Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Weinidog. Mae hwn yn fater personol iawn i mi, yn anad dim gan fy mod yr un oedran â Sarah Everard, a gafodd ei lladd mewn modd mor erchyll ger Llundain yn ddiweddar, ac y cafodd yr wylnos i gofio amdani ei drin mewn ffordd mor ofnadwy gan yr heddlu. Lladdwyd o leiaf saith o fenywod gan ddynion yng Nghymru eleni yn unig. Rydym yn dal i gyfrif menywod sydd wedi marw, gan gynnwys Wenjing Lin, a fu farw yn Nhreorci. Mae fy mhryder ynglŷn â'r Bil plismona'n deillio nid yn unig o gyd-destun yr ymosodiadau ar yr hawl i brotestio'n heddychlon, er bod y rheini'n peri pryder, ond mae gennyf bryderon dybryd ynglŷn â sut y caiff trais gan ddynion yn erbyn menywod ei drin. Nid yw'n Fil sy'n canolbwyntio ar oroeswyr; mae'n rhoi cosbau mwy i bobl sy'n ymosod ar gerfluniau na’r rheini sy'n ymosod ar fenywod. Byddai dedfrydau trymach yn cael eu rhoi am dipio anghyfreithlon nag am stelcio. Roeddwn yn rhan o’r ymchwiliad a’r ymgyrch yn 2012 a arweiniodd at gyflwyno deddfau newydd ar stelcio, a Weinidog, mae’r datblygiad hwn yn sarhad ar yr holl oroeswyr a chwaraeodd ran mor hanfodol yn yr ymgyrch honno.
Un peth rydym wedi’i ddysgu yn yr wythnos ddiwethaf yw bod llywio drwy ein hofnau ac addasu ein risg o drais yn weithred normal i fenywod yng Nghymru, fel ym mhob rhan o'r DU. Mae menywod a merched ifanc yn cael eu dysgu i beidio â gwneud rhai pethau penodol yn hytrach na mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol pam fod trais gan ddynion yn digwydd. Drwy fethu mynd i’r afael ag atal trais gan ddynion yn erbyn menywod, mae’r Bil hwn yn fwy na chyfle a gollwyd; mae'n drychineb a fydd yn digwydd o flaen ein llygaid. Rydym angen dull iechyd y cyhoedd sy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, newidiadau i'r ffordd rydym yn addysgu merched a bechgyn ifanc, newidiadau i'r ffordd y caiff menywod eu portreadu yn y cyfryngau, mewn cylchgronau. Hoffwn ofyn i chi, Weinidog, faint o ddisgresiwn fydd gan heddluoedd Cymru ynglŷn â'r modd y maent yn gweithredu'r Bil hwn. Byddwn hefyd yn gofyn a ydych yn cytuno ag awgrymiadau Chwarae Teg ynglŷn â defnyddio’r cwricwlwm i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhywedd, sicrhau bod canllawiau cynllunio yn nodi diogelwch menywod fel ystyriaeth ganolog wrth gynllunio gofod trefol, a’r angen am fwy o gyllid ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth fel Ask for Angela, sy'n cynnig ffordd i fenywod mewn bariau ddianc rhag sefyllfaoedd peryglus.
Ac yn olaf, Weinidog, ar wahân i’r dull cwbl wahanol hwn y mae'n rhaid i ni ei weithredu yng Nghymru, onid yw'r ddeddfwriaeth hon yn San Steffan yn dangos pam fod angen datganoli plismona a chyfiawnder? Rwyf am gloi gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: os na wnawn rywbeth radical, os nad yw'r erchylltra beunyddiol hwn yn ein cymdeithas yn cael ei unioni, fe fyddwn yn galaru am fwy fyth o fenywod nad ydym erioed wedi eu hadnabod.