Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 17 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr i Osian Jones a Chymdeithas yr Iaith am drefnu'r ddeiseb ac i bawb ddaru ei llofnodi hi. Mae sicrhau tai addas yn y llefydd iawn ar gyfer pobl leol yn allweddol. Yng Ngwynedd ar hyn o bryd, mae yna tua 160 o unigolion, sy'n gyplau ac yn deuluoedd hefyd, wedi eu lleoli mewn llety dros dro anaddas am nad oes ganddyn nhw ddim cartref iawn. Mae dros 2,000 o drigolion Gwynedd wedi cofrestru cais am dŷ cymdeithasol. Mae'r amser cyfartalog sydd angen ei ddisgwyl cyn cael tŷ cymdeithasol yn gyson dros 400 diwrnod. Mae llawer iawn o fy ngwaith achos i yn ymwneud â phobl leol yn byw mewn tai a fflatiau anaddas a thamp, mewn tai lle mae yno ormod o bobl, teuluoedd ifanc yn gorfod rhannu cartrefi eu rhieni, a rhai, wrth gwrs, ar y stryd.
Ochr arall y geiniog ydy tai moethus sy'n wag am rannau helaeth o'r flwyddyn. Mae'r stoc tai lleol yn crebachu wrth i eiddo gael ei brynu fel ail gartrefi neu ar gyfer llety gwyliau byr. Yng Ngwynedd erbyn hyn, mae yna 7,000 o ail gartrefi neu lety gwyliau yn y sir—11 y cant o'r stoc. Ar gyfartaledd, pris tŷ yng Ngwynedd yw £155,000. Gydag incwm cyfartalog o £26,000, y gymhareb fforddiadwyedd incwm i brisiau tai yn y sir yw 5.9:1. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, fod 60 y cant o bobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
Mae gan Blaid Cymru set o fesurau pwrpasol fyddai'n dechrau mynd i'r afael â'r argyfwng tai. Mae nifer o fudiadau, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith, yn cyfeirio at fesurau priodol y gellid eu rhoi ar waith. Mae Simon Brooks hefyd wedi sôn am y math o bolisïau sydd angen eu rhoi ar waith. Mae yna gonsensws bod angen diwygiadau i bolisi a deddfwriaeth cyllid a diwygiadau i bolisi cynllunio, ond beth sydd yn gynyddol amlwg ydy mai dim ond un plaid sydd yn bwriadu gweithredu ar y polisïau yma. Geiriau gwag sydd yn dod gan Weinidogion Llafur. Mae'r broblem yn gymhleth, medden nhw. Wel, dydy'r ffaith bod rhywbeth yn gymhleth ddim yn esgus digon da dros beidio â gweithredu dros gymunedau.
Mae cynllun tai uchelgeisiol Cyngor Gwynedd yn dangos beth sy'n bosib dan arweiniad Plaid Cymru wrth i'r cyngor fwrw ati i greu stoc newydd o dai ar gyfer pobl y sir, efo premiwm yr ail gartrefi newydd yn cyfrannu at dalu am y cynllun yma. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud hyn: 'Nid yw'r farchnad agored yn gweithio er budd cymunedau Cymru, a dyma sydd wrth wraidd yr argyfwng. Yr unig fodd y gallwn ddatrys y broblem, mewn gwirionedd, fydd drwy ddeddfu i drawsnewid polisi tai fel ei fod yn blaenoriaethu cartrefi nid cyfalaf.' Cymdeithas yr Iaith sydd yn dweud hynny, a dwi'n cytuno.