Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell, am araith gref ac angerddol. Fel menyw yr un oedran â Sarah Everard, rydych wedi ein galluogi i gofio eto, fel y gwneuthum innau ddoe, llofruddiaeth ddiweddar—llofruddiaeth erchyll, ofnadwy Sarah Everard. Mae wedi bod yn ysgytwad i bob un ohonom, ac wedi ailgynnau’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â diogelwch menywod, a byddwch wedi gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe. Roedd yn ddatganiad ar ddiogelwch menywod yng Nghymru, ac mae'n ein hatgoffa, wrth gwrs, fel y dywedais yn fy natganiad, fod trais yn erbyn menywod a merched yn rhy gyffredin o lawer. Mae wedi amlygu unwaith eto yr effaith y mae trais a cham-drin yn ei chael ar fywydau bob dydd menywod. Ac felly, fy ailymrwymiad unwaith eto i'n deddfwriaeth arloesol—a diolch i Nick Ramsay; cododd hyn ddoe, fel y gwnaeth Aelodau eraill o bob rhan o’r Senedd—yw mai ein hymrwymiad yng Nghymru yw dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Credaf ei fod hefyd yn rhybudd i bob un ohonom fod yn rhaid inni anrhydeddu bywyd Sarah drwy wneud newidiadau i gymdeithas a diwylliant, a dyna a ddywedais yn fy natganiad. Ond credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedais ddoe, fy mod wedi galw ar Lywodraeth y DU, ac ar Senedd y DU yn wir, i sicrhau bod y Bil hwn yn Fil a ddylai gryfhau diogelwch menywod a merched, ac wrth gwrs, dyma gyfle yn awr i wneud sylwadau ar hynny. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai'r Bil a gyflwynir, y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, fynd ati i gryfhau'r system cyfiawnder troseddol i ddiogelu menywod a merched, a hefyd—i’r un graddau, byddwn yn dweud, a dywedais hyn ddoe—yn galluogi pobl i barhau i fynegi eu pryderon yn rhydd.
Rwy'n cytuno â chi hefyd fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fel y gwnaeth ein cynghorydd cenedlaethol gwych, Yasmin Khan, ddydd Sul. Ar sawl achlysur, soniodd am yr angen i newid diwylliant, a chydnabu fod hwn yn fater iechyd y cyhoedd, fod yn rhaid inni ddwyn troseddwyr i gyfrif, fod yn rhaid inni gael system wedi'i llywio gan drawma, a hefyd na allwn gamu o'r neilltu a gwneud dim. Dyna pam fod gennym ymgyrch gref Paid Cadw'n Dawel fel rhan o'n deddfwriaeth a’n strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwyf hefyd yn falch iawn o'r ffaith bod gennym bellach, yn ein cwricwlwm newydd, ym Mil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), ddyletswydd statudol i sicrhau bod codi ymwybyddiaeth o addysg cydberthynas iach a rhywioldeb yn rhan o'r cwricwlwm i blant hyd at 16 oed. Bydd yn helpu pobl ifanc i herio agweddau ac ymddygiad gwenwynig.