Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 17 Mawrth 2021.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwyf am ddechrau drwy wneud rhywbeth nad wyf fel arfer yn ei wneud, sef dyfynnu geiriau person arall, ac rwy'n mynd i ddyfynnu geiriau Helen, sy'n nyrs o Lanelli. Rwy'n ei hadnabod hi a'i gwaith ers amser maith. Mae wedi anfon negeseuon e-bost ataf ynglŷn â nifer o faterion gofal iechyd, ond hoffwn ddyfynnu'n fyr rai o'r pethau y mae'n eu dweud am gyflogau nyrsys: 'Ar gyflogau nyrsys, mae angen herio gwybodaeth anghywir a ffugio ffeithiau am godiadau cyflog blaenorol a bod y mwyafrif llethol o nyrsys ar gyflogau o dros £30,000 fel y mae Llywodraeth San Steffan yn ei bedlera. Yn achos llawer o nyrsys, hwy yw'r prif enillwyr cyflog yn eu teulu, ac nid yw eu hincwm yn eilradd i un y gŵr. Nid dim ond yn ystod argyfwng COVID y mae'r rhai sy'n darparu iechyd a gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau sylfaenol, eilaidd ac annibynnol wedi bod yn gwasanaethu ein cymuned' meddai. 'Mae sefyll y tu allan a chlapio cyn cynnig codiad cyflog is na chwyddiant yn sarhaus. Bydd cadw staff iechyd a gofal yn hanfodol i ddiwallu anghenion y rhai sydd wedi wynebu oedi mewn diagnosteg a thriniaethau, ac nid yw 1 y cant pitw yn cynnig llawer o gymhelliant i aros yn y byd nyrsio.' Mae hi'n dweud wedyn, 'Rwy'n ymddiheuro am ei dweud hi, ond mewn 40 mlynedd nid wyf erioed wedi gweld morâl mor isel ac nid wyf fi'n bersonol erioed wedi teimlo fy mod yn cael fy sarhau a fy niraddio i'r fath raddau.'
Nawr, fel y dywedais, rwy'n adnabod Helen, ac mae ei hymrwymiad a'i hymroddiad wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae clywed cymaint y mae'n teimlo ei bod wedi'i diraddio a'i sarhau yn fy ngwneud yn gandryll. Ac mae cannoedd o Helenau ym mhob un o'n hetholaethau—miloedd ohonynt ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ledled Cymru. Nid yw recriwtio nyrsys, wrth gwrs, erioed wedi bod yn broblem fawr iawn. Mae cymaint o bobl sy'n barod i wasanaethu ac sy'n barod i hyfforddi, er bod yna heriau. Ond mae cadw nyrsys wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae nifer o resymau am hyn. Mae diffyg hyblygrwydd yn un ohonynt; mae prinder cyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa yn un arall. Ond mae cyflogau isel yn rhan o'r darlun hwn. Gan ychwanegu at y straen bron yn annioddefol o weithio o dan amodau COVID, rwy'n wirioneddol bryderus y byddwn yn gweld y nyrsys hyn a gweithwyr proffesiynol medrus eraill yn llifo allan o'n GIG i waith asiantaeth, neu allan o iechyd a gofal yn gyfan gwbl, wedi'i achosi gan amodau gwaith annioddefol a sarhad enfawr y cynnig cyflog hwn ar y diwedd. Mae hynny'n fy ngwneud yn wirioneddol bryderus ynghylch cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau. Gwyddom fod angen i ni ddarparu mwy o wasanaethau yn agos at gartrefi pobl, ond os nad yw'r gweithwyr proffesiynol gennym, sut y gallwn gadw ysbytai fel Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli neu Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro i fynd a darparu'r gwasanaethau rhagorol a gynigir ganddynt?
Felly, beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i hyn? Wel, y bonws—mae croeso mawr iddo, ond nid pat achlysurol ar y cefn y mae'r staff iechyd a gofal y siaradais â hwy yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli ei eisiau. Yr hyn y mae arnynt ei eisiau a'i angen yw cyflog teg am ddiwrnod teg o waith, wythnos ar ôl wythnos. Ac ymateb y Llywodraeth i'n cynnig? Wel, y 'dileu bron bopeth, ac mae popeth rydym yn ei wneud yn iawn' arferol. Wel, nid yw'n iawn. I mi, Lywydd, dyma enghraifft arall eto o pam y gallai datganoli fod yn well na dim byd o gwbl, ond pam hefyd nad yw'n ddigon. Credaf yn gryf fod y rhan fwyaf o bobl Cymru am weld ein staff iechyd a gofal yn cael eu talu'n briodol a hynny'n gyson.
Ond er bod iechyd a gofal wedi'u datganoli, mae ein gweithwyr iechyd a gofal yn dal i gael eu tristáu gan rethreg sarhaus Llywodraeth Geidwadol na wnaethom bleidleisio drosti. A hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru am ddarparu setliad cyflog mwy hael, efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd fforddio gwneud hynny. Mae Angela Burns yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod hwn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag adnoddau. Mae ein staff iechyd a gofal a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau—pob un ohonom, Lywydd—yn haeddu gwell. Yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, mae angen inni fod yn wlad annibynnol gyda Llywodraeth a all adlewyrchu ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau o ddifrif ac yn llwyr—penderfyniadau sy'n effeithio arnom ni a wnaed gennym ni.
Yn y cyfamser, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu, gan gynnwys talu o leiaf £10 yr awr i bob gweithiwr gofal. Ar ôl mis Mai, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud yn union hynny. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig heb ei ddiwygio i'r Senedd.