Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 17 Mawrth 2021.
Mae Dr Brooks yn argymell y dylai Gwynedd ac Ynys Môn ymestyn y cynlluniau hyn, a byddai gennym ddiddordeb mewn deall pam nad oes mwy o awdurdodau lleol yn datblygu polisïau lleol i fynd i'r afael â materion lleol, o ystyried y cyfeirio clir sydd yn 'Polisi Cynllunio Cymru'.
Rydym yn ymwybodol iawn o alwadau am newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio i reoli materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau i'w gosod am gyfnodau byr. Er y gall y system gynllunio ddarparu mecanwaith cyflawni pellgyrhaeddol, mae arnaf ofn ei fod yn cyrraedd terfynau ei ddefnyddioldeb ar gyfer ail gartrefi, am fod y system cynllunio gwlad a thref yn rheoli'r defnydd o dir yn hytrach na pherchnogaeth, a gwn fod y Gweinidog llywodraeth leol wedi ymchwilio'n fanwl i hyn. Rwy'n gwybod ei bod wedi ystyried a oes gan y system cynllunio defnydd tir rôl yn rheoli nifer yr ail gartrefi fel rhan o adolygiad cynhwysfawr o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, ond mae arnaf ofn fod yr adolygiad wedi nodi heriau ymarferol a chyfreithiol sylfaenol gyda diffinio ail gartrefi yn nhermau cynllunio.
Heb ddiffiniad clir o beth yw ail gartref, byddai gorfodaeth yn anodd iawn ac yn creu ansicrwydd, gan wneud deddfwriaeth gynllunio ar y mater hwn yn aneffeithiol, a dyna pam ein bod yn parhau i archwilio sut y gallwn ddiffinio ail gartrefi'n well. Ac mae arnaf ofn na fyddai newid y Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, rhywbeth y mae nifer o bobl wedi'i awgrymu, yn opsiwn ymarferol ar gyfer rheoli ail gartrefi—yn rhannol am fod angen i ni wahaniaethu rhwng ail gartrefi a ddefnyddir yn bennaf gan eu perchnogion ac eiddo gwyliau sy'n cael eu gosod ar sail fasnachol, oherwydd mae'r ddau ddefnydd gwahanol yn effeithio'n wahanol ar gymunedau lleol ac felly dylid eu hystyried ar wahân.
Mae'n bosibl y gellid rheoli llety gwyliau i'w osod am gyfnodau byr drwy'r system gynllunio, ond byddai hynny'n galw am newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi newid ei phrif Ddeddf gynllunio i helpu i fynd i'r afael â mater gosod llety gwyliau am gyfnodau byr, ac rydym yn monitro hyn i weld beth y gallwn ei ddysgu ganddynt. Yn amlwg, mater i bleidiau gwleidyddol fydd penderfynu beth y maent am ei roi yn eu maniffestos a'r hyn a ddaw nesaf. O safbwynt cynllunio, rydym yn glir fod addasu deddfwriaeth sylfaenol i egluro pryd y mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn nhymor nesaf y Senedd.
Rwyf hefyd wedi gofyn i'r tîm twristiaeth yn Llywodraeth Cymru ystyried gofyn a allai'r Llywodraeth newydd fod eisiau ystyried sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y syniad o grwpiau neu gynghorau cymunedol lleol yn prynu cartrefi gwyliau mewn ardaloedd sensitif, eiddo y gallent ei osod ar rent wedyn a rhoi'r arian yn ôl i'r cymunedau hynny drwy gynlluniau tai neu gynlluniau cymunedol, fel mai'r cymunedau eu hunain a fyddai'n elwa. Dyna syniad a grybwyllwyd gan Cynog Dafis yn ddiweddar. Mae'r newidiadau hyn rydym yn gweithio arnynt, gyda'r newid i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd a chofrestru gorfodol ar gyfer eiddo i'w osod am gyfnodau byr, yn rhywbeth a allai helpu i reoli eiddo ar osod am gyfnodau byr yn ein barn ni. Ac er ein bod eisoes wedi darparu hyblygrwydd sylweddol i ymateb i'r llu o gwestiynau sy'n codi, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth. Ond rwy'n ailadrodd: nid oes un ateb hawdd i'r heriau sy'n ein hwynebu.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar ein hanes cryf o feithrin atebion tai fforddiadwy a nodi'r camau gweithredu mwyaf cytbwys ac effeithiol, sy'n allweddol, i'r heriau presennol. Rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gall pobl ifanc barhau i fyw yn eu cymunedau lleol a chryfhau'r cymunedau hyn, a dyna pam mai un o'r pethau rydym wedi'i wneud yn ddiweddar, gan nodi'r pwynt a wnaeth Mark Reckless, yw sicrhau ein bod yn deall y cysylltiad rhwng pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol a'r economi. Dyna pam y cawsom gynllun gweithredu yn ein cyfarfod bwrdd crwn ar yr economi yr wythnos diwethaf sydd bellach wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â datblygu'r economi yn y cymunedau gwledig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym eisoes wedi dechrau, ond mae'n amlwg bod mwy i'w wneud, ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd am edrych ar hyn yn nhymor nesaf y Senedd. Diolch yn fawr.