Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 17 Mawrth 2021.
Wel, mae'r holl gyfraddau a’r bandiau hyn yn nhrethi Cymru yn cael eu hadolygu'n gyson. Disgwylir i’r estyniad i’r gostyngiad yn y dreth trafodiadau tir fod o fudd i oddeutu 4,000 yn ychwanegol o brynwyr cartrefi yma yng Nghymru, a hyd at a chan gynnwys mis Ionawr, mae oddeutu 10,000 o brynwyr cartrefi eisoes wedi elwa o'r gostyngiad dros dro a gyhoeddais y llynedd. Felly, mae nifer sylweddol o aelwydydd eisoes wedi elwa ohono, a dim ond oddeutu chwarter yr holl brynwyr tai ar hyn o bryd sy'n talu unrhyw dreth trafodiadau tir o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaed y llynedd ar hyn. Ond fel rwy'n dweud, pan fydd y cyfraddau arferol—os mynnwch—yn dychwelyd, bydd gennym sefyllfa gymharol hael yma yng Nghymru o hyd.