1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Mawrth 2021.
Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Yn yr wythnosau diwethaf, mae cynghorau Cymru wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â lefel treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny ar amser mor anodd i gymaint o bobl y maen nhw yn eu gwasanaethu. Ydy'r Gweinidog yn gallu dweud wrthyf i a ydy hi'n credu bod treth cyngor yn decach rŵan nag oedd hi pan ddaeth hi'n Weinidog cyllid yn 2018?
Mae'r dreth gyngor yn decach nag y bu drwy gydol y cyfnod datganoli oherwydd y gwaith aruthrol rydym wedi'i wneud i sicrhau bod yr agenda'n fwy teg. Rhoddaf rai enghreifftiau o sut rydym wedi cyflawni hynny. Er enghraifft, rydym wedi sicrhau bod pobl ifanc sy'n gadael gofal bellach wedi'u heithrio rhag talu’r dreth gyngor tan eu bod yn 25 oed. Rydym wedi sicrhau na fydd carchar yn gosb i bobl nad ydynt wedi talu’r dreth gyngor. Yn amlwg, nid yw methu talu’r dreth gyngor yn eich gwneud yn droseddwr; mae'n golygu eich bod mewn amgylchiadau anodd iawn. Rydym wedi gweithio gyda llywodraeth leol ledled Cymru i ddatblygu protocol sy'n golygu y byddant yn gweithio gyda phobl na allant dalu’r dreth gyngor yn hytrach gwŷs i'r llys fel cam cyntaf. Felly, rydym wedi cymryd y camau hynny. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gennym gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ar waith, sy'n gynllun llawer gwell na'r un sydd i’w gael dros y ffin, ac mae'n cefnogi mwy na 220,000 o aelwydydd ledled Cymru gyda biliau’r dreth gyngor.
Dwi'n gwerthfawrogi ymdrechion y Gweinidog i roi sglein ar bethau, ond beth dwi'n ei weld yn fanna ydy cyfaddefiad bod angen cymaint o gamau lliniaru mewn lle oherwydd nad yw treth cyngor yn deg yn sylfaenol. Yr ateb—os oes yna ffasiwn beth ag ateb cywir—ydy doedd treth cyngor ddim yn deg pan ddaeth hi i'r swydd, a dydy o'n dal ddim yn deg heddiw. Oherwydd y sefyllfa amhosib y mae cynghorau ynddyn nhw, a'r ffordd mae treth cyngor yn ffitio mewn i'r gwasgu cyffredinol sydd wedi bod ar gyllid cyhoeddus, mae biliau treth cyngor eto yn mynd i fyny i ddwbl chwyddiant a mwy eto ar draws Cymru, yn amrywio o ryw 2.65 y cant o gynnydd yn Rhondda Cynon Taf i bron 7 y cant yn Wrecsam. Dwi a Phlaid Cymru wedi dadlau y gallai ac y dylai hyn fod wedi cael ei osgoi eleni. Buasai gwario, o bosib, ryw £100 miliwn o arian sydd ddim wedi cael ei glustnodi i rewi treth cyngor i bawb ar yr amser anodd yma wedi bod yn gam gwerthfawr o ran helpu pobl efo'r ymateb i COVID. A gallaf i ddim honni ei fod o'n rhywbeth arloesol iawn gen i; mae Llywodraeth yr Alban yn gwneud hyn. Pam y gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru benderfynu peidio?
Wel, y cwestiwn a ofynnodd Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn cyntaf oedd ‘A yw'r dreth gyngor yn decach nag yr oedd pan ddeuthum i'r swydd?’ a'r ateb i hynny, yn ddiymwad, yw ydy. Y cwestiwn na ofynnodd i mi oedd 'A yw treth gyngor yn deg?’, gan y byddwn wedi ateb drwy ddweud bod y dreth gyngor yn dreth atchwel mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod wedi gweithio'n galed iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyflawni cyfres o brosiectau ymchwil ar ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Cyhoeddais ganfyddiadau’r gwaith hwnnw ar 24 Chwefror, ac roedd yn crynhoi’r holl waith rydym wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i archwilio diwygiadau i’r dreth gyngor, ac mewn gwirionedd, i ardrethi annomestig a'r system lywodraeth leol ehangach. Mae'n ystyried dulliau amgen o godi refeniw yn lleol, megis treth gwerth tir a threth incwm leol, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer cadw’r systemau presennol a’u gwella’n sylweddol. Mae hefyd yn nodi dyheadau ar gyfer sut y dylai systemau cyllido weithio yn y dyfodol, ac mae'r rheini'n systemau a ddylai fod yn decach ac yn fwy blaengar, sy’n cryfhau atebolrwydd lleol ac yn darparu sylfaen gynaliadwy i wasanaethau lleol, ac wrth gwrs, dylent fod yn syml fel y gall pobl eu deall. Felly, yn amlwg, nid dyma ddiwedd y daith o ran sicrhau bod y dreth gyngor yn decach. Rydym wedi cychwyn gwaith ymchwil a fydd yn llywio’r Llywodraeth nesaf o ran y camau y gallai fod eisiau eu cymryd, ac mae rhai ohonynt yn gamau eithaf radical, ond serch hynny, maent yn darparu cyfle arwyddocaol i wella'r system yn fy marn i.
Diolch. Doedd yna ddim cyfeiriad at y rhewi treth cyngor yn y fan honno. Rydym ni wedi gwneud ein barn ni yn glir ar hynny. Cam dros dro ydy hynny, wrth gwrs, ac mae eisiau meddwl yn ofalus iawn sut i ddiwygio trethi lleol ar gyfer yr hirdymor. Dydy o ddim yn beth gwleidyddol hawdd i'w wneud, ond rydym ni yn sôn fan hyn am drio mynd i'r afael efo anghydraddoldebau mawr, a, hyd yn oed efo camau lliniaru, rydyn ni'n gwybod, yn ôl yr Institute for Fiscal Studies, fod 10 y cant tlotaf cymdeithas yn talu rhyw 8 y cant o'u hincwm mewn treth cyngor, trwch y boblogaeth—y 50 y cant wedyn—yn talu rhyw 5 y cant o'u hincwm, a'r 40 y cant cyfoethocaf dim ond yn talu rhyw 2 y cant. Rŵan, mae'r Gweinidog wedi dweud eu bod nhw wedi bod yn cael trafodaeth ynglŷn â hyn. Rydych chi mewn grym ers 1999. Sut mae Llywodraeth Lafur ar ôl Llywodraeth Lafur wedi bod mor barod i ganiatáu i'r anghydraddoldebau yma barhau?
Wel, yn fy ateb cyntaf, nodais rai o'r camau rydym wedi'u cymryd er mwyn gwneud y dreth gyngor yn decach, ac maent yn gamau sylweddol. Mae'r protocol, y gwnaethom gytuno arno gydag awdurdodau lleol, wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt os na allant dalu’r dreth gyngor, neu os ydynt yn cael trafferth gwneud hynny. Buom yn gweithio gyda MoneySavingExpert.com i sicrhau bod pobl a chanddynt gyflyrau, a allai gynnwys dementia er enghraifft, yn gallu cael cymorth i dalu’r dreth gyngor. Felly, rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod y dreth gyngor yn decach yn ystod tymor y Senedd hon.
A gwn fod Rhun ap Iorwerth yn cydnabod pa mor sylweddol ac enfawr yw’r dasg o ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Mae'n debyg y byddai'n cymryd tymor cyfan o bosibl i newid y system yn llwyr pe baem yn dilyn rhai o'r llwybrau anos rwyf wedi'u disgrifio ac a archwiliwyd gennym, megis y dreth gwerth tir, er enghraifft. Mae honno'n gryn fenter. Felly, yn amlwg, mae opsiynau i’w cael ar gyfer y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd y pleidiau’n nodi eu barn ar sut system y dylid ei chael yn y dyfodol. Ond nid oes un o'r pethau hyn yn hawdd i'w gwneud, a bydd angen cryn dipyn o waith er mwyn gwneud pob un ohonynt dros gyfnod hir o amser.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae adroddiad dadansoddi cyllid Cymru y mis hwn ar oblygiadau cyllideb y DU ar gyfer 2021 i Gymru a chyllideb Cymru yn nodi bod Llywodraeth Cymru, wedi gadael £610 miliwn o wariant dydd i ddydd heb ei ddyrannu yng nghynlluniau’r Gyllideb Derfynol. Gyda chyllid canlyniadol ychwanegol o Gyllideb y DU a newidiadau i refeniw datganoledig rhagamcanol…golyga hyn fod gan Lywodraeth Cymru oddeutu £1.3 biliwn ar hyn o bryd i'w ddyrannu mewn cyllidebau atodol yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae eich datganiad ysgrifenedig ar 10 Mawrth, sy’n cyhoeddi £380 miliwn yn ychwanegol o ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan bandemig COVID-19 yn 2021-22 yn nodi bod hyn yn,
‘gwneud defnydd llawn o’r cyllid canlyniadol ar gyfer Cymru a ddeilliodd o Gyllideb y Canghellor ar 3 Mawrth.’
Sut rydych chi'n esbonio'r gwahaniaeth ymddangosiadol hwn felly, a pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddarpariaeth ehangach i fusnesau o fewn cynllun ar gyfer dod allan o’r cyfyngiadau symud o'r gyllideb a gariwyd ymlaen sy'n weddill ac sydd ar gael i chi?
Gallaf egluro hynny'n hawdd iawn, oherwydd mae'r cyllid sydd ar gael i ni y flwyddyn nesaf yn cynnwys y cyllid a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, yn ogystal â’r mwy na £600 miliwn y gallwn ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf o eleni, oherwydd y penderfyniadau da rydym wedi'u gwneud wrth reoli’r gyllideb. Felly, dros y ffin, fe fyddwch wedi gweld dull cwbl warthus Llywodraeth y DU o fynd ati i olrhain cysylltiadau. Yma yng Nghymru, mae wedi bod yn wasanaeth lleol a ddarperir gan fyrddau iechyd, gan awdurdodau lleol, gan sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru a sicrhau hefyd fod y gweithwyr hynny'n cael eu cyflogi ar delerau ac amodau da. Ac mae hynny wedi golygu bod ein system wedi bod yn rhatach o lawer ac yn fwy effeithiol o lawer, mae’n rhaid imi ddweud, a hefyd fod modd rhyddhau arian i ni ei wario y flwyddyn nesaf, gan roi’r sicrwydd y maent ei angen i awdurdodau lleol, a’r sicrwydd y mae ei angen i iechyd, ac yn bwysig, i ganiatáu imi glustnodi £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer cymorth i fusnesau.
Rwy'n fwy na pharod i drafod perfformiad cymharol y Llywodraethau ar faterion iechyd yn ystod y pandemig, ond roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â chymorth i fusnesau a'r bwlch ymddangosiadol rhwng eich datganiad, fod y cyllid canlyniadol i Gymru wedi'i ddefnyddio’n llawn, pan fo ffigurau Dadansoddi Cyllid Cymru yn awgrymu bod y ffigurau'n uwch o lawer.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r meini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer grantiau i fusnesau llety hunanddarpar fis Ebrill diwethaf, dywedodd prif weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn wrthyf fod y newid yn y canllawiau wedi'i gynllunio i sicrhau nad oedd cynghorau'n talu grantiau i bobl a oedd wedi tynnu eu heiddo oddi ar gofrestr y dreth gyngor a newid i dalu ardrethi busnes er mwyn osgoi talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, a bod y cyngor yn defnyddio'r disgresiwn a ganiateir gan y canllawiau i sicrhau eu bod yn talu busnesau llety hunanddarpar dilys ac nad ydynt yn gwahardd ceisiadau yn awtomatig pan na all y busnesau ddangos bod yr eiddo'n cynhyrchu o leiaf 50 y cant o incwm blynyddol y perchennog.
Pan ysgrifennais atoch o'r blaen ynglŷn â chymhwysedd, fe wnaethoch gadarnhau yn ysgrifenedig hefyd nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i gadw taliadau yn ôl, os ydynt yn fodlon fel arall fod y cais wedi’i wneud gan fusnes llety hunanddarpar dilys. Fodd bynnag, mynegwyd barn wrthyf yn ddiweddar na ddylai awdurdodau lleol ddefnyddio disgresiwn ynglŷn â dyfarnu grant ai peidio heblaw bod busnes hunanddarpar yn gwneud cais sydd ond ychydig yn fyr o fodloni un o'r tri maen prawf, a byddent yn disgwyl i awdurdod lleol ddefnyddio ei ddisgresiwn mewn amgylchiadau o'r fath yn unig. Er eglurder, a wnewch chi gadarnhau felly nad yw eich ymateb gwreiddiol i mi ac ymateb prif weithredwr Ynys Môn wedi newid?
Holl bwynt y gronfa ddewisol yw ei bod yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol allu dyrannu grantiau i fusnesau nad ydynt wedi gallu cael cyllid drwy’r cynllun grantiau busnes ardrethi annomestig. Ac mae'n rhoi cryn dipyn o ddisgresiwn i awdurdodau lleol wneud y dyraniadau hynny i fusnesau y credant eu bod yn bwysig i'r gymuned leol ac y teimlant fod ganddynt sail ddilys dros gael cymorth ariannol. Nid lle Llywodraeth Cymru yw cyfarwyddo awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer y disgresiwn rydym wedi'i roi iddynt o fewn y gronfa.
Na, yn hollol, ac nid oedd y cwestiwn yn ymwneud â chyfarwyddo awdurdodau lleol; dim ond cydnabod bod y disgresiwn ganddynt i’w arfer. Felly, diolch am gadarnhau hynny.
Nodais mewn cwestiwn i chi y mis diwethaf, er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn yn wreiddiol i gronfa argyfwng yr hosbisau, fod hyn yn llai hael na chronfeydd cyfatebol ym mhob un o wledydd eraill y DU ac yn sylweddol is na'r cyfanswm a ddyrannwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyllid canlyniadol o gymorth Llywodraeth y DU i hosbisau yn Lloegr. Fodd bynnag, mae ein hosbisau a’n sector gofal lliniarol cymunedol wedi parhau i ddarparu gofal a gwasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig.
Roedd hosbisau yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £4.2 miliwn erbyn y mis hwn, ond ar ôl imi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yma fis diwethaf, dim ond £3 miliwn yn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’w cefnogi. Yn ychwanegol at hynny, nid oedd unrhyw arwydd yn eich cyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22 o gymorth parhaus i hosbisau allu cynnal eu gwasanaethau hanfodol, er gwaethaf eu diffyg cyfunol amcangyfrifedig o £6.1 miliwn yn ystod 2021-22.
Mewn ymateb i AS Llafur y mis diwethaf, nododd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys fod y gwerth £249 miliwn o gyllid newydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer hosbisau wedi cynhyrchu £47 miliwn mewn cyllid canlyniadol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys £15 miliwn i Lywodraeth Cymru. Pam, felly, nad ydych wedi dyrannu neu hyd yn oed wedi ychwanegu at y £5.7 miliwn coll ar gyfer hosbisau yng Nghymru, i ymateb i'w hanghenion cyllido brys a'u galluogi i gyflawni mwy, a chynhyrchu gostyngiadau mwy drwy hynny yn y costau i GIG Cymru?
Wel, mae Llywodraeth Cymru’n derbyn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ym mhob maes gwariant sy’n rhan o’r cyd-destun datganoledig, ac er enghraifft, fe roddaf i chi'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu mwy o arian i fusnesau nag rydym wedi'i dderbyn mewn cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU.
Hosbis.
Rwy'n dangos i Mark Isherwood nad blwch postio ar gyfer cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ydym ni. Daw'r cyllid canlyniadol mewn bloc o gyllid y gallwn ei ddyrannu wedyn yn unol â'r anghenion yma yng Nghymru.
Nawr, dyrannwyd cyllid gennym i hosbisau yma yng Nghymru ar sail trafodaethau a gawsom gyda'r sector hosbisau i ddeall yr angen ariannol a nodwyd ganddynt, a dyrannwyd y pot o arian yn unol â hynny. A dyna'r trafodaethau a gafodd adran fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd gyda'r sector hosbis yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae ein sector hosbisau yma yng Nghymru yn llai na'r sector dros y ffin. Felly, nid yw'n wir fod pob ceiniog o gyllid canlyniadol a gawn yn mynd i'r un maes gwariant yn union.
Nawr, os yw’r hosbisau'n dweud wrthych nad yw'r cyllid y maent yn ei dderbyn yn diwallu eu hanghenion, yna yn amlwg, byddem yn awyddus i gael y trafodaethau hynny gyda'r sector hosbisau, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd yn trafod hynny gyda'r sector er mwyn deall eu hanghenion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond fel y dywedaf, rhoddwyd pecyn cyllido ar waith gennym ar gyfer y sector drwy drafod ac ymgynghori â'r sector.