Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:38, 17 Mawrth 2021

Diolch, Llywydd. Yn yr wythnosau diwethaf, mae cynghorau Cymru wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â lefel treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny ar amser mor anodd i gymaint o bobl y maen nhw yn eu gwasanaethu. Ydy'r Gweinidog yn gallu dweud wrthyf i a ydy hi'n credu bod treth cyngor yn decach rŵan nag oedd hi pan ddaeth hi'n Weinidog cyllid yn 2018?