7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:50, 17 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o ddweud bod argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd yn fras â'r cynlluniau rydym eisoes yn eu datblygu o fewn y Llywodraeth, ac rydym yn gweithio ar gyfres o argymhellion ac adroddiad a fydd ar gael—strategaeth—ar gyfer y Llywodraeth nesaf ym mis Medi neu fis Hydref. Ac mae meddwl drwy'r holl wahanol elfennau ynddo yn waith cymhleth. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi a chyflwyno cyfres o brosiectau peilot i geisio profi rhai o'r ymyriadau hyn. Mae hyn yn cynnwys Costigan's yn y Rhyl a HaverHub yn Hwlffordd, a nod y ddau yw annog cyflogwyr a gweithwyr i geisio gweithio ynghanol eu trefi lleol. Bydd prosiect arall yn canolbwyntio ar sut y gallwn ddefnyddio gofodau mewn cymunedau gwledig ar draws cwm Tawe.

Mae hyn yn ychwanegol at nifer o fentrau ar draws ardal tasglu'r Cymoedd, megis gofodau lle gallwn weithio wedi ein hamgylchynu gan natur fel rhan o brosiect parc rhanbarthol y Cymoedd yn Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin, ac ym Mharc Bryn Bach yn Nhredegar, yn ogystal â gofod gweithio ar y cyd sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn swyddfeydd Cymdeithas Tai Rhondda ynghanol Tonypandy. Ac ar ben hynny, bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu'r defnydd o ofod yn eu swyddfeydd newydd ym Mhontypridd er mwyn i bobl eraill nad ydynt yn gweithio iddynt dreialu gweithio ar y cyd.

Felly, byddwn yn defnyddio'r prosiectau hyn i fonitro ymarferoldeb a'r awydd i weithio'n lleol, gan roi'r dewis a'r modd i bobl weithio yng nghanol y dref, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle pwysig i gefnogi model economaidd newydd y tu allan i ganol dinasoedd mawr. Wrth gwrs, bydd dinasoedd yn parhau i fod yn bwysig, ond i ardaloedd fel Cymoedd De Cymru sydd wedi brwydro yn erbyn 40 mlynedd o ddad-ddiwydiannu—ac mae hynny'n wir mewn sawl rhan o Gymru—dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i adeiladu model newydd ar gyfer trefi bach a'r stryd fawr mewn trefi y tu allan i'r dinasoedd mawr. Gyda niferoedd mwy a mwy amrywiol o ymwelwyr, daw â chyfleoedd yn ei sgil i ddenu swyddi, gwariant lleol a bywiogrwydd newydd yn ôl i'r ardaloedd hyn, sy'n arbennig o bwysig yn y cyd-destun fod COVID wedi cyflymu diwedd y model seiliedig ar fanwerthu yn unig a welwyd yn ein trefi. Ac mae ein menter Trawsnewid Trefi, buddsoddiad o tua £900 miliwn yn y chwe neu saith mlynedd ddiwethaf, yn dangos ein bod yn ymrwymedig iawn i hyn, ac mae'n gweithio gyda llawer o'r polisïau roeddem eisiau eu cyflawni eisoes. 

Wrth gwrs, mae gweithio ar draws y Llywodraeth bob amser yn berthnasol yma, ac fel y crybwyllwyd eto yn y ddadl gan David Rowlands a chan Suzy Davies, mae'r angen am seilwaith i gefnogi hyn yn hollbwysig, a seilwaith digidol yn enwedig, fel rydym wedi'i ddweud sawl gwaith yn y Siambr ddigidol hon. Nid yw hyn yn gyfrifoldeb datganoledig, ond rydym yn edrych i weld pa werth y gallwn ei ychwanegu i sicrhau bod y gofodau gweithio ar y cyd a sefydlwyd gennym wedi'u galluogi'n ddigidol yn llawn. Ac rwy'n credu bod cyfle gwych, drwy ein cynllun band eang y sector cyhoeddus, i geisio cysylltu â rhwydweithiau rydym eisoes wedi'u creu i sicrhau bod yr agenda hon yn ystyrlon i gynifer o bobl â phosibl. 

Felly, fel y dywedaf, 'dewis', rwy'n credu, yw'r gair pwysig yma. I'r rhan fwyaf o'r rhai a gyflogir yng Nghymru, gwyddom nad yw hwn yn ddewis y gallant ei wneud; nid ydynt yn gallu gweithio gartref. Felly, mae hwn yn fater i leiafrif sylweddol, ond lleiafrif serch hynny, a thrwy ei reoli'n briodol, gall ddod â manteision gwirioneddol i bobl—osgoi straen cymudo, cynyddu hyblygrwydd—i gymunedau, drwy ei ddefnyddio fel cyfle i adfywio'r stryd fawr, ac wrth gwrs, y manteision amgylcheddol a ddaw yn sgil cyfyngu ar dagfeydd a theithiau diangen. A phan fyddwn yn trafod ein strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru yr wythnos nesaf, Ddirprwy Lywydd, fe welwch fod ein targed o 30 y cant o bobl yn gweithio gartref ar sail barhaus yn rhan allweddol o'n cynllun i geisio lleihau ein hallyriadau carbon a chyrraedd ein targedau sero net erbyn 2050. 

Felly, byddwn yn dweud i gloi fod hwn yn ymateb i argyfwng sydd wedi creu cyfleoedd ond sydd hefyd wedi cyflwyno cyfres o heriau. Rydym yn awyddus i gymryd ein hamser i ystyried y rhain, i brofi a threialu dulliau gweithredu, i fod yn ymwybodol iawn o'r effeithiau ar gydraddoldeb, a cheisio troedio'r tir newydd hwn mor ofalus ag y gallwn er mwyn sicrhau ein bod yn harneisio'r manteision ac yn lliniaru'r anfanteision. Diolch.