Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rwyf wedi bod yn freintiedig iawn, yn ystod fy nghyfnod yn Weinidog addysg, i weld y gwelliant yn y lleoliadau addysgol i'n plant a'n pobl ifanc ledled ein gwlad a ddarperir drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain.
Yn ystod y tymor hwn, rydym ni wedi llwyddo i ddarparu'r don gyntaf o £1.4 biliwn o gyllid rhaglenni o fewn y pum mlynedd, fel yr addawyd, gyda rhai ychwanegiadau pwysig iawn. Gan fynd y tu hwnt i'r 150 o brosiectau ysgol a addawyd yn wreiddiol, mae buddsoddiad wedi arwain at 170 o ysgolion newydd ac wedi'u hadnewyddu ym mhob cwr o Gymru, gan roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n disgyblion. Rydym ni wedi newid yr amgylchedd dysgu ar gyfer dros 100,000 o ddisgyblion yn ystod y don gyntaf, wedi rhoi ysgogiad economaidd yn ystod cyfnod anodd, rydym ni wedi creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd dysgu ac ymgysylltu i gymunedau, a manteision i gadwyni cyflenwi lleol.
Mae'r llwyddiant hwn wedi paratoi'r ffordd ar gyfer buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn drwy ail don cyllid y rhaglen, a lansiais ym mis Ebrill 2019. Gyda chyfradd ymyrraeth rhaglen well, mae hyn wedi cynyddu fforddiadwyedd y rhaglen ar gyfer ein partneriaid cyflenwi, ac mae cymysgedd o gyllid cyfalaf a refeniw i sicrhau'r buddsoddiadau mwyaf strategol yn yr ystad ysgolion bellach ar gael wrth i ni symud ymlaen. Rwyf wrth fy modd bod £1.5 biliwn wedi'i wario hyd yma o dan y rhaglen, ac rydym ni wedi gallu buddsoddi mewn ysbrydoli ysgolion a cholegau ym mhob un rhan o Gymru. Ac rwy'n arbennig o falch bod y flwyddyn ariannol hon, yn yr amgylchiadau anoddaf a heriol, bod y rhaglen wedi parhau, ac, mewn rhai achosion, bod y ddarpariaeth wedi cyflymu, fel y dangosir gan nifer y prosiectau sydd ar y gweill neu sy'n cael eu cwblhau cyn amserlen y rhaglen.
Rydym ni wedi cyflawni'r gwariant blynyddol mwyaf ar raglen o dros £300 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n dangos ac yn tystio i benderfyniad Llywodraeth Cymru a'n partneriaid cyflenwi i barhau i gyflawni ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r rhaglen yn ymwneud â dim ond adeiladau newydd ac ailfodelu lleoliadau addysgol sy'n bodoli eisoes; mae'n ymwneud â darparu amgylcheddau sy'n buddsoddi yn y bobl sy'n eu defnyddio, gwerthfawrogi ein hathrawon a staff ysgol rhagorol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n dysgwyr.
Dirprwy Lywydd, rwyf wedi mwynhau'n arbennig gallu gweld hynny'n uniongyrchol—weithiau, yn wir, gyda chi, Dirprwy Lywydd—yn yr ysgolion yr wyf wedi gallu ymweld â nhw. Mae wedi bod yn hyfryd siarad â'n plant a'n pobl ifanc a staff yr ysgol sydd wedi dangos i mi fanteision y buddsoddiad yn eu hysgol, beth sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n falch iawn, beth sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael cefnogaeth wirioneddol, a'r hyn sydd wedi rhoi'r penderfyniad iddyn nhw lwyddo.
Drwy gydol yr amser hwn, rwyf wedi bod yn arbennig o ymwybodol o gyflwr yr ystad ysgolion, ac rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn cydnabod hyn ar gyfer yr ysgolion a'r disgyblion nad ydyn nhw, ar hyn o bryd, yn ddigon ffodus i fwynhau cefnogaeth o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rydym ni wedi bod yn awyddus i sicrhau bod cyllideb cynnal a chadw flynyddol ar gael i gefnogi ysgolion fel y gallan nhw fod yn y cyflwr gorau posibl i ddysgwyr. Cyhoeddais werth £50 miliwn o gyllid cynnal a chadw cyfalaf yn ddiweddar, gan roi arian ychwanegol i ysgolion i reoli costau cynnal a chadw, ac rwy'n falch iawn heddiw o gadarnhau y caiff hyn ei wella gyda £45 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion ledled Cymru i gefnogi costau cynnal refeniw.
