Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 17 Mawrth 2021.
Holl bwynt y gronfa ddewisol yw ei bod yn rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol allu dyrannu grantiau i fusnesau nad ydynt wedi gallu cael cyllid drwy’r cynllun grantiau busnes ardrethi annomestig. Ac mae'n rhoi cryn dipyn o ddisgresiwn i awdurdodau lleol wneud y dyraniadau hynny i fusnesau y credant eu bod yn bwysig i'r gymuned leol ac y teimlant fod ganddynt sail ddilys dros gael cymorth ariannol. Nid lle Llywodraeth Cymru yw cyfarwyddo awdurdodau lleol ynglŷn â sut y maent yn arfer y disgresiwn rydym wedi'i roi iddynt o fewn y gronfa.