Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae fy mywyd blaenorol fel swyddog Unsain yng Nghymru yn hysbys iawn, ac rwy'n dal i fod yn falch iawn o'r ffaith fy mod yn rhan o'r tîm negodi a weithiodd mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno'r cyflog byw i'r GIG yng Nghymru, cyn gweddill y DU, ar adeg pan oedd cymheiriaid yn y GIG yn Lloegr yn mynd ar streic yn erbyn Llywodraeth Dorïaidd anhyblyg y DU nad oedd am barchu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rwyf hefyd yn ddigon hen i gofio pam y sefydlwyd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG. Daeth yn sgil anghydfod cyflog chwerw ar ddechrau'r 1980au ac roedd yn ymgais i edrych ar dâl yn annibynnol ac i dynnu gwleidyddiaeth allan ohono. A gweithiodd hynny'n dda, tan i Lywodraeth Dorïaidd y DU, unwaith eto, benderfynu ar bolisïau cyni a dod â gwleidyddiaeth yn ôl i mewn drwy ymyrryd ag annibyniaeth y corff adolygu cyflogau, a mynnu nad oeddent yn cynnig mwy nag 1 y cant, waeth beth fo'r dystiolaeth a allai eu harwain at gasgliad gwahanol. Wel, mae hanes yn ailadrodd ei hun, onid yw, oherwydd, unwaith eto, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi dweud ei bod ond yn barod i ariannu cynnydd o 1 y cant, ni waeth pa dystiolaeth a gyflwynir i'r corff adolygu cyflogau a'r hyn y mae'n ei argymell. Mae hyn yn warthus, o ystyried beth mae'r GIG a gweithwyr rheng flaen eraill wedi bod drwyddo dros y flwyddyn ddiwethaf, felly rwy'n falch bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru wedi nodi'n glir iawn mewn tystiolaeth i'r corff adolygu cyflogau na ddylid cael cap mympwyol ar y cynnig a wneir i weithwyr y GIG; dylai fod yn gynnig sy'n adlewyrchu eu gwerth i'r wlad, a rhaid i Lywodraeth y DU ei ariannu'n llawn. Wedi'r cyfan, fel y mae Dai Lloyd eisoes wedi bod yn dweud wrthym, maent wedi dod o hyd i arian yn ystod y pandemig hwn ar gyfer llawer o bethau eraill: biliynau ar gyfer system olrhain wedi'i phreifateiddio ond sydd wedi methu i raddau helaeth; codiad cyflog sylweddol i Dominic Cummings; ac a yw'n dal i fod yn dri ffotograffydd swyddogol i'r Prif Weinidog? Ac wrth gwrs, £2 filiwn ar gyfer ystafell y wasg yn Stryd Downing. Ac ar y pryd, roedd gweithwyr y GIG yn gweithio ymhell y tu hwnt i'w dyletswydd yn achub bywydau ac yn ein cadw'n ddiogel. Gwnaethant achub bywyd y Prif Weinidog Boris Johnson hyd yn oed, ac fe fu yntau'n curo dwylo cyn cau'r drws yn glep arnynt. Mae cynnig cyflog o 1 y cant yn warth ar y rhai a wnaeth y penderfyniad hwnnw, ond rwy'n gobeithio y cânt eu cywilyddio i wneud yn well, oherwydd fe allwn ni wneud yn well, fel y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi dangos heddiw drwy gyhoeddi bonws o £500 i holl staff y GIG a gofal cymdeithasol, i gydnabod eu hymdrechion yn ystod y pandemig.
Lywydd, a gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch nad yw Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth y DU, wedi anghofio'r gweithlu gofal cymdeithasol a'i bod yn gweithio gydag undebau llafur a'r sector i sicrhau gwelliannau i bobl sy'n gofalu am ein hanwyliaid pan fyddant fwyaf agored i niwed? Yn fy mhrofiad i, gwn y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, y Gweinidog iechyd a'r undebau llafur yn cydweithio i ddangos bod Cymru'n genedl decach, yn genedl a fydd yn gwobrwyo'r rhai a'n helpodd drwy'r adegau mwyaf tywyll yn diweddar. Ond gadewch inni beidio â'i gwneud yn hawdd i Lywodraeth y DU am un funud. Hwy sy'n dal llinynnau'r pwrs ar gyfer hyn, a rhaid eu dwyn i gyfrif a'u gwneud i dalu. Bydd gweithredu'n siarad yn llawer uwch nag unrhyw eiriau.