8. Dadl ar ddeiseb P-05-1056, 'Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 17 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:05, 17 Mawrth 2021

Mae'r sefyllfa ail gartrefi mewn rhai mannau o Gymru yn argyfyngus. Mae hon yn ddadl rŷn ni wedi dod gerbron y Senedd ar gymaint o achlysuron dros y blynyddoedd a misoedd diwethaf, ac mae'r sefyllfa yn un sydd yn gwaethygu. Hyd yn hyn, yn rhy aml, ymateb Llywodraeth Cymru ydy dweud bod angen mwy o ymchwil. Wel, mae hen ddigon o ymchwil wedi digwydd erbyn hyn nes ein bod yn mynd bron yn flinedig. Heb os, y prawf cliriaf o'r angen i weithredu ydy'r dystiolaeth ar lawr gwlad ac effaith ddinistriol problem sydd heb ei daclo yn rhy hir. Mae'r prawf yn y 5,000 o bobl sydd wedi arwyddo'r ddeiseb yma sydd yn gwybod yn iawn beth yw realiti y sefyllfa, a'r prawf ydy pobl sydd ddim yn gallu fforddio tai yn eu cymunedau nhw eu hunain. Dirprwy Lywydd, rwy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd hon, ac mae hon yn broblem ar gyfer trigolion fy ardal i hefyd. Dydw i ddim yn derbyn nad problem Cymru gyfan ydy hon. Mae gorddefnydd, di-reolaeth o ail gartrefi yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Symptom o wladwriaeth sy'n sylfaenol anghyfartal ydy hwn, ac mae Cymru yn gaeth i'r broblem.

Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r Ceidwadwyr gytuno, ond fe ddylai unrhyw Lywodraeth sosialaidd wybod bod sefyllfa lle mae 67,000 o bobl ar restr aros am dŷ, tra bod eraill yn gallu fforddio sawl tŷ, ddim yn iawn. Dylai hyn ein hysgogi ni i gyd i wneud rhywbeth ar frys, dim mwy o ymchwil. Beth sy'n syfrdanol yw nad yw Llywodraeth Cymru, er gwaetha'r geiriau cynnes rŷn ni wedi'u cael—dŷn nhw ddim wedi rhoi unrhyw arwydd clir o'r datrysiadau y byddan nhw'n eu rhoi ar waith. Mae gennym ni lawer o argymhellion, a chytunwn gyda deisebwr y ddeiseb hon bod yn rhaid rhoi rhagor o rymoedd i'n hawdurdodau lleol ym maes cynllunio—mae hynny'n rhywbeth allweddol—fel y mae Cyngor Gwynedd a sawl awdurdod lleol arall o dan arweiniad Plaid Cymru yn eu gwneud.

Ond gwaith Llywodraeth ydy gweithredu argymhellion a chreu newid, ac mae gan ddarpar-Lywodraeth Plaid Cymru gyfan gynllun gweithredu cynhwysfawr, wedi ei gyhoeddi ym mis Medi y llynedd, yn barod i fynd ar ôl yr etholiad ym mis Mai. Mae hynny'n cynnwys newid dosbarthiadau defnydd cynllunio, ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio cyn trosi tŷ annedd yn ail gartref, dyblu'r premiwm ail gartrefi eto, a chau'r bylchau yn y gyfraith sy'n caniatáu i rai beidio talu'r un geiniog o dreth ar rai ail gartrefi, a dod â thai o fewn cyrraedd pobl leol. Aros fyddwn ni i'r Blaid Lafur wneud rhywbeth, unrhyw beth cadarnhaol am y peth, felly mae'n rhaid pleidleisio dros newid mewn Llywodraeth ym mis Mai. Allwn ni ddim aros i San Steffan rannu cyfoeth yn deg a chreu gwlad fwy cydradd. Dyw e ddim am ddigwydd.

Mae angen newid yn y ffordd rŷn ni'n ystyried tai, buaswn i'n ei ddweud, i gloi, Dirprwy Lywydd. Nid llefydd ydyn nhw. Nid adeiladau gwag. Nid buddsoddiad. Lloches ydy tŷ. Lle i atgyfnerthu cymunedau. Fe ymddengys taw dim ond un blaid sydd eisiau gwireddau dyheadau pobl am aros yn eu cymunedau, a Phlaid Cymru ydy'r blaid honno.