Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae hwn yn fater o bryder gwirioneddol mewn llawer o gymunedau, ac yn un y gwn ei fod wedi cael ei drafod yn aml yn y Senedd. Mae'r deisebwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod hon yn broblem arbennig o gronig mewn rhai mannau oherwydd lefel yr anghydraddoldeb rhwng incwm lleol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n dymuno prynu cartref cyntaf, a gallu ariannol pobl sy'n ceisio prynu ail gartrefi, cartrefi gwyliau neu fuddsoddi mewn eiddo. Er bod hon yn duedd hirdymor, mae'r deisebwyr yn honni bod sawl ffactor wedi gwaethygu'r broblem yn ddiweddar. Mae'r rhain yn cynnwys twf Airbnb a gwasanaethau tebyg, yn ogystal â newidiadau mwy diweddar a achoswyd gan bandemig COVID-19. Mae'n ymddangos bod y newid i weithio gartref ar raddfa fwy eang yn debygol o gael effeithiau parhaol, gan gynnwys, fel y clywsom yn y ddadl flaenorol, newid hirdymor yn nifer y bobl sy'n gweithio o bell.
Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at enghreifftiau o bentrefi fel Abersoch yng Ngwynedd, lle mae cymaint o eiddo bellach yn gartrefi gwyliau neu'n ail gartrefi fel ei fod yn cael sgil-effeithiau ar gynaliadwyedd ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Maent hefyd yn mynegi pryder am yr effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar y Gymraeg, a chymeriad a chynaliadwyedd cymunedau, yn enwedig oddi allan i'r tymor gwyliau.
Hoffwn bwysleisio bod y deisebwyr yn derbyn nad yw hwn yn fater syml i fynd i'r afael ag ef; maent wedi dweud wrth y Pwyllgor Deisebau eu bod yn deall nad oes atebion cyflym na syml i'r pryderon hyn. Yn eu gohebiaeth fanwl â'r pwyllgor, maent wedi cydnabod bod diwedd tymor y Senedd hon yn prysur agosáu ac y byddai angen ymgynghori a chraffu ar lawer o'u gofynion cyn y gellid eu gweithredu. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi gwneud pwyntiau tebyg yn ei hymatebion ei hun i'r ddeiseb.
Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn pwysleisio bod angen ymdeimlad o frys i ddechrau mynd i'r afael â'r problemau hyn. Maent wedi amlinellu'r camau y credant eu bod yn angenrheidiol yn y tymor byr ac yn hirdymor. Yn hirdymor, maent yn galw am ddiwygio deddfwriaethol—Deddf eiddo i Gymru—a fyddai'n darparu rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai drwy gyfrwng yr awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, maent yn galw am drafodaethau ystyrlon gydag awdurdodau lleol gyda'r nod o baratoi ar gyfer hyn ac i rannu arferion da. Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at gynllun Simple Lettings yn Sir Gaerfyrddin fel un o'r rheini.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio at enghreifftiau, megis y ffordd y mae rhai cynghorau'n gwneud defnydd llawn o'r pŵer i godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi, er enghraifft, Cyngor Sir Penfro, sydd wedi defnyddio'r enillion i gefnogi ymddiriedolaethau tir cymunedol. Fodd bynnag, oherwydd eu barn am frys y sefyllfa, mae'r deisebwyr yn dadlau bod angen cymryd camau pellach ar unwaith. Maent yn croesawu'r cynnydd yng nghyfradd y dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi, ond yn cwestiynu pam nad yw'n fwy nag 1 y cant. Maent yn galw am ddiwygio'r rheolau ar gyfer cofrestru ail gartrefi fel eiddo masnachol, megis drwy gynyddu nifer y diwrnodau y mae'n rhaid eu gosod, er mwyn galluogi mwy o gynghorau i godi premiwm y dreth gyngor heb golli refeniw. Ac yn olaf, maent yn galw ar y Llywodraeth i roi cyngor brys i awdurdodau lleol ynghylch proses y cynllun datblygu lleol er mwyn pwysleisio eu hawliau i bennu amddiffyniadau mewn rhai cymunedau neu i ddefnyddio cymalau perchnogaeth leol.
Hoffwn nodi nifer o ddatganiadau diweddar a gwaith arall gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn sy'n ceisio cydnabod bod problem yn bodoli. Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog sy'n pennu cyfeiriad teithio, yn ogystal ag adroddiad diweddar gan Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe, sy'n craffu ar bolisi presennol ar ail gartrefi. Rwyf hefyd wedi cyfeirio o'r blaen at newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a phremiymau'r dreth gyngor. Y brif ddadl a wneir gan y deisebwyr yw nad yw'r camau hyn yn mynd yn ddigon pell er gwaethaf y croeso sydd iddynt. Maent yn galw ar y Llywodraeth i wneud mwy i ddangos ei hawydd i fynd i'r afael â'r broblem hon, ac i helpu i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio cartref yn eu cymuned eu hunain.
I gloi, credaf y byddem i gyd yn cydnabod na fydd modd datrys y problemau sy'n cael sylw yn y ddeiseb hon drwy un ateb syml. Fodd bynnag, credaf fod y deisebwyr wedi argymell camau ymarferol i'w hystyried, ac rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn gam ymlaen tuag at ystyriaeth bellach o beth arall y gellir ei wneud. Diolch yn fawr.