1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ychwanegol a ddyranwyd i'r portffolio addysg i gefnogi rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn Rhondda Cynon Taf? OQ56450
Rydym yn darparu £70 miliwn ychwanegol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglen band B y flwyddyn nesaf. Bydd yr arian hwn yn dod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd dros oes rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i £3.7 biliwn, a bydd bron i £400 miliwn o hynny'n cael ei fuddsoddi yn Rhondda Cynon Taf.
Weinidog, erbyn diwedd eleni, a thros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth Llywodraeth Lafur Cymru, wedi buddsoddi neu ymrwymo bron i £0.75 biliwn yn ein seilwaith addysg lleol, yn adeiladu ysgolion newydd, adnewyddu adeiladau, a darparu'r cyfleusterau mwyaf modern i'n plant yn unrhyw le yng Nghymru a'r DU. Ac mae'r hyn y gallwn ei weld yn datblygu yn eithaf rhyfeddol: ysgol newydd gwerth £23 miliwn yn y Pant ym Mhont-y-clun; ysgol gymunedol newydd gwerth £43 miliwn i ddisgyblion tair i 19 oed yn Nhonyrefail; ysgolion newydd ym Mhenrhiwfer—£7.4 miliwn; Llwyncrwn yn y Beddau—£3.5 miliwn; buddsoddiad yng Ngholeg y Cymoedd; ac ysgolion newydd ar y gweill yn ysgol uwchradd Pontypridd, ysgol Hawthorn; cae 3G a thrac rhedeg ysgol gyfun Bryn Celynnog—£1.3 miliwn; a llawer iawn mwy. Weinidog, gallaf eisoes weld effaith y buddsoddiadau hyn ar ein myfyrwyr, eu morâl, eu hyder, a'u balchder yn eu hysgolion. A allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn y Senedd nesaf, yn parhau i fuddsoddi mewn addysg ac yn darparu'r cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf y mae ein myfyrwyr yn eu haeddu?
Yn sicr, gallaf ddarparu'r sicrwydd a'r hyder hwnnw i Mick Antoniw y prynhawn yma. Ac rwy'n credu bod dim ond rhestru'r buddsoddiad a wnaed yn Rhondda Cynon Taf yn dangos pa mor uchelgeisiol rydym wedi bod hyd yn hyn, ond mae hefyd yn rhoi syniad o'r math o fuddsoddiad y byddem yn awyddus i’w wneud yn y dyfodol. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn yr ystâd ysgolion drwy raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. O'r cyfanswm o £3.7 biliwn o fuddsoddiad, bydd £2.3 biliwn yn cael ei fuddsoddi ym mand B dros y blynyddoedd i ddod. A lansiwyd band B y rhaglen, wrth gwrs, ym mis Ebrill 2019, gyda chyfnod adrodd dangosol o bum mlynedd. Ac mae'r buddsoddiad o £2.3 biliwn yn gyfuniad o refeniw a chyfalaf traddodiadol o dan y model buddsoddi cydfuddiannol. Ei nod, wrth gwrs, yw darparu 200 o adeiladau newydd a phrosiectau adnewyddu mawr ledled Cymru, sydd, yn fy marn i, yn nodi lefel yr uchelgais ar gyfer y dyfodol, a chyfnod hynod gyffrous yn y blynyddoedd i ddod.
Weinidog, rwy'n siŵr y bydd yn rhyddhad ichi glywed nad wyf yn ymgeisydd yn yr etholiad, felly nid wyf am ddarllen fy anerchiad etholiadol; af ymlaen at gwestiwn priodol. Pan roddir symiau mawr o arian at ddefnydd y cyhoedd, credaf ein bod angen y gwerth mwyaf am y bunt Gymreig. Ac yma, rwy'n canmol cyngor RhCT am y ffordd y maent wedi defnyddio peth o'r arian hwn i hyrwyddo, drwy raglen yr ysgolion, cynefin ecolegol, y defnydd dychmygus o dechnolegau, cysylltedd â blaenoriaethau eraill fel lleoliadau gofal plant Cymraeg eu hiaith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â’r defnydd deublyg o gyfleusterau chwaraeon fel eu bod ar gael i'r gymuned hefyd. Ac mae angen inni ddefnyddio ein gwariant cyhoeddus yn y modd hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gwerth mwyaf posibl amdano.
Rwy'n cytuno'n llwyr â David Melding ar y pwynt hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, pan fyddwn yn buddsoddi yn ein hystâd ysgolion ac yn ein hystâd colegau, rydym yn buddsoddi yn nyfodol y bobl ifanc hynny, a dyna’n sicr yw’r flaenoriaeth. Ond mae cymaint yn fwy o fuddion rydym yn eu mwynhau hefyd—er enghraifft, y buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn datgarboneiddio, i gefnogi bioamrywiaeth, ac mae hynny oll yn ganolog i'n hymagwedd. A bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn bwysig iawn yng nghamau nesaf ein rhaglen adeiladu ysgolion yma yng Nghymru. Ac mae'r model hwnnw'n canolbwyntio'n gryf ar sicrhau’r buddion ychwanegol hynny—y buddion cymunedol hynny—boed yn dargedau datgarboneiddio neu fioamrywiaeth uchelgeisiol, neu'r buddion eraill hynny, gan gynnwys sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu elwa ar gyfleoedd prentisiaeth a chyfleoedd dysgu. Felly, yn sicr, nid oes a wnelo hyn â brics a morter yn unig; mae'n ymwneud â phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.