Yn ystod tymor y Llywodraeth hon, yn bersonol, rwyf wedi bod yn arbennig o falch o'r ffordd arloesol yr ydym ni wedi buddsoddi cyllid cyfalaf er mwyn helpu i barhau i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog; Yn 2018, cafodd y grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg ei sefydlu, gwerth £46 miliwn, sydd wedi cefnogi prosiectau, unwaith eto ledled Cymru, gan greu bron i 3,000 o leoedd mewn ysgolion a gofal plant. Fodd bynnag, er mwyn adeiladu ar y momentwm hwn, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi £30 miliwn arall i barhau â'r gwaith pwysig hwn. Ac, wrth gwrs, yn dilyn £5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, roeddwn yn falch iawn, fis Medi diwethaf, o allu ymweld, gyda'r Llywydd, â neuaddau Pantycelyn sydd newydd eu hadnewyddu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnal y gymuned o 200 o fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol.
Mae 2020 wedi dangos pa mor gwbl allweddol ac angenrheidiol yw amgylchedd yr ysgol o hyd fel man lle mae plant yn dysgu, yn tyfu ac yn teimlo'n ddiogel, a bu'n fodd o'n hatgoffa i gyd o bwysigrwydd yr ystâd ysgolion i'r gymuned ehangach. Rwyf wedi bod yn gredwr cryf bod yn rhaid i ysgolion fod â rhan hanfodol yn eu cymunedau. Dyna pam mae manteision cymunedol yn ystyriaeth mor bwysig i'n holl brosiectau addysg arfaethedig, a pham rwyf wedi bod yn falch iawn o fuddsoddi £15 miliwn yn benodol i ariannu prosiectau peilot sy'n ceisio annog defnydd ehangach o asedau cymunedol. Mae 21 o brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd, gan arddangos rhagoriaeth mewn canolfannau dysgu cymunedol, darpariaeth gymunedol ac ysgolion bro. Mae hyn yn gynnydd da, ond, Dirprwy Lywydd, mae angen inni fwrw ymlaen a rhoi mwy o bwyslais ar ehangu ymgysylltiad rhieni, cynyddu'r gweithgareddau i deuluoedd ac sy'n ymwneud â rhianta, ac ehangu'r defnydd o gyfleusterau y tu hwnt i'r diwrnod ysgol.
Dim ond yn ôl yn nechrau'r flwyddyn hon y nododd ein prif arolygydd mai un o'r ychydig iawn o agweddau cadarnhaol y pandemig ofnadwy hwn yw'r cynnydd mewn cyfathrebu a meithrin perthynas rhwng rhieni ac ysgolion. Gadewch i ni beidio â cholli hyn wrth i ni symud ymlaen. Yn wir, gadewch i ni gynllunio ar gyfer hyn a'i gefnogi o ran defnyddio mwy o gyfleusterau cymunedol yn ein hysgolion. Mae'n amlwg i mi hefyd y bydd yr hyn a wnawn ni nawr yn effeithio ar yr amgylchedd yr ydym yn ei adael i genedlaethau'r dyfodol fyw, dysgu a gweithio ynddo, a dyna pam mae'n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cynnwys ein staff, ein plant a'n dysgwyr ifanc mewn penderfyniadau am eu hysgolion a'u colegau. A dyna pam rwy'n credu'n gryf bod y sector addysg yn allweddol i symud ein cenedl tuag at economi carbon isel sy'n sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bawb yng Nghymru a'n hamgylchedd. Mae'n bwysig ein bod yn gweithredu'n awr i sicrhau bod cynigion ar gyfer ysgolion newydd yn cael eu cyflawni yn unol ag ymrwymiad tymor hwy Llywodraeth Cymru tuag at leihau allyriadau carbon a'r strategaeth adeiladau sector cyhoeddus sero-net. Mae hon yn strategaeth yr ydym ni yn ei hymgorffori yn ein rhaglen drwy brosiect peilot carbon sero-net, sy'n ein helpu i ddatgarboneiddio ein hysgolion a'n colegau. A bu'n bleser mawr gweld dechrau adeiladu'r ysgol sero-net gyntaf yng Nghymru: yr ysgol gynradd newydd yn Llancarfan ym Mro Morgannwg. At ei gilydd, gobeithiaf y bydd fy nghyd-Aelodau'n cytuno bod y rhaglen hon yn wir yn achos dathlu, ac yn un y gallwn ni fel cenedl ymfalchïo ynddi. Diolch yn fawr.