Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am y gwaith ar y mater yma. Wrth nodi'r cynnig, dwi'n ymwybodol iawn o'r teimladau cryf, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, am ail gartrefi. Mae'n amlwg bod rhai o'r teimladau hyn yn fwy dwys o ganlyniad i Brexit, y pandemig ac, fel y nodwyd yn y ddeiseb, o ganlyniad i'r niferoedd sy'n rhentu trwy Airbnb.
Dwi'n siŵr y bydd Aelodau'r Senedd yn ymwybodol ein bod ni wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad Dr Simon Brooks ar y mater yma, ac mae'r adroddiad yn rhannu ein safbwynt ni bod hwn yn faes cymhleth, dyw hi ddim syml, ac nad oes yna un ateb i fynd i'r afael â'r broblem. Rŷn ni wedi gweithredu eisoes yn y maes yma, a dwi'n meddwl ei bod hi'n annheg i Siân Gwenllian ddweud nad ydyn ni wedi. Enghraifft o hyn yw cynyddu'r dreth ar drafodiadau tir. Ond rŷn ni wedi gwneud pethau eraill hefyd. Mae sawl agwedd i'r heriau yma: yr economi, twristiaeth, maes cynllunio a pha mor gynaliadwy mae ein cymunedau ni, yn arbennig ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. Ers y pandemig, rŷn ni wedi gweld a chlywed pryderon cynyddol am yr effeithiau y gallai nifer uchel o ail gartrefi eu cael ar rai o'n cymunedau ni, yn enwedig y cadarnleoedd Cymraeg yna.
Fe wnaeth adroddiad Dr Brooks nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ond mae'r adroddiad hefyd yn annog awdurdodau lleol i ystyried y pwerau sydd eisoes ganddyn nhw ac i ddefnyddio'r darpariaethau presennol hynny. A dwi yn gobeithio, o ganlyniad i ddarllen yr adroddiad hwn, ein bod ni i gyd wedi cael gwell dealltwriaeth o'r pwerau sydd gyda ni. Gobeithio y bydd Delyth Jewell, er enghraifft, yn nodi yn adroddiad Dr Brooks y byddai fe'n anghytuno nad yw hon yn broblem sydd yn genedlaethol, ei bod hi yn nodweddiadol yn lleol, ac mae lot o ystadegau gydag e yn dangos hynny.
Mae pwerau cynllunio wedi eu cyfeirio atyn nhw yn y ddeiseb ac yn adroddiad Dr Brooks. Y cyfraniad allweddol mae ein system cynllunio yn ei wneud i'r ffordd mae marchnadoedd tai lleol yn gweithio yw sicrhau bod cyflenwad digonol o safleoedd ar gael ar gyfer cartrefi i bobl lleol. Mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr awdurdodau i asesu anghenion tai eu cymunedau lleol ac i ymateb i'r amgylchiadau penodol yn eu hardaloedd lleol a sicrhau eu bod nhw'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn. Mae hyn yn cael ei wneud mewn rhai awdurdodau eisoes. Er enghraifft, mae gan gynghorau Gwynedd ac Ynys Môn bolisi yn eu cynlluniau datblygu lleol gyda'r bwriad o gyfyngu mynediad i dai marchnad newydd mewn aneddiadau penodedig i bobl lleol. Mae'r polisi yma yn rhan o nodau polisi cymdeithasol ehangach y cynghorau o gynnal a chryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.