Diogelwch Menywod

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:19, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Delyth Jewell am ei chwestiwn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru fersiwn derfynol y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd pan gafodd ei gyflwyno, ddydd Mawrth diwethaf, 9 Mawrth. Rydym yn ystyried y darpariaethau'n fanwl a sut y byddant yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys diogelwch menywod a merched.