1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2021.
9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i godi mewn refeniw ers 2016 drwy ardrethi annomestig? OQ56445
Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2020, casglwyd £4.2 biliwn mewn refeniw ardrethi annomestig. Dros yr un cyfnod, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £900 miliwn ar gyfer cynlluniau rhyddhad ardrethi. Dosberthir yr holl refeniw o ardrethi annomestig yng Nghymru i awdurdodau lleol i ariannu gwasanaethau lleol yng Nghymru.
Diolch am yr atebion hynny, Weinidog. Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, mae'r diwydiant wedi bod yn colli £100 miliwn mewn refeniw bob wythnos yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi na allwn danbrisio difrifoldeb y caledi economaidd y mae hyn wedi'i achosi i fusnesau bach—pobl sydd wedi treulio oes yn adeiladu eu mentrau, yn cyflogi staff lleol ac yn chwarae rhan fawr mewn cadwyni cyflenwi lleol. O ran adeiladu'n ôl yn well a sicrhau adferiad economaidd cryf, a wnewch chi edrych ar y sefyllfa ardrethi annomestig yn ei chyfanrwydd ac ystyried yn benodol a allech ddileu'r ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, gan dynnu'r baich hwnnw oddi ar ysgwyddau rhai o'r busnesau lleiaf yn ein heconomi, a rhoi mwy o arian iddynt fuddsoddi yn y dyfodol, buddsoddi mewn staff a helpu'r broses o adeiladu'n ôl yn well?
Diolch ichi am godi'r mater hwnnw. Credaf fod sawl peth pwysig yno, gan gynnwys ein hymateb uniongyrchol o ran ardrethi annomestig. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi rhewi'r lluosydd ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac wrth gwrs mae hynny'n rhoi hwb i fusnesau bach. Hefyd, wrth gwrs, rwyf wedi darparu'r rhyddhad ardrethi o 100 y cant i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae'r cymorth hwnnw ynddo'i hun yn darparu dros £360 miliwn o ryddhad i drethdalwyr ledled Cymru. Wrth gwrs, rydym wedi eithrio'r archfarchnadoedd mawr, oherwydd mae'n amlwg nad oes angen y math hwnnw o gymorth arnynt hwy ar yr adeg hon. Mae gennym becyn parhaol o ryddhad ardrethi o dros £239 miliwn y flwyddyn ac mae dros ei hanner yn mynd tuag at y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, gan ostwng biliau i sero ar gyfer trethdalwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000, ac ar sail tapr wedyn hyd at £12,000. Mae hwnnw'n becyn hael ac mae canran fawr o fusnesau'n elwa ohono drwy beidio â gorfod talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ond fel roeddwn yn ei ddisgrifio yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth yn gynharach y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni cyfres bwysig o fentrau ymchwil ac wedi comisiynu ymchwil i sicrhau bod gennym yr wybodaeth rydym ei hangen i feddwl o ddifrif am ddyfodol cyllid lleol. Rydym yn edrych ar ardrethi annomestig a'r dreth gyngor a sut y dylai'r rheini fod yn y dyfodol er mwyn sicrhau, wrth inni symud ymlaen, fod y system mor flaengar â phosibl a sicrhau ei bod yn parhau, wrth gwrs, i ddod â chyllid i mewn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwasanaethau lleol, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n flaengar ac yn deg.