Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 17 Mawrth 2021.
O ran deall effeithiau COVID-19 ar iechyd meddwl, rydym yn parhau i gryfhau'r trefniadau a roddwyd ar waith gennym ar ddechrau'r pandemig. Mae'r rhain yn cynnwys cymorth dadansoddol i ganfod y dystiolaeth ddiweddaraf o ganlyniadau arolygon poblogaeth, yng Nghymru ac yn y DU yn ehangach. Roedd Caroline yn llygad ei lle yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos nad yw pobl Prydain wedi ymdopi â hyn cystal â rhai gwledydd eraill. Rwyf hefyd wedi cynnull grŵp bwrdd cyflawni a throsolwg y Gweinidog yn ddiweddar, i roi mwy o sicrwydd i mi ynglŷn â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar gyflawni ein rhaglen waith iechyd meddwl, gan gynnwys ein hymateb parhaus i COVID-19.
Cynrychiolir Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y bwrdd a bydd yn helpu i gryfhau'r cymorth dadansoddol hwnnw. Maent yn bwrw ymlaen â gwaith pwysig i archwilio effaith bresennol a pharhaus COVID-19, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Roedd Caroline yn llygad ei lle yn tynnu sylw at hyn, oherwydd gwyddom fod y comisiynydd plant yn ei harolwg 'Coronafeirws a Fi' wedi canfod bod 67 y cant o blant rhwng 12 a 18 oed wedi dweud eu bod yn drist rywfaint neu'r rhan fwyaf o'r amser. Meddyliwch am y ffigur hwnnw; mae'n ffigur enfawr, ac mae'n rhaid inni roi mesurau ar waith. Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog addysg wedi bod yn gwneud hynny gyda'i dull ysgol gyfan; rydym bellach wedi ehangu hynny i'r dull system gyfan, ac roedd hynny i gyd yn rhannol o ganlyniad i ymateb i'r adroddiad gwirioneddol wych a ysgrifennwyd gan y pwyllgor plant, 'Cadernid meddwl'. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fframwaith ar gyfer adnewyddu gwasanaethau iechyd meddwl gyda'r GIG, a fydd yn rhan o gyd-destun strategaeth adfer gyfan y GIG, a gyhoeddir yn fuan iawn.
Rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig i annog dynion i siarad am iechyd meddwl. Efallai fod rhai ohonoch wedi gweld y rhaglen honno neithiwr; roedd hi'n drawmatig iawn gwylio sut y mae dynion yn ei chael hi mor anodd siarad am faterion iechyd meddwl. Ac rydym hefyd yn cefnogi grwpiau yr effeithiwyd arnynt yn anghymesur gan y pandemig, gan gynnwys grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl sydd ar incwm isel, wrth inni geisio ymestyn y cymorth hwnnw. Caroline, fe sonioch chi am gyfrifoldeb cyflogwyr, ac wrth gwrs, byddant yn chwarae rhan allweddol yn y broses o gefnogi adferiad economaidd a gwella iechyd y boblogaeth oedran gweithio. Bydd ein rhaglen Cymru Iach ar Waith yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, a byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i ddeall yr anghenion presennol, gan gynnwys newidiadau posibl i batrymau gwaith, a fydd yn llywio dyfodol gwaith. Gwn fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n cynnal amrywiaeth o gyfweliadau gyda gweithwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus i lywio ein dull o weithredu ar hyn.
Rydym yn parhau i gydnabod effaith bosibl y pandemig ar gyflogaeth ac iechyd yn y dyfodol. Mae'r prif swyddog meddygol yn cadeirio grŵp i ystyried y materion hyn, a gwyddom fod effaith sylweddol ar iechyd meddwl a llesiant, yn enwedig yn sgil llai o gyfleoedd cyflogaeth, a'r angen i gefnogi gweithredu ar draws ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid. Rwyf wedi siarad o'r blaen am y gwaith rydym wedi'i wneud ar gryfhau ein cynnig cyffredinol ar gyfer problemau iechyd meddwl lefel isel, ac fe gyfeirioch chi at gynnig SilverCloud, cymorth therapi gwybyddol ymddygiadol sydd bellach wedi'i ddefnyddio gan oddeutu 6,000 mewn chwe mis. Rwyf wedi ymrwymo £4 miliwn arall y flwyddyn nesaf i ehangu'r math hwn o gymorth, a chymorth arall—nid ar-lein yn unig, wrth gwrs. Mae'n rhan o gyllid ychwanegol o £42 miliwn y flwyddyn nesaf i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl. Gwyddom y bydd hyn yn cryfhau gwelliannau i wasanaethau o fewn byrddau iechyd, ac yn enwedig yr ymateb y tu allan i oriau, sy'n wirioneddol bwysig yng nghyd-destun cymorth iechyd meddwl.
Mae'n rhaid inni gofio bod yr arian ychwanegol hwn yn dod yn erbyn cefndir y gronfa lawer mwy o arian a ddyrannwn i fyrddau iechyd lleol bob blwyddyn. Er fy mod yn deall yr angen i ddiogelu cymorth arbenigol, rwyf wedi bod yn glir yr hoffwn yn fawr weld newid yn yr adnoddau tuag at atal a chymorth iechyd meddwl cynharach, ac yn arbennig tuag at anghenion plant a phobl ifanc, oherwydd gwyddom at ei gilydd fod 80 y cant o'r problemau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yn dechrau pan fydd pobl yn blant a phobl ifanc.
I gloi, er bod cymorth iechyd meddwl wedi bod ar gael drwy gydol y pandemig, wrth inni ddod allan ohono, rwy'n glir fod angen inni adnewyddu ac ailadeiladu'r ddarpariaeth honno mewn ffordd sy'n llawer mwy ataliol ei natur, ac sy'n adlewyrchu'r anghenion yn ein poblogaeth. Drwy weithio'n agos gyda'r GIG a phartneriaid eraill, credaf y bydd y cyllid ychwanegol sylweddol rydym wedi'i sicrhau yn helpu i wneud hyn mewn ffordd a fydd yn ei wneud yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Felly, diolch unwaith eto, Caroline, am ddod â'r mater pwysig hwn i sylw'r Siambr, ac yn sicr rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ceisio estyn am y cymorth sydd ar gael iddynt. Diolch yn fawr.