu hachos am gefnogaeth yn uniongyrchol i swyddogion y Gweinidog economi, ond siom o'r mwyaf ydy eu bod nhw'n dal i ddisgwyl am gefnogaeth. Felly, yn olaf gen i, ydych chi'n derbyn bod y sector angen cefnogaeth, a bod yr argyfwng yn rhoi cyfle i roi cyfeiriad newydd i addysg awyr agored fyddai'n cynnwys cryfhau'r cysylltiadau efo ysgolion a cholegau lleol?

Mi fyddwn i'n falch o glywed eich sylwadau chi am y ddau fater penodol yma, sef awyru adeiladau a phwysigrwydd addysg awyr agored.