Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 16 Mawrth 2021.
Unwaith eto, rydych chi'n gwneud pwynt da ynghylch mwy o dryloywder rhwng adnewyddu ac adeiladu o'r newydd. Mae'n bwysig iawn ein bod yn pwysleisio unwaith eto bod y prosiect yn caniatáu ar gyfer y ddau. Weithiau, mae camargraff mai'r unig ffordd o sicrhau arian ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yw cael adeilad newydd. Nid yw hynny'n wir. Mae'r rhaglen hefyd yn caniatáu adnewyddu cyfleusterau presennol neu, yn wir, adnewyddu a helaethu cyfleusterau hefyd. Rwyf wedi ymweld â rhai prosiectau hynod arloesol lle mae ysgol wedi bod yn adeilad rhestredig ac wedi cael ei hehangu'n dringar iawn i ddarparu capasiti ychwanegol lle mae'r awdurdod lleol wedi teimlo bod yr ysgol yn sicr yn y lleoliad cywir a bod galw mawr am leoedd, ond na all yr adeilad presennol ddiwallu'r galw hwnnw. Felly, mae'n bwysig bod hyblygrwydd yn y rhaglen i allu bodloni dymuniadau ein partneriaid i ddatblygu eu hystad. Ond byddaf yn ceisio rhoi mwy o fanylion i'r Aelod am y rhaniad rhwng adeiladau newydd, adnewyddu ac estyniadau, pe bai hynny'n ddefnyddiol i'r Aelod.
O ran arian refeniw, mae hynny'n wir yn mynd i awdurdodau lleol. Mae gan bob awdurdod lleol ddyraniad sydd wedi'i seilio'n rhannol ar nifer y disgyblion, ond sydd hefyd yn rhannol ar nifer yr ysgolion sydd gan awdurdod lleol. Mae dwy gronfa o arian eleni. Mae'r cyntaf ar gyfer costau cyfalaf. Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ddyrannu—yn wir, neilltuo—yr adnoddau hynny at ddibenion cynnal a chadw ysgolion. Byddai'r rheini, er enghraifft, yn brosiectau mwy na fyddent fel arfer yn gallu cael eu cynnwys yng nghyllideb gyfalaf ysgol ei hun, megis ailosod to yn ei gyfanrwydd, er enghraifft, a'r math yna o beth. Ac yna caiff y gyllideb refeniw, unwaith eto, ei chynnwys yng nghyllidebau ysgolion i dalu costau rhywfaint o waith cynnal refeniw y byddent wedi'i wneud eu hunain. Mae wedi'i neilltuo, ond mae'n mynd drwy'r awdurdodau lleol.
O ran ysgolion bro, rydych chi'n iawn, Suzy, dylai pob un o'n hysgolion fod yn ysgolion bro. Defnyddiwyd y gronfa benodol hon o arian i arbrofi gyda dulliau gweithredu lle mae awydd gwirioneddol yn yr ysgol i ddarparu mwy o ddefnydd cymunedol, ond ble mae rhai cyfyngiadau mewn gwirionedd ar yr adeilad. Felly, nid ydym yn sôn yma am brydlesu neuadd yr ysgol ar gyfer digwyddiadau mwy; mae hyn yn ymwneud, er enghraifft, â chael y lle i ddatblygu ystafell ddosbarth newydd a ddefnyddir yn benodol i ddysgu rhieni, neu allu creu gofod newydd ar ystâd yr ysgol sy'n caniatáu i dimau rhyngddisgyblaethol weithio gyda rhieni. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion nad ydynt yn fodlon gwneud hynny, mae'n ymwneud ag ychwanegu cyfleusterau ychwanegol i ysgolion er mwyn gallu ehangu'r hyn y gallan nhw ei gynnig i rieni a lle mae cyfyngiadau ar yr ystad bresennol mewn gwirionedd. Felly, mae awydd gwirioneddol ar ran yr ysgol, yr awdurdod lleol a'r gymuned, ond mewn gwirionedd nid oes digon o le yn yr adeilad hwnnw i ganiatáu i'r gweithgareddau hynny ddigwydd. Felly, dyna pam mae'r arian yno. Ond rydych chi'n gywir, mae angen i ni barhau i gael sgyrsiau gyda chyrff llywodraethu, oherwydd wrth gwrs, unwaith y bydd yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i'r corff llywodraethu, eu cyfrifoldeb nhw yw hi, ac mae angen i ni ennyn disgwyliad bob amser bod yr adeilad hwnnw, ydy, yn perthyn i'r ysgol, ond mewn gwirionedd mae'n gyfle gwych i'r gymuned ehangach. Mewn rhai cymunedau, gall yr ysgol fod yn offeryn olaf y wladwriaeth; efallai mai dyma'r unig adeilad cyhoeddus mewn ardal, ac felly dylid cael cyfle. Ond mae hyn er mwyn edrych yn benodol ar fannau ychwanegol ar yr ystad ysgolion sy'n caniatáu i'r ysgol honno fynd yr ail filltir i ddatblygu'r cydberthnasau hynny.
Caiff y £30 miliwn ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ei neilltuo o wariant cyfalaf addysg, ond mae wedi'i neilltuo i gefnogi ehangu cyfrwng Cymraeg yn benodol, boed hynny mewn ysgolion neu mewn lleoliadau meithrin.