Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch am yr atebion hynny, Weinidog. Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'r diwydiant wedi bod yn colli £100 miliwn mewn refeniw bob wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi na allwn danbrisio difrifoldeb y caledi economaidd y mae hyn wedi'i achosi i fusnesau bach—pobl sydd wedi treulio oes yn adeiladu eu mentrau, yn cyflogi staff lleol ac yn chwarae rhan fawr mewn cadwyni cyflenwi lleol. O ran adeiladu'n ôl yn well a sicrhau adferiad economaidd cryf, a wnewch chi edrych ar y sefyllfa ardrethi annomestig yn ei chyfanrwydd ac ystyried yn benodol a allech ddileu'r ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, gan dynnu'r baich hwnnw oddi ar ysgwyddau rhai o'r busnesau lleiaf yn ein heconomi, a rhoi mwy o arian iddynt fuddsoddi yn y dyfodol, buddsoddi mewn staff a helpu'r broses o adeiladu'n ôl yn well?