Band Cyfradd Sero y Dreth Trafodion Tir

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:55, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf fod Mark Reckless wedi codi pwynt da iawn o ran sut rydym yn bywiogi’r farchnad dai yng Nghymru. Clywaf yr hyn a ddywedwch ynglŷn â’r ffaith bod y farchnad dai yn wahanol yma i'r ochr draw i'r ffin, ond serch hynny, mae arni angen yr ysgogiad y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i sicrhau drwy gymhwyso’r band cyfradd sero tan ddiwedd 2021. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi edrych eto ar hyn a’i gadw dan arolwg a gweithredu'n unol â’r dystiolaeth? Oherwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn sicr, rwy'n pryderu y gallai'r polisi hwn gael effaith fwy negyddol nag mewn rhannau eraill, a chredaf fod achos i’w wneud dros ymestyn y rhyddhad tan y bydd yr economi mewn gwell cyflwr